Tuesday, July 30, 2024

walmart

Mae fy ail a trydedd ferch gyda'i gŵr a'r babi newydd yn ymweld â fi a'r gŵr. Am y tro cyntaf i ni weld ein hwyres ifancaf. Mae hi'n hynod o annwyl. Am y tro cyntaf hefyd i ŵr fy merch i ddod i America; y lle cyntaf roedd o eisiau mynd ydy Walmart! Dyma nhw. Cafodd o a fy merch hefyd sydd oddi cartref dros bum mlynedd eu synnu gweld bagiau enfawr o rawnfwydydd.

Monday, July 29, 2024

nef a daear

Gorffennodd fy merch y murlun diweddaraf yn llwyddiannus. Mae'r trigolion wrth eu boddau, a thynnu lluniau o flaen o. "Nef a Daear" ydy'r teitl yn seiliedig ar ddawns a berfformiwyd gan Pina Bausch, y ddynes enwog a oedd yn dod o'r pentref hwnnw. Mae fy merch a'i gŵr yn mwynhau gwyliau yn yr Almaen cyn iddyn nhw ddod adref ddiwedd yr wythnos.

Tuesday, July 23, 2024

ble mae'r arlywydd go iawn?


"Ga' i siarad â Trump? Ble mae o? Hoffwn gael cyfarfod ag arlywydd go iawn," meddai prif weinidog Israel, wedi cyrraedd America. Hollol gredadwy! Go da, y Wenynen unwaith eto!

Gwahodd a wnaeth Donald Trump Bibi Netanyahu i Mar-a-Lago wedi'r cwbl.

Monday, July 22, 2024

mae'r addewid yn dal

"Bendithiaf y rhai sy'n dy fendithio, a melltithiaf y rhai sy'n dy felltithio, ac ynot ti bendithir holl dylwythau'r ddaear.” Genesis 12:3

Mae rhai yn gwrthwynebu bendith Duw ar ddisgynyddion Abraham oherwydd hanes anffyddlondeb Israel. Ond nid dyna'r pwynt. Mae dewis Duw'n dibynnu ar Ei ras ac er mwyn Ei enw Ei hun. Mae'r addewidion yn dal. Bydd y rhai sy'n bendithio Israel yn cael eu bendithio, a bydd y rhai sy'n gwneud niwed iddyn nhw'n wynebu dicter Duw. I rai pobl, gall fod yn anodd sefyll a siarad dros Israel yn yr hinsawdd gyfredol, ond mae eisiau ffrindiau ar Israel rŵan yn fwy nag erioed. Well i ni fod ar ochr Dduw yn hytrach na ar ochr Ei gelynion.

Saturday, July 20, 2024

llwyddodd buwch ddringo i'r do ar oleddf


Yn erbyn esgus gwirion Pen Gwasanaeth Cudd yr Unol Daleithiau, wedi iddyn nhw fethu amddiffyn y cyn arlywydd Trump, mae memes doniol yn mynd o gwmpas yn helaeth. Hwn ydy fy ffefryn. Mae angen chwerthin arnon ni yn y byd tywyll hwn, nag oes?

Friday, July 19, 2024

canlyniad annisgwyl


Mae Donald Trump yn edrych yn wahanol, wedi'r ymosodiad ar ei fywyd yn ddiweddar; mae o'n ymddangos yn feddylgar a llai cellweirus. Fel dwedodd Franklin Graham yn y confensiwn Gweriniaethol, "pan fyddwch chi'n mynd drwy’r profiadau felly, byddan nhw'n eich newid chi. Gellir gwneud i chi ail-feddwl am eich bywydau a'ch blaenoriaethau chi."

Un peth yn amlwg. Dygodd canlyniad hollol groes i gynllun y drygionus - unodd y trosedd erchyll bobl America. Bellach, mae mwy a mwy ohonyn nhw'n cefnogi Donald Trump.

Wednesday, July 17, 2024

dewis delfrydol

Mae'n rhaid i Donald Trump ddewis dyn delfrydol ar gyfer yr ymgeisydd is-lywydd, oherwydd bod ei elynion yn gwylltio'n lân ac yn ofnus tu hwnt.
y llun: J.D. Vance wrth Wal Jerwsalem

"Rho inni gymorth rhag y gelyn, oherwydd ofer yw ymwared dynol.
Gyda Duw fe wnawn wrhydri; ef fydd yn sathru ein gelynion."
Y Salmau 60:11, 12

Tuesday, July 16, 2024

bwrw dy faich

"Bwrw dy faich ar yr Arglwydd, ac fe'th gynnal di."
y Salmau 55:22

Monday, July 15, 2024

gras Duw

Dim ond gras Duw a gweddïau taer ei bobl achubodd bywyd y cyn Arlywydd Trump. "Bydded i ein cenedl ni fod yn rhagorol unwaith eto yng ngolwg Duw." Amen.

