
Monday, October 30, 2017
hetiau

Saturday, October 28, 2017
saboth shalom

Saboth Shalom.
Friday, October 27, 2017
golygfeydd

Yn anffodus dydy'r fideo ddim ar gael bellach.
Thursday, October 26, 2017
heddwch?
Clywais fydd yr Is-lywydd Pence yn ymweld ag Israel dros Hanukah. Lwcus iawn! Wrth gwrs nad am wyliau mae o'n mynd, ond er mwyn siarad ag arweinwyr Israel ac Awdurdod Cenedlaethol Palesteinaidd ynglŷn â gwireddu heddwch yn yr ardal. Yn fy nhyb i, does dim pwynt siarad ag Israel ar y pwnc oherwydd mai dyna'r union beth maen nhw eisiau ers iddyn nhw gael eu sefydlu fel gwladwriaeth yn 1948. Rhoddon nhw ddarn o dir i "Balestininaid" er mwyn ennill heddwch tro ar ôl y llall, ond na ddaeth heddwch erioed oherwydd nad heddwch mae'r ochr arall eisiau ond meddiannu'r tir cyfan a dinistrio Israel. Na fydd heddwch nes iddyn nhw newid eu hamcan sylfaenol.
Wednesday, October 25, 2017
ongl wahanol
Tuesday, October 24, 2017
chwiban
Monday, October 23, 2017
gorffen olion y diwrnod

Saturday, October 21, 2017
hanukia

Friday, October 20, 2017
ni lwydda unrhyw arf a luniwyd yn dy erbyn
Cyhoeddon nhw fyddan nhw byth yn cydnabod Israel, yn hytrach maen nhw'n benderfynol o'i dinistrio'n llwyr, a fyddan nhw byth yn diarfogi eu hun. Mae'n amlwg nad gan Hamas ddiddordeb mewn heddwch. Dylen nhw wybod, fodd bynnag, na fydd neb yn llwyddo os bydd o'n ymosod ar Israel. Mae'r Brenin Mawr ar eu hochr.
Thursday, October 19, 2017
pryd mae bywyd yn cychwyn?
Wrth gwrs bod bywyd yn dechrau ar y moment cenhedlu; mae'n hawdd gwybod hynny efo cymorth gwyddoniaeth fodern. Er mwyn gwthio agenda gwleidyddol a masnachol, fodd bynnag, mae'r ffaith yn cael ei wadu ar unrhyw gost. Gwych iawn bod Gwasanaethau Iechyd dan yr Arlywydd Trump newydd gyhoeddi'r elfen graidd - gwasanaethu pob Americanwr, o'r cenhedlu i farwolaeth naturiol. Mae rhai pobl yn gwylltio'n barod, dw i'n sicr.
Wednesday, October 18, 2017
cwestion
Beth ddylwn i goginio i swper? - cwestion dw i'n ei wynebu bob yn ail ddiwrnod. Wrth i mi fynd drwy fy nghasgliad o ryseitiau, gwelais hwn: Shakshuka. Wrth gwrs! Dw i heb ei wneud am sbel. Rhaid haneri'r cynhwysion fodd bynnag gan nad fydd y saig yn blasu'n dda'r diwrnod wedyn. Hoffwn i'w fwyta efo reis yn hytrach na bara gwastad. Dyma'r rysáit. Gobeithio ca' i fwyta yn y tŷ bwyta hwnnw un diwrnod.
Tuesday, October 17, 2017
cinio bach ar y dec

