Mae fy merch hynaf newydd gychwyn paentio murlun, ar wal clinig harddwch yn Oklamoha City. Fel arfer bydd hi'n tynnu amlinelliad trwy daflunio'r ddelwedd gyda'r hwyr, ond mae hi'n defnyddio modd arall y tro hwn, sef dull grid. Yn lle llinellau, fodd bynnag, ysgrifennodd llythyrenau Saesneg a Japaneg!
Wednesday, May 31, 2023
Tuesday, May 30, 2023
dathliad bach a chlyd
Penblwydd fy mab yng nghyfraith (gŵr fy nhrydedd ferch yn Japan) ydy hi heddiw. Gyrrais gerdyn a wnaed gyda llaw yn y dref hon bythefnos yn ôl. Mae o newydd gyrraedd (ar ei benblwydd.) Dydy o ddim yn hoffi partïon swnllyd, meddai fy merch. Ac felly cawson nhw ddathliad bach a chlyd gartref. Mae o mor debyg i mi a'r teulu!
Monday, May 29, 2023
dydd y cofio
Diolch i'r oll a roddodd eu bywydau fel y bydden ni'n cael byw mewn rhyddid. Mae arnon ni gyfrifoldeb i'w warchod.
Saturday, May 27, 2023
katfish kitchen
Es i a'r gŵr i dŷ bwyta'r wythnos hon yn barod (I ddathlu'n penblwydd priodas,) ond aethon ni i Katfish Kitchen neithiwr beth bynnag. Mae'r bwyd a gwasanaeth yn ardderchog bob tro. Cafodd y gŵr stêc hambyrgyr, a ches i dendrau gyw iâr. Roedd y maint yn ormod i mi! Des i ag hanner o'r plât adref.
Friday, May 26, 2023
dwy ar yr un bachyn
Wedi dyfeisio rac het flynyddoedd yn ôl, mae'r gŵr yn dal i brynu het yn raddol. Bellach mae o'n hongian dwy ar yr un bachyn. Rhaid iddo ehangu’r rac cyn hir!
Wednesday, May 24, 2023
41 mlynedd
Es i a'r gŵr i Napoli's i ddathlu'n penblwydd priodas ni neithiwr. Cafodd o spaghetti gyda pheli cig; "Heliwr Cyw Iâr" gyda phasta heb glwtyn i mi. Gorffennodd y pryd gyda Tiramisu, ein traddodiad ni bellach. Roedd popeth yn flasus iawn!
Monday, May 22, 2023
bwrdd perffaith
Mae Keith, ein dyn o bob gwaith, yn gweithio i ni heddiw eto. Torrodd y lawnt blaen yn gyntaf. Rŵan, mae o wrthi'n golchi ein ceir ni. Byddwn ni'n darparu dŵr neu goffi iddo tra ei fod o'n gweithio am dair awr mwy neu lai. Dyma'r gŵr osod cwpan o ddŵr ar fonyn coed, bwrdd perffaith! (Mae gwiwerod yn hoffi bwyta cnau arno fo hefyd.)
Friday, May 19, 2023
30 doler
Ces i 30 doler gan un o fy merched yn anrheg benblwydd. Dyma fynd i siop leol i brynu beth bynnag byddwn i eisiau! Wedi meddwl yn galed, prynais y rhain:
sebon organig, siampŵ soled organig, mêl lleol (a wnaed yn y dref hon,) a phâr o sliperi hynod o gyfforddus.
Gyrrais y llun hwn at fy merch, a diolch iddi.
Wednesday, May 17, 2023
arwydd
Mae gan deulu yn y gymdogaeth ardd helaeth a hardd. Mae hen ddwy ddynes wrthi'n garddio drwy'r gwanwyn bob blwyddyn. (Dw i wedi postio lluniau o'u pwmpenni enfawr o'r blaen.) Gwelais y bore 'ma arwydd newydd hon yn eu gardd flaen. Gobeithio na fydd neb yn meiddio!
