Saturday, December 30, 2017
go oer
Friday, December 29, 2017
yr anrheg orau

Thursday, December 28, 2017
gwin o Israel
Dw i newydd brynu dwsin o win coch a gynhyrchwyd yn Israel drwy Kosherwine ar lein. Roedd y cludiant yn rhad ac am ddim! Mae yna amrywiaeth o win oddi ar winllannoedd gwahanol. Dechreuais ar Ben Ami Cabernet Saurignon. Mae o tipyn bach yn sych i mi, ond mae ganddo arogl hyfryd. Mae gen i ddigon o win i bara am hanner blwyddyn. Modd gwych i fwynhau gwin hyfryd a chefnogi economi Israel ar yr un pryd!
Wednesday, December 27, 2017
daearyddiaeth feiblaidd

Tuesday, December 26, 2017
penwythnos

Monday, December 25, 2017
nadolig llawen
Thursday, December 21, 2017
anrheg nadolig

Wednesday, December 20, 2017
wythfed noson

Tuesday, December 19, 2017
seithfed noson

Monday, December 18, 2017
chweched noson
Sunday, December 17, 2017
pumed noson

Saturday, December 16, 2017
pedwaredd noson
Friday, December 15, 2017
trydedd noson

Cynnais dair cannwyll ar ben fy hun yn absenoldeb y gŵr. Pan ddaeth o adref, dwedodd ei fod o'n medru gweld y golau o bell. Aeth i nôl y ddau blentyn yn y brifysgol yn Missouri heddiw. Byddan nhw ar wyliau am dair wythnos ar ôl gweithio mor galed.
Thursday, December 14, 2017
yr ail noson
Wednesday, December 13, 2017
y gannwyll gyntaf

Tuesday, December 12, 2017
cynnau tân a chanhwyllau

Monday, December 11, 2017
arddangosfa celf fodern

Saturday, December 9, 2017
swrpreis!
Mae fy merch yn Japan newydd ddechrau mynd i wers gymnasteg. Roedd hi'n arfer wneud o pan oedd hi yn ei harddegau. Er bod hi heb ei ymarfer ers blynyddoedd, mae hi bob amser eisiau ail-ddechrau, meddai hi. Mae hi wrth ei bodd ac mae ei chorff yn dal i gofio'r sgil. Dydy hi ddim eisiau dweud wrth neb ac eithrio ei theulu eto, ond pan aeth hi i'r wers ddoe, gwelodd hi un o'i disgyblion a'i rieni yno! Roedd yna foment o embaras, ond dwedodd y tad ei fod o'n meddwl mynd i'r wers hefyd!
Friday, December 8, 2017
dewis
Mae gan bawb ddewis; dydy neb yn eich gorfod chi i weithredu'n dreisgar. Doeddwn ni ddim yn gweithredu'n erchyll pan gafodd Obama ei etholi dwywaith, nac Israel pan benderfynodd UNESCO nad oes cysylltiad rhwng Iddewon a Jerwsalem. Bydd eich dewis chi'n dangos pa fath o berson ydach chi.
Thursday, December 7, 2017
sefyll yn gadarn
Mae Palestiniaid yn terfysgu ar y strydoedd yn Israel yn barod dros gyhoeddiad yr Arlywydd Trump. Mae'r byd yn prysur ei feio am wneud y peth iawn yn lle condemnio’r rhai sydd yn achosi terfysgaeth. "Os byddwn ni'n gwneud polisi wrth ofyn fyddai fo'n cynhyrfu eithafwyr Mwslimaidd neu beidio, byddwn i'n cael ein parlysu'n gyfan gwbl," meddai Rabi Shmuley. Cytuno'n llwyr. Roedd yr Arlywydd Trump yn ddigon dewr a chryf i gyflawni'r hyn mor gyfiawn er gwaethaf pawb a phopeth. Dylai'r gwledydd eraill yn dilyn America a symud eu llysgenadaethau i Jerwsalem.
Wednesday, December 6, 2017
hanes

Tuesday, December 5, 2017
dod i rym
Methais i gysgu'n dda neithiwr gan feddwl am y dyddiad cau. Codais am bump i weld newyddion Breitbart. Hwrê! Wnaeth o ddim! Na arwyddodd yr Arlywydd Trump Waiver! Mae Deddf ynglŷn â Llysgenhadaeth America yn Jerwsalem o 1995 yn dod i rym ers 12 o'r gloch y bore 'ma. Rhaid i Adran Wladwriaeth siapio hi a sefydlu llysgenhadaeth yn Jerwsalem cyn gynted a bo modd. Mae rhai pobl yn gandryll a bygwth terfysgaeth tra'r lleill yn ofidus a gofyn i Arlywydd am beidio cyflawni ei addewid. Dw i ynghyd â chynifer o bobl yn hapus dros ben! Jerwsalem ydy prif ddinas Israel ers tri mil o flynyddoedd. Mae pob llysgenhadaeth i fod i fod yn y brif ddinas.
Saturday, December 2, 2017
rhydded
Pasiodd Senedd y ddeddfwriaeth arfaethedig ddoe a fyddai'n diddymu mandad Obamacare. Bydd gan bobl America ddewis prynu neu beidio ei brynu, neu beidio prynu yswiriant iechyd o gwbl. Hyd yma dylech chi dalu dirwy os nad oes gynnoch chi yswiriant. (Mae'n rhyfedd iawn mewn gwlad lle mae gynnoch chi hawl i ladd eich babis, nad oes gynnoch chi hawl i beidio prynu yswiriant iechyd.) Mater egwyddor ydy hyn. Does gan wladwriaeth hawl i orfodi'r bobl i brynu pethau. Rhydded o'r diwedd.
Subscribe to:
Posts (Atom)