Dw i'n hapus gweld bod tymor alergedd y gwanwyn yn dirwyn i ben. Wrth gadw fy llygaid ar ragolygon yr alergedd, es i am dro yn y gymdogaeth am y tro cyntaf ers wythnosau. Ces i fy nharo gan y gwyrddni llachar a blodau gwyllt hardd ym mhob man. Mae'n blodau ni'n dod ymlaen yn wych hefyd. Oni bai am yr alergedd, byddwn i'n gwirioni ar y gwanwyn!
Gorffennodd fy merch y murlun diweddaraf wedi gweithio'n ddygn am ddeuddydd gyda'i chynorthwyydd medrus, sef ei gŵr. Mae croen cynnes y model yn disgleirio'n egsotig ac esmwyth ar y brics garw. Bydd prosiect nesa fy merch yn Oklahoma City. Bydd hi'n paentio merch Japaneaidd ar wal fewnol tŷ bwyta newydd.
Mae'r wyth artist wrthi'n paentio murluniau ar gyfer yr ŵyl. Dwedodd fy merch fod pawb yn y dref yn hynod o glên, a bod y dref yn lân ym mhob man; efallai mai un o'r trefi mwyaf diogel yn America ydy Miami.
Cynhelir gŵyl furlun yn Miami, Oklahoma (dim yn Florida) yfory. Bydd fy merch yn cymryd rhan ynddi; cyrhaeddodd hi a'i gŵr y dref fach honno neithiwr a dechrau paentio. Byddan nhw wrthi drwy'r dydd heddiw i fod yn barod am yfory.
Mae gen i hoff awdur newydd, sef Clive Cussler. Gyrrodd tad y gŵr un o nofelau Cussler amser maith yn ôl, ac roedd hi ar silff ers hynny. Dechreuais ei darllen yn ddiweddar, wedi methu ffeindio llyfr diddorol. Mae hi'n afaelgar o'r dudalen gyntaf, yr union fel nofelau T. Llew. Nofel dditectif ydy the Chase; mae'r stori'n datblygu o gwmpas Butcher Bandit, lleidr banc ac Isaac Bell, ditectif sydd yn ceisio ei ddal. Mae yna anhygoel o ymlid ar geir a locomotif gyda daeargryn erchyll San Franciso yn 1906 fel y cefndir. Mae Cussler sydd yn 87 oed, yn dal i ysgrifennu. Mae gan y llyfrgell leol ddwsinau o'i nofelau. Mae gen i ddigon i ddarllen am sbel!
Mae'r gwaith adeiladu newydd orffen; mae gynnon ni ddec newydd a chadarn. Roedd yn rhyfeddol pa mor effeithiol a chyflym oedd y gweithiwyr. Mae'n bleserus gweld y dec. Efallai y bydda i'n treulio mwy o amser arno fo nag o'r blaen.
Mae'n dec cefn ni'n fregus a pheryglus erbyn hyn. Cyflogon ni arbenigwr i adeiladu un newydd. Dyma nhw wrthi heddiw, wedi cael gwared ar yr hen un ddoe. Maen nhw'n anhygoel o fedrus! Edrych ymlaen at sefyll ar yr un newydd yn fuan.
Dw i a'r gŵr newydd ddod adref wedi treulio'r pen wythnos gwych gyda'n merch ni a'i gŵr yn Norman. Ddydd Sadwrn, aeth y merched i siopa (am fwyd!) tra bod y dynion wedi mynd i safle saethu i fwynhau hobi fy ngŵr. Gyda'r nos cawson ni swper yn Winston, tŷ bwyta poblogaidd. Mae'n amlwg fod y perchennog yn hoff iawn o Winston Churchil gan bod y lle yn llawn o'i bortreadau. Ces i frithyll wedi'i grilio, quinoa a phigoglys. Ynghyd â gwydraid o win gwyn, roedd yn saig flasus dros ben.
"Pam yr ydych yn ceisio ymhlith y meirw'r hwn sy'n fyw? Nid yw ef yma; y mae wedi ei gyfodi."
Mae gen i obaith yn yr hwn a atgyfododd. Fe ddaw'n ôl un diwrnod i gasglu ei bobl, i farnu'r byd, i adnewyddu'r ddaear a'r nefoedd, ac i sefydlu ei deyrnas y bydd yn para am byth. Tyrd, yr Arglwydd Iesu!
Pasg Hapus!
