"Bwriwch ymaith yr holl droseddau a wnaethoch, a mynnwch galon newydd ac ysbryd newydd."
"Edifarhewch a byddwch fyw.”
Eseciel 18
Mae Genie newydd gael ei fabwysiadu! Dim ond oriau wedi iddo fynd i'r ganolfan, daeth teulu gyda merch 11 oed i weld sut gŵn ar gael. Syrthiodd y teulu mewn cariad gyda Genie, a mynd â fo adref ar yr unwaith. Mae fy merch yn dipyn bach yn drist wrth reswm, ond roedd hi'n fodlon iddi fedru helpu'r ci druan.
Mae fy merch hynaf yn gofalu am gi arall am sbel. Roedd o'n cael ei gam-drin, ac achubwyd gan yr heddlu'n ddiweddar. Oherwydd hynny, mae o'n ofnadwy o ofnus o bob dim, ac mae o'n methu gwneud pethau normal. Mae fy merch wrthi'n ei ddysgu drwy ei garu a hyfforddi'n dyner, er mwyn iddo gael ei fabwysiadu un diwrnod.
Dw i newydd ddarganfod bod siop ddiodydd leol yn gwerthu gwin o Israel! Bydd prynu un botel ar y tro yn fwy cyfleus i mi yn hytrach na archebu dwsin ar y we. Medra i gefnogi busnes lleol hefyd. Dyma brynu gwin o Uchder Golan. Mae'n anhygoel bod y winllan yn dal i gynhyrchu gwinoedd tra bod Hezbollah wrthi'n lansio rocedi atyn nhw drwy'r amser. Na fydda i'n prynu gwin arall ond hwnnw o hyn ymlaen.
Molwch yr Arglwydd sydd yn llywodraethu'r byd! Achosodd Ef ddaeargryn yn Libanus, a dinistrio twneli Hezbolllah ddyddiau'n ôl. O ganlyniad, methon nhw ymosod ar Israel mewn dial, yn ateb gweddïau cynifer o bobl, dw i'n sicr. Pam nad oes neb yn siarad amdano?
Mae fy merch hynaf newydd gynhyrchu fideo am ei murlun diweddaf yn yr Almaen. Cymerodd ddeg diwrnod i greu'r murlun enfawr hwnnw mewn lle hynod o braf gyda phobl glên dros ben.
Falch o wybod bod yna ffyddloniaid yn y DU sydd yn sefyll yn gadarn gydag Israel a'r Iddewon, ac yn erbyn barn sydd yn groes i wirionedd Gair Duw.
Cawson i win cartref gan ffrind ein mab ifancaf sydd newydd ddod adref. Iddewig ydy'r ffrind ac mae o a'i deulu'n credu yn Yeshua (Iesu.) Mae'r gwin yn felys a hollol kosher, wrth gwrs. Cawson ni o yn ddiolchgar gyda swper neithiwr wrth i Saboth ddechrau.
Mae cath feiddgar arall yn dod i mewn yn ein hiard ni'n ddiweddar. Heddiw, gwelais i hi'n eistedd ar waelod y bwydwr aderyn! Dyma fyrstio drwy'r drws cefn, a rhedeg ar er hôl gydag ysgub yn fy llaw mewn cynddaredd. Neidiodd hi dros y ffens yn gyflym. Er mwyn ei dychryn, trewais ben y ffens gyda'r ysgub yn rymus sawl tro. Gobeithio na fydd hi'n dychwelyd byth eto. Ces i sioc yn gweld beth ddigwyddodd i'r ysgub!
Buodd ffrind farw ddoe. Roedd yn 98 oed. Roeddwn i a'r gŵr ei nabod hi a'i gŵr ers i'r cwbl ddod at ein heglwys ni yn Kobe, Japan fel cenhadon flynyddoedd yn ôl. Enwon ni ein mab cyntaf a'n trydedd ferch ar eu hôl. Dilynodd y ffrind ei gŵ, a fuodd farw chwarter canrif yn ôl, at Iesu Grist.
Mae'n ymddangos nad ydy pobl Israel yn poeni am ymosodiad disgwyliedig Iran. Wir, dwedodd Duw Israel am beidio ag ofni tro ar ôl tro yn y Beibl. Wir, mae Duw yn bendithio'r IDF a rhoi buddugoliaeth iddyn nhw hyd yma, ond ynddo fo dylai pobl Israel ymddiried, nid yn nerth yr IDF, neu efallai byddai Duw yn gadael i'r IDF fethu fel y byddai'r bobl yn gorfod galw arno fo yn daer.