Monday, May 15, 2023
tŷ bwyta gwell
Es i a'r gŵr i El Mocajete y tro 'ma yn hytrach na El Zarape. Mae nifer o dai bwyta Mecsicanaidd yn y dref hon, ond byddwn ni'n mynd i El Zarape fel arfer oherwydd mai agosaf at ein tŷ ni mae o. Does dim llawer o wahaniaeth yn fy nhyb i. Ces i fy synnu i ddarganfod bod El Mocajete yn llawer gwell - yr awyrgylch, dewis a phrisiau. Dyma'r bwyd a ges i, sef enchilada cyw iâr gyda saws guacamole.
Saturday, May 13, 2023
casglu manna
Dw i'n casglu chwyn bwytadwy bob bore bellach. Mae yna gymaint yn yr iard gefn. Dim ond digon i fy nghinio bydda i'n casglu bob tro. Dw i'n teimlo fel un o'r Israeliaid yn anialwch Sinai yn casglu manna bob bore.
Friday, May 12, 2023
mis i ddathlu
Fel rhan o ddathliad ar gyfer mis treftadaeth Asiaidd America ac Ynysoedd y Môr Tawel, roedd perfformiad yn yr amgueddfa hanes o flaen Senedd Oklahoma. Cafodd fy merch hynaf ei gwahodd i arddangos ei phaentiadau. Dyma iddi gael cyfle i ddathlu'r wŷl ynghyd â'r criw drwm Japaneaidd.
Wednesday, May 10, 2023
chwyn i ginio
Wedi glaw a heulwen, mae'r chwyn yn yr iard yn tyfu'n nerthol. Dyma gasglu rhai i fy nghinio - dail dant y llaw a plantain. Bydda i'n ychwanegu bresych, wy a chaws i goginio rhyw fath o omled.
Tuesday, May 9, 2023
o nerth i nerth
Mae'n iris ni'n mynd o nerth i nerth. Maen nhw'n lledaenu’n gyflym heb gymorth.(Blodau perffaith i ni!) Mae'n ymddangos bod y tywydd oer wedi gorffen o'r diwedd yn Oklahoma, yn llawer hwyrach nag arfer. Bydd yn dymor hydrangea'n fuan.
Monday, May 8, 2023
fel spiderman
Gosododd fy merch hynaf fwydwr adar ar ei ffenestr gefn. Roedd hi'n disgwyl i cardinals neu adar bach del ddod i fwyta hadau. Pwy a ddaeth yn eu lle ond gwiwer digywilydd! Roedd hi'n cerdded ar y wal fertigol fel Spiderman, a neidiodd yn y bwydwr yn ddeheuig. Dyma screenshot o'r fideo a dynnodd fy merch.
Friday, May 5, 2023
gŵyl plant
Mae fy merch hynaf yn cadw traddodiadau Japan yn ffyddlon. Ar gyfer Gŵyl Plant heddiw, mae hi wedi addurno ei thŷ gyda helmed a streamers ar ffurf carp. Ychwanegodd hi dail derw sydd yn symbol mawredd a dewrder. Mae gan y cwpanau arfbais ein teulu arnyn nhw.
Thursday, May 4, 2023
ymdopi â bidenflation
Caeodd ffreutur y brifysgol wrth y flwyddyn academaidd ddirwyn i ben. Gan fydd mynd i dŷ bwyta bob wythnos yn rhy gostus yn ddyddiau hyn, diolch i Bidenflation, penderfynais a gŵr gwneud tecawê cymaint â phosib, a mynd i dŷ bwyta unwaith y mis efallai. Neithiwr, cawson ni bitsa o Sam & Ella's. Roedd yn ardderchog fel arfer. Mae'r pris wedi cynyddu, fodd bynnag, diolch i Bidenflation eto. Yn lle archebu salad gyda chyw iâr fel arfer, bwyton ni fag o leisiau parod a thomatos bach o Walmart. Cawson ni swper gwych.
Tuesday, May 2, 2023
bwyd o calabria
Monday, May 1, 2023
rosyn cyntaf
Mae'r gwanwyn yn bwrw ymlaen o nerth i nerth - lili'r dyffryn, asalea ac iris. Yna, mae'n rosyn cyntaf ni newydd flodeuo. Dw i heb symptomau'r alergedd eleni, am y tro cyntaf ers hanner canrif, diolch i olew caster, ac yn cael mynd am dro bob dydd yn y gwanwyn.
Subscribe to:
Posts (Atom)