Roeddwn i a'r gŵr ynghyd â'n merch ni a'i gŵr yn mynychu'r Seder neithiwr. Daeth grŵp o Iddewon Mesianic i helpu'r eglwys i gynnal y noson arbennig. Mae'n rhyfeddol bod popeth a wneir yn y Seder yn cyfeirio at Iesu Grist, a dweud y gwir, ac mae'r rhan fwyaf o'r Iddewon yn ei ddathlu heb wybod y cysylltiad. Dw i'n dal ati weddïo y byddan nhw'n dod i adnabod eu Meseia.
Dyma fo o'r diwedd. Llwyddais i wneud galette de blé noir, sef crempog gwenith yr hydd, wedi methu hanner dwsin o weithiau. Mae'n edrych yn ddigon hawdd ar fideo, ond roedd tipyn o her heb offer coginio penodol. Yn hytrach nag wy a chaws, defnyddiais fanana, menyn cnau daear a naddion cnau coco y tro 'ma. Blasus iawn.
Mae wythnos Passover arnon ni. Dw i a'r gŵr yn mynd i Norman i fynychu'r Seder gyda'n merch ni a'i gŵr. Bydd Eglwys Antioch, eu heglwys nhw'n cynnal y Seder a chinio kosher nos Wener. Byddwn ni'n dathlu'r Pasg hefyd, gyda nhw am y tro cyntaf. Edrych ymlaen!
Bwdha Bowl - rhoddodd fy merch y ddysgl boblogaidd honno enw newydd, sef Genki Bowl. Mae genki yn golygu iach yn Japaneg. Syniad gwych yn fy nhyb i. Fe wnes i baratoi Genki Bowl i swper ddoe. Roedd yn hynod o flasus, er mai fi sydd yn dweud. (Mae'r gŵr yn cynuno â fi.) Cynhwysion: ffacbys, taten felys, cêl, afocado ar wely o reis a quinoa, gyda gwymon sych, leim, garlleg wedi'i ffrio mewn olew olewydd.
Gorffennodd fy merch furlun arall. Roedd hi'n gweithio'n hynod o galed, gyda chymorth ei gŵr, yr wythnos diwethaf ym maes awyr Houston. Bydd Little Purse Dumpling, bwyty cadwyn, yn agor siop arall yno. Cafodd fy merch ei gofyn i baentio murlun ar y wal hir dros ben. Gofynnwyd i greu'r un golygfeydd â'r un ym maes Awyr Newark. Cewch chi ei weld yn fuan pan hedfanwch chi i Houston.
Des i o hyd i dŷ bwyta lle coginir pitsa Eidalaidd go iawn. Yn Muskogee, y dref dros nesaf, mae tŷ bwyta o enw American Pie (enw anaddas yn fy nhyb i!) Doeddwn i ddim yn gwybod amdano fo nes ddoe. Dyma fynd gyda'r gŵr yno yn gyrru am 40 munud. Mae'r pitsa'n cael eu crasu gan goed tân. Dewisais bitsa Margherita heb weld y fwydlen. Dyma fo! Caws Mozzallera a basil ffres ar ben crystyn crensiog!
Dyma rifyn diweddaraf cylchgrawn twristiaid Oklahoma City. "Hela murluniau" ydy'r prif bwnc, a chafodd murlun fy merch ei argraffu ar y clawr! Mae mwy a mwy o furluniau yn y ddinas fawr honno ynghyd â'r dinasoedd eraill yn ddiweddar. Mae'n ymddangos bod teithio i'w gweld nhw'n mynd yn weithgaredd poblogaidd.
Tymor braf ydy gwanwyn i'r rhan fwyaf o bobl, ond i mi, amser gwaethaf y flwyddyn ydy o. Tymor alergedd ydy gwanwyn. Mae'r blodau derwen yn siglo yn y gwynt yn fygythiol. Yn fuan, byddan nhw'n dechrau taflu eu paill o gwmpas yn lliwio popeth yn wyrdd. Bydda i'n gorfod rhoi'r gorau i gerdded tu allan nes diwedd y tymor. Dw i'n ddiolchgar fy mod i wedi cael cerdded yn edmygu'r blodau hardd ddechrau'r wythnos 'ma (am y tro olaf!)
Ymwelodd fy merch yn Japan â'i nain. Cafodd ei synnu o newydd i weld pa mor sionc ydy'r hen ddynes (bydd hi'n troi'n 97 oed y mis yma.) Mae ganddi glyw da ac mae hi'n medru siarad heb flinder am oriau. Er bod hi'n tueddu i anghofio digwyddiadau diweddar, mae hi'n cofio hen bethau'n ardderchog. Cannodd gân Tsieineaidd a ddysgodd gan gogydd Tsieineaidd tri chwarter canrif yn ôl.
