Thursday, May 15, 2014
i'r eidal
Dw i ar fin cychwyn fy siwrnai i'r Eidal. Bydda i'n gobeithio dod yn ôl 2 Mehefin. Hwyl am y tro!
Wednesday, May 14, 2014
ceiropractydd
Mae fy mhen yn teimlo'n iawn ond dechreuais i gael trafferth efo fy ngwddw. Penderfynais i fynd at geiropractydd. Dw i'n ofnadwy o falch fy mod i wedi mynd achos bod yna broblem oherwydd y ddamwain ynghyd â'r effaith naturiol = dw i'n mynd yn hen! Roedd y doctor yn anhygoel o glên, a chwap ar ôl y driniaeth sydyn, roeddwn i'n teimlo'n llawer gwell! Dw i i fod i'w weld dwywaith heddiw gan fy mod i'n gadael am yr Eidal yfory. Dioch i Dr. Abel!
Monday, May 12, 2014
iris 2
Mae fy mabis yn gwneud yn arbennig o dda. Fy iris dw i'n ei feddwl wrth gwrs. Byddwn i'n dweud bod 95 y cant o'r blagur wedi blodeuo erbyn hyn. Dw i'n dal i chwynnu a'u dyfrio nhw bob yn ail ddydd.
Sunday, May 11, 2014
yn ôl i'r 80'au
Roedd yr ysgol uwchradd yn perfformio sioe gerdd o'r enw "yn ôl i'r 80'au" am ddyddiau. Gan fod un o fy merched yn perfformio (yn y cefn) es i ynghyd a gweddill y teulu i'w gweld neithiwr, sef y diwrnod olaf. Roedd y criw'n ymarfer yn galed am wythnosau ac wedi cyflwyno sioe hyfryd.
Saturday, May 10, 2014
neges o lucca
Dw i newydd glywed gan athro'r ysgol Eidaleg yn Lucca ynglŷn y llety yno. Bydda i'n aros efo teulu lleol sydd yn byw tu mewn i'r wal hynafol sydd yn cylchu'r dref! (Roeddwn i'n gobeithio am deulu felly, a dweud y gwir.) Lle bach ydy Lucca; dw i'n cael cerdded o gwmpas am wythnos i ddod i nabod y dref ryfeddol honno. Edrycha' i ymlaen!
Friday, May 9, 2014
diwrnod olaf yn ffrainc
Treuliodd fy merch a'i ffrindiau eu diwrnod olaf ym Mharis. Mae'n anhygoel clywed rhestr y llefydd maen nhw wedi ymweld â nhw, ac mewn amser byr hefyd. Hoffwn i wybod y manylion ond mae'n ymddangos nad oes ganddi ddigon o amser i sgrifennu mwy na phostio lluniau. (Does ryfedd.) Bore fory byddan nhw'n hedfan i Barcelona!
Thursday, May 8, 2014
yr ail fideo
Dw i'n teimlo'n llawer gwell heddiw. (Dw i'n dal i oeri fy mhen efo rhew.) Gan ei bod hi'n fis ers i mi wneud fideo ohona' i'n siarad Eidaleg, mi wnes i un arall sydyn gynnau bach. Wedi gweld y ddau (efo poen) dw i braidd yn siomedig peidio gweld gwelliant sylweddol. Wrth gwrs na fydd hyn yn fy stopio i rhag dysgu Eidaleg. Efallai dylwn i wneud fideo bob tri mis yn hytrach na bob mis.
Wednesday, May 7, 2014
damwain
Mae'r iris yn dal i flodeuo. Dw i mor hapus i weld blodau newydd bob bore. Dyma wneud yn siŵr i'w dyfrio nhw bob dydd. Yn anffodus ces i ddamwain yn yr ardd y bore 'ma wrth i mi wneud y gwaith. Mi wnes i faglu dros y bibell a tharo fy mhen erbyn y wal. Clywais sŵn ofnadwy fel pe bai'r pen wedi cael ei dorri! Ond diolch i Dduw, dw i'n iawn. Mae rhew ar fy mhen drwy'r dydd.
Tuesday, May 6, 2014
iris!
Maen nhw newydd flodeuo! Roeddwn i'n sbïo drwy ffenestr y gegin ar y gwely iris am ddyddiau. Pan es i at y gegin y bore 'ma, y peth cyntaf a wnes i oedd gweld y gwely iris, a dyma nhw - blodau cyntaf hardd yn disgleirio yn yr heulwen foreol. Mae yna lawer mwy o flagur eleni. (Dw i'n credu'n siŵr mai canlyniad fy ngofal drostyn nhw ydy hyn!)
Monday, May 5, 2014
peli cig
Coginiais i beli cig Eidalaidd yn ôl rysáit Nadia neithiwr. Roedden nhw'n anhygoel o flasus ac roedd y teulu'n hapus iawn. (Do, mi wnes i ferwino caws Parmesan fy hun.) Ffrio a wnes i ar badell ffrio yn hytrach na'u rhostio nhw yn y popty oherwydd bod hi'n boeth ddoe a doeddwn i ddim eisiau codi tymheredd y gegin. (Mae'n ddrwg gen i, Nadia!) Merch ddoniol ydy hi. Dw i'n cael hwyl gwrando arni hi er bod hi'n siarad Saesneg yn unig yn y fideos.
Saturday, May 3, 2014
yn lyon
Cyrhaeddodd fy merch yn ddiogel. Dwedodd fod y bobl yn Lyon yn anhygoel o glên. Pryd bynnag agorodd hi fap, daeth rhywun i'w helpu. Mae hi'n synnu'n clywed Ffrangeg ym mhob man ac yn gweld arwyddion yn Ffrangeg (er mai naturiol ydy hynny!)
Friday, May 2, 2014
i ffrainc
Mae fy ail ferch newydd adael y dref fach yn yr Eidal wedi treulio dau fis a hanner ymysg cynifer o bobl glên. Mae hi'n teithio ar y bws ar hyn o bryd a chyrraedd rhywle yn Ne Ffrainc am 5:30 yn y bore. Bydd hi'n cyfarfod efo ffrindiau o Oklahoma sydd yn digwydd bod ar eu gwyliau yno rŵan a threulio dyddiau efo'i gilydd. Am antur!
Thursday, May 1, 2014
termae romae 2
Mae'r ffilm newydd sbon hon newydd gael ei rhyddhau yn Japan. Y tro 'ma, dylai Lucius, y prif gymeriad o Rufain hynafol, adeiladu bath enfawr tu ôl Colosseo ar gyfer y gladiatoriaid. Cafodd y prosiect ffilm gymorth gan gymdeithas Sumo hyd yn oed ac roedd rhai chwaraewyr Sumo'n actio yn y ffilm gan gynnwys Koto-oushu (Telyn Ewrop) sydd wedi ymddeol yn ddiweddar. Mae'n ymddangos bod "Termae" yn mynd o nerth i nerth. (Trailer)
Subscribe to:
Posts (Atom)