Saturday, July 13, 2024

hwb aruthrol i boblogrwydd mr. biden


Cafodd dementia Mr. Biden ei weld yn glir gan y byd yn ddiweddar er gwaethaf ymdrechion y Democratiaid a'r prif gyfryngau i'w guddio rhag y cyhoedd. Trodd y Wenynen ei "gaffe" enwog yn erthygl ofnadwy o ddoniol. Un o'i gorau mae hi!

Friday, July 12, 2024

coginio er gwaethaf rocedi

Hyd yn oed wedi'r holl drigolion eu gwacáu oherwydd ymosodiadau rocedi Hezbollah, mae'r gynulleidfa Fesianaidd yn Kiryat Shmona, yng ngogledd Israel yn dal i wasanaethu milwyr y IDF gan goginio prydau o fwyd poeth bob dydd. Goleuni mewn tywyllwch maen nhw. 

Wednesday, July 10, 2024

ugain addewid y blaid weriniaethol



Mae'r blaid wedi mabwysiadu polisïau hynod o syml a chlir y cyn Arlywydd Trump. Maen nhw'n ardderchog a hollol resymol. Dw i'n eu cefnogi nhw cant y cant.

Tuesday, July 9, 2024

murlun yn yr almaen

Yn yr Almaen bydd fy merch hynaf yn peintio'r murlun nesaf. Bydd hi a’i gŵr yn hedfan i Wuppertal ger Cologne i greu murlun mawr ar wal adeilad 4 llawr, murlun mwyaf iddi. Mae'r trefnydd trefnus wrthi'n trin y wal ar ei chyfer hi ar hyn o bryd. (clên iawn!)

Monday, July 8, 2024

y porth

“Pe bai eich pechodau fel ysgarlad, fe fyddant cyn wynned â'r eira;
pe baent cyn goched â phorffor, fe ânt fel gwlân." Eseia 1:18

"Carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy'n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol."  Ioan 3:16

Mae'r porth agor i bawb, ond cul.

Dywedodd Iesu wrtho, “Myfi yw'r ffordd a'r gwirionedd a'r bywyd. Nid yw neb yn dod at y Tad ond trwof fi." Ioan 14:6

Friday, July 5, 2024

y gwir ryddid

Gwlad y Rhydd, Cartref y Dewr...

Wir, mae America yn wlad rydd, brin yn yr hanes dynol. Mae ond un gwir ryddid, fodd bynnag, sef rhyddid drwy Iesu Grist.

"Felly os yw'r Mab yn eich rhyddhau chwi, byddwch yn rhydd mewn gwirionedd". - Ioan 8:36

Thursday, July 4, 2024

248 oed

Penblwydd Hapus i America!

“Mae America yn odidog oherwydd bod America yn dda, os bydd America yn peidio â bod yn dda, bydd America yn peidio â bod yn odidog.” - Alexis de Tocqueville

Wednesday, July 3, 2024

mae'n amlwg


"Y mae'r nefoedd yn adrodd gogoniant Duw, a'r ffurfafen yn mynegi gwaith ei ddwylo." - y Salmau 19:1

Mae bodolaeth Duw yn amlwg drwy ei greadigaeth. Does gan neb esgus peidio â'i gredu.

Tuesday, July 2, 2024

canmoliaeth


Mae mwy a mwy o bobl yn gwylio fideos Hebraeg ac Arabeg One for Israel. Mae'r sefydliad yn derbyn llwyth o ymatebion bob dydd oddi wrth yr Iddewon yn Israel, a'r Mwslemiaid o bedwar ban byd gan gynnwys Gaza. Mae nifer ohonyn nhw'n cael eu denu gan fideos cerddoriaeth. Nerthol ydy canmoliaeth! Mae eu hundod hefyd yn arf ysbrydol pwerus iawn.

Monday, July 1, 2024

paid â llawenhau pan syrth dy elyn

Wedi'r ddadl rhwng y Cyn-arlywydd Trump a Mr. Biden, mae rhai pobl yn gwawdio'r olaf, ond byddwch chi'n ofalus, a gwybod beth mae Gair Duw yn ei ddweud:

"Paid â llawenhau pan syrth dy elyn, nac ymfalchïo pan feglir ef, rhag i'r Arglwydd weld, a bod yn anfodlon, a throi ei ddig oddi wrtho." Diarhebion 24:17,18

Hefyd:
"Na fydd ddig wrth y rhai drygionus, na chenfigennu wrth y rhai sy'n gwneud drwg. Oherwydd nid oes dyfodol i neb drwg, a diffoddir goleuni'r drygionus."
Diarhebion 24:19, 20