Wedi mynd at y ceiropractydd, cerddais ar y campws y bore 'ma. Mae hi'n ddiwrnod braf o wanwyn, llawn o heulwen lachar heb wynt. Mae blodau ym mhobman. Roedd yn bleserus dros ben cerdded o gwmpas am hanner awr. Efallai na fydd y dref hon yn ennill gwobr Deg Tref Harddaf yn America, ond gallir darganfod digon o harddwch.
Roedd yn edrych pe bai'r gaeaf caled wedi lladd ein hydrangeas druan ni fisoedd yn ôl. Roeddwn i'n sylwi dyddiau'n ôl, fodd bynnag, bod yna dipyn bach o wyrdd ar y gwaelod. Mae o'n tyfu, a thyfu, a heddiw, edrychwch! Mae o'n ôl! Hwrê!
Dw i newydd glywed buodd Evelyn, ffrind oedrannus a oedd yn dioddef o ganser farw neithiwr. Symudodd hi o'r dref yma i Dalaith Minnesota i fyw gyda'i merch a'i theulu sawl blwyddyn yn ôl. Dynes siriol a sionc yn ei hysbryd oedd hi. Dw i'n hapus, er fy mod i'n ei cholli hi, ei bod hi gyda'r Arglwydd bellach wedi cael ei rhyddhau rhag y poen.
Yn ddiweddar dw i'n gwneud y gwaith siopa wythnosol yn gynt ar ddydd Gwener. Yna, bydd gen i ddigon o amser i drefnu popeth yn y prynhawn, a chroesawu Shabbat heb frysio. Fel arfer, byddwn ni'n bwyta'r gweddill o swper y noson gynt, neu bydda i'n paratoi pethau syml yn gyflym ar ddydd Gwener. Y peth pwysig ydy cael digon o amser i werthfawrogi Shabbat a grëwyd gan Dduw.
Shabbat Shalom
Gyrrodd fy merch hynaf neges ata i'n llawn cyffro. Cafodd comisiwn arall i baentio murlun. Bydd hi'n creu un bob wythnos mewn llefydd gwahanol y mis yma, yn Houston, Oklahoma City a Mimami (Oklahoma, dim Florida.) Yna bydd hi'n paentio un arall yn Virginia y mis nesaf, un arall yn San Diego ym mis Medi. Mae cynllun ar y gweill i baentio un ar loches bomiau yn Israel hefyd. Mae hi'n bwrw ymlaen fel artist murlun.
Mae'r gŵr yn dal i gadw'n brysur. Mae o'n brysurach yn ddiweddar wrth ei gwmni dyfu, a'i ddiddordeb ddatblygu, a dweud y gwir. Dw i wedi hen gyfarwydd â'n nith wag ni, a setlo i lawr i'r drefn newydd. Pan godais fy llaw at y gŵr sydd yn gyrru i ffwrdd i wneud ei waith y bore 'ma, fedrwn i ddim peidio â chofio rhan o stori blant;
"Mae'r hen ddyn yn mynd i'r mynydd i dorri coed tân tra bod y hen wraig yn mynd i'r nant i olchi'r dillad."
Mae fy mab ifancaf wrthi'n paratoi araith fer ar gyfer y dosbarth araith. Dyma bedwar pwnc a gyflwynodd i'r athrawes. Bydd o'n dewis un nes ymlaen.
1: Pam nad ydy'r wal ffin yn anfoesol.
2: Pam mae mewnfudwyr anghyfreithlon yn beryglus i gymunedau America.
3: Pam mae cyfyngiadau ar ynnau yn anghyfansoddiadol.
4: Pam mae erthyliadau yn ddrygionus.
Mae myfyrwyr prifysgolion yn ofnadwy o dwp yn ddiweddar, ond mae ganddo gymaint o synnwyr cyffredin! Ar ben hynny, dwedodd yr athrawes fod y pedwar pwnc i gyd yn dda a rhesymol. Dw i'n hynod o ddiolchgar bod o a'i chwaer yn cael mynychu'r brifysgol honno!
Mae llywodraeth Japan newydd gyhoeddi enw ymerodrol newydd, sef Reiwa. Roedd llawer o ddyfalu ynglŷn â'r enw newydd yn ddiweddar. Welais mohono ar y rhestr! Gallai "rei" olygu "gorchymyn," ond yn yr achos hwn, mae o'n golygu "da" neu "bendigaid.' Cytgord ydy "wa." Bydd yr ymerawdwr presennol yn ymddiswyddo ddiwedd y mis oherwydd ei salwch, a bydd ei fab yn ei olynu 1af Mai.