Monday, October 16, 2017
dim cywilydd
Does ganddi gywilydd o gwbl. Nid dim ond beio pawb arall am ei methiant, fe wnaeth Hillary Clinton hi ei hun yn gyff gwawd yn gyhoeddus gan feirniadu Brexit yn hallt. Trueni bydd Prifysgol Abertawe angen newid enw Ysgol Gyfraith unwaith eto pan geith Hillary ei gyrru at garchar am ei throseddau amrywiol yn y dyfodol agos. Gollyngdod i mi glywed, fodd bynnag, bod yna rhai sydd gan synnwyr cyffredin yn Abertawe yn protestio yn ei herbyn.
Saturday, October 14, 2017
cywilydd
Hi ydy'r lleiaf teilwng o anrhydedd. Hi ydy'r ymgorfforiad eithaf o gamddefnyddio grym gwleidyddol. Mae hi wedi aberthu bywydau'r lleill er mwyn ennill grym a chyfoeth. Mae hi wedi dweud celwydd tro ar ôl tro. Mae hi'n beio pawb arall ond hi ei hun am ei methiant. Dim ond googlo Hilary Clinton's lies sydd yn ddigon i wybod rhan o beth mae hi wedi ei wneud. Mae yna fwy na digon o dystiolaeth i'w gyrru hi at y carchar, ond mae hi'n cael ei hamddiffyn gan y bobl fawr. Trist gweld bod Prifysgol Abertawe wrthi ei bodd yn rhoi gradd anrhydeddus iddi, ac mae BBC Cymru'n falch cyhoeddi bod ganddi linach Gymreig. Mae gen i gywilydd.
Friday, October 13, 2017
ymarfer corff melys
Dw i angen ymarfer corff ar wahân i gerdded beunyddiol, ond mae gen i broblem fach efo fy nghefn a fy nhraed fel na fedra i wneud gormod. Des i ar draws fideo ymarfer corff ysgafn a ddysgir yn Eidaleg. Maen nhw'n galw fo'n ymarfer corff dolce (melys.) Diddorol! Dyma fideo perffaith er mwyn gwneud dau waith ar unwaith. Er bod y symudiadau'n araf, cewch chi deimlo yn eich cyrff ar ôl gorffen!
Thursday, October 12, 2017
newyddion da
Newyddion gorau a glywais erioed yn ddiweddar! - Cyhoeddwyd byddai'r Unol Daleithiau'n gadael UNESCO. Hwre! Mae gan UNESCO amcan da, ond maen nhw wedi troi'n arf gwleidyddol yn nwylo rhai aelodau bellach. Eu penderfyniad ynglŷn â Hebron (galw beddau Patriarchiaid Israel yn safle treftadaeth Palestiniaid) ydy uchafbwynt eu twpdra diweddaraf. Fe all llywodraeth America wario pres y trethdalwyr ar bethau call rŵan - ar y wal ar y ffiniau deheuol er enghraifft.
Wednesday, October 11, 2017
orymdaith jerwsalem
Aeth mwy na 60,000 o bobl o 80 wlad i Jerwsalem ddydd Mawrth er mwyn cymryd rhan yn Orymdaith Jerwsalem. Aethon nhw i ddangos eu cefnogaeth a chariad tuag at Israel a Jerwsalem unedig. Roedd nifer ohonyn nhw mewn gwisgoedd cenedlaethol a chario baneri eu gwledydd yn tywallt bendith ar bobl Israel. Byddwn i eisiau ymuno â nhw pe byddai gen i draed a chefn digon cryf!
Tuesday, October 10, 2017
dim neges am sbel

Monday, October 9, 2017
10 hydref
Saturday, October 7, 2017
cyfarfûm â meseia

Friday, October 6, 2017
olion y diwrnod
Cafodd Kazuo Ishiguro o Japan sydd yn ddinesydd o'r DU Wobr Llenyddiaeth Nobel. Dw i erioed wedi darllen ei lyfrau a dweud y gwir; dyma roi cais am fenthyg ei nofel dan sylw, sef the Remains of Day o lyfrgell leol. Does gen i ddim syniad fydda i'n ei hoffi neu beidio. Gawn ni weld. Gyda llaw, mae'n rhyfedd glywed Saesneg gydag acen Seisnig yn dod allan o wyneb cwbl Japaneaidd! Mae Gwobr Heddwch Nobel wedi troi'n arf y Rhyddfrydwyr i ddylanwadu'r cyhoedd bellach; gobeithio nad oedd yr un peth wedi digwydd i Wobr Llenyddiaeth.
Thursday, October 5, 2017
ar y pengliniau neu sefyll
Tra bod rhai pobl yn mynd ar eu pengliniau wrth i'r anthem genedlaethol yn cael ei chwarae, roedd dyn, i'r gwrthwyneb, yn mynnu sefyll ar ei draed pan ddaeth yr Arlywydd Trump a'i wraig i'w weld yn yr ysbyty. Cafodd ei saethu ei droed yn y gyflafan yn Las Vegas, ond dim ots; "anafiad neu beidio, bydda i'n sefyll i ddangos parch tuag at fy Arlywydd mae o'n ei haeddu," meddai. Da iawn chi, Thomas Gunderson!
Wednesday, October 4, 2017
sioe newydd

Tuesday, October 3, 2017
modrwy shema

Subscribe to:
Posts (Atom)