Codais y Ddraig Goch o flaen y drws, a phostio cyfarchion Ddydd Gŵyl Dewi'r bore 'ma. Yna, roeddwn i'n sylweddoli mai yfory ydy'r 1af Mawrth! Dw i newydd dynnu’r faner yn ôl yn gyflym, a symud y post yn y blwch drafft. Tan yfory felly.
Tuesday, February 28, 2023
Monday, February 27, 2023
corwynt
Aeth corwynt drwy Norman, Oklahoma lle oedd fy merch a'i gŵr yn arfer byw. (Maen nhw'n rentio eu tŷ bellach.) Cafodd y tai dros y stryd eu dinistrio'n llwyr tra bod y rhai ar ochr tŷ fy merch heb ddifrod. Mae'n dangos bod y bobl yn ddiogel, a bydd yr yswiriant yn talu dros y tai a gollon nhw, ond bydd yn gyfnod ofnadwy o galed am fisoedd.
Saturday, February 25, 2023
blodau ceirios cyntaf
Dyma ddillad (Blodau Ceirios Cyntaf) ar gyfer ymarfer corff ac ymlacio mae fy merch hynaf newydd ddylunio. Maen nhw ar seiliedig ar 72 tymor micro Japan. Tybed fydd hi'n bwriadu dylunio 71 gwahanol ddillad eleni? Gawn ni weld.
Friday, February 24, 2023
twll sydyn
Ymddangosodd dwll dan fondo yn sydyn. Does gen i syniad beth ydy'r achos. Efallai dim ond bod y tŷ yn heneiddio. Dyma i'r gŵr gau'r twll gyda thâp dwythell a masgio er mwyn atal rhyw anifeiliaid bach yn mynd i mewn a gwneud nyth.
Wednesday, February 22, 2023
het gwych
Cafodd y gŵr anrheg sydyn yn annisgwyl gan y cymydog drws nesaf - het Trump 2024! Prynodd y cymydog un iddo ei hun ac arall i'r gŵr. Mae'r gŵr wrth ei fodd wrth gwrs, ac yn ei gwisgo ym mhob man, hyd yn oed yn y tŷ.
Tuesday, February 21, 2023
yn lle nuttela
Monday, February 20, 2023
Saturday, February 18, 2023
coffi ysgafn
Roedd gen i eisiau sydyn ar goffi wedi ei baratoi gyda dŵr oer. Mae o'n hynod o boblogaidd yn barod, ond doeddwn i ddim yn bwrw sylw arno fo tan yn ddiweddar. Mae o'n ysgafn heb fod yn sur. Dw i ddim yn hoffi diod oer, ac felly bydda i'n ei gynhesu gyda llawer o lefrith soi. Mae'n hynod o hawdd ei baratoi ond yn drafferthus ei hidlo fodd bynnag. Bydda i eisiau bagiau rhwyll dafladwy fel hyn.
Thursday, February 16, 2023
pothos
Cawson ni bothos gan ffrind ddoe. Doedd gynnon ni ddim planhigion yn y tŷ ers blynyddoedd. Doedd gen i ddim diddordeb. Braf gweld peth gwyrdd wedi'r cwbl. Mae'n ymddangos mai hynod o hawdd gofalu am bothos; planhigyn perffaith i mi!
Wednesday, February 15, 2023
dim gwastraff
Dw i heb gael gwared ar y lint o'r peiriant sychu am sbel. Casglais gryn dipyn heddiw. Na thaflais o yn y bin sbwriel, ond yn y bag o frigau a chonau pinwydd yn y gornel. Defnyddir nhw i gynnau tân yn y stôf llosgi coed.
Tuesday, February 14, 2023
lucca
Mae fy ail ferch yn Japan eisiau mynd i'r Eidal yn ystod ei gwyliau gwanwyn. Cafodd awydd hollol sydyn. (Roedd hi'n dysgu Saesneg i blant am dymor yno o'r blaen.) Mae hi eisiau dysgu Eidaleg ynghyd â darlunio y tro 'ma. Gofynnodd i mi am y cwrs Eidaleg a fynychais yn Lucca yn 2014. Dyma bori'r lluniau wrth gofio'r profiad braf a ges i. (y llun: cinio yn Sgwâr Puccini)
Monday, February 13, 2023
damwain unigryw
Ces i ddamwain unigryw yn y tŷ ddeuddydd yn ôl. Syrthiodd y stôl a oeddwn i arno, a ches i godwm ofnadwy o galed ar y llawr pren. Drwy drugaredd Duw, na throwyd esgyrn, ond roeddwn i mewn poen ofnadwy am sbel. Dw i'n teimlo'n llawer gwell heddiw. Rhaid i mi fod yn fwy gofalus (wrth i mi heneiddio!) Gweler y tramgwyddwr yn y llun.
Saturday, February 11, 2023
llaw arth
Friday, February 10, 2023
cappucino
Dw i newydd ddarganfod bod llefrith soia'n dda i wneud cappuccino. Ffeindies y modd gorau i greu ewynnau hefyd - ysgwydwch lefrith cynnes mewn llestr wedi'i gau'n dynn. Mae hyn yn gweithio'n llawer gwell na'r offerynnau drud (ac eithrio un proffesiynol wrth gwrs.) Yr anfantais ydy bydd ewynnau'n diflannu'n gyflym!
Tuesday, February 7, 2023
wyau
Wrth i brisiau popeth gynyddu’n gyflym (diolch i'r llywodraeth gyfredol,) dw i a'r gŵr yn ceisio arbed pres mwy nag o'r blaen. Mae'n hurt pa mor ddrud ydy wyau'n ddiweddar. Mae'r gŵr yn cael brecwast yn ffreutur y brifysgol bob wythnos, a bwyta cymaint ag y myn.
Monday, February 6, 2023
lle mae'r caws?
Prynu pecyn o gaws a wnes i ddydd Gwener. Dw i'n siŵr fy mod i oherwydd bod gen i dderbynneb. Ond methais ei ffeindio. Efallai fy mod i wedi ei adael at y til yn ddamweiniol. Yna, ffeindiais o ddeuddydd wedyn, mewn drôr yn y gegin.....
Saturday, February 4, 2023
dadmer
Wrth i'r tymheredd godi, mae'r strydoedd yn ddiogel o'r diwedd. Roeddwn i'n medru cerdded tu allan am y tro cyntaf ers wythnos. Er bod y gwynt yn oeraidd, roedd yr awyr yn ffres ac adfywiol. Roedd mor braf!
Thursday, February 2, 2023
gwresogydd bach
Dw i'n hoff iawn o'r gwresogydd bach hwn. Mae o'n cynhesu ystafell fach yn effeithiol heb chwythu awyr annifyr. Pan fod gen i waeth wrth y ddesg, bydda i'n gynnes braf tra bod y gŵr yn gweithio ar ei gyfrifiadur wrth y tân yn yr ystafell fyw. Dyn ni'n arbed pres hefyd heb ddefnyddio'r gwres canolog.
Subscribe to:
Posts (Atom)