Doedd neb yn awgrymu cadoediad tra bod yr Hezbollah'n tanio miloedd o daflegrau at Israel, a gorfodwyd y trigolion yng ngogledd Israel i adael eu cartrefi, a'i fyw fel ffoaduriaid ers 7 Hydref llynedd. Cyn gynted â bod Israel yn dechrau ymladd yn ôl er mwyn amddiffyn eu pobl, bodd bynnag, chollodd y byd dim amser i'w condemnio, a mynnu am gadoediad.
Monday, September 30, 2024
Saturday, September 28, 2024
fe'i bendithir
Am hyn, diolchodd Danny Danon, Llysgennad Israel i'r Cenhedloedd Unedig: "yn y neuadd hon, lle ydyn ni'n cael ein difenwi drwy’r dydd, dangosoch chi ddewrder a chefnogi Israel! Diolch!"
"Bendithiaf y rhai sy'n dy fendithio..."
Thursday, September 26, 2024
ni lwydda unrhyw arf a luniwyd yn dy erbyn
Beth sydd yn digwydd yn y byd yn gynyddol:
"Edrych fel y mae dy elynion yn terfysgu, a'r rhai sy'n dy gasáu yn codi eu pennau.
Gwnânt gynlluniau cyfrwys yn erbyn dy bobl, a gosod cynllwyn yn erbyn y rhai a amddiffynni,
a dweud, “Dewch, inni eu difetha fel cenedl, fel na chofir enw Israel mwyach.” y Salmau 83:2-4
"Edrych fel y mae dy elynion yn terfysgu, a'r rhai sy'n dy gasáu yn codi eu pennau.
Gwnânt gynlluniau cyfrwys yn erbyn dy bobl, a gosod cynllwyn yn erbyn y rhai a amddiffynni,
a dweud, “Dewch, inni eu difetha fel cenedl, fel na chofir enw Israel mwyach.” y Salmau 83:2-4
Ond cofiwch beth a ddwedodd y Duw wrth Abraham:
"Bendithiaf y rhai sy'n dy fendithio, a melltithiaf y rhai sy'n dy felltithio, ac ynot ti bendithir holl dylwythau'r ddaear.” Genesis 12:3
"Bendithiaf y rhai sy'n dy fendithio, a melltithiaf y rhai sy'n dy felltithio, ac ynot ti bendithir holl dylwythau'r ddaear.” Genesis 12:3
Tuesday, September 24, 2024
y gair am y groes
"Oblegid y gair am y groes, ffolineb yw i'r rhai sydd ar lwybr colledigaeth, ond i ni sydd ar lwybr iachawdwriaeth, gallu Duw ydyw." 1 Corinthiaid 1:18
Beth bynnag mae'r byd yn ei ddweud, ac er gwaethaf y farn boblogaidd ddiweddar, mae doethineb Duw yn ddoethach na doethineb dynol. Ac na fydd o byth yn newid.
Monday, September 23, 2024
cyngor doeth
"Chwiliwch am swydd wahanol."
"Rhowch orau i fod yn derfysgwyr,
os dach chi eisiau byw, a rhoi dyfodol gwell i'ch teulu chi."
"Rhowch orau i fod yn derfysgwyr,
os dach chi eisiau byw, a rhoi dyfodol gwell i'ch teulu chi."
Cytuno'n llwyr â Naftali Bennett.
Saturday, September 21, 2024
lleuad wen
Hardd oedd Lleuad Gynhaeaf, ond dw i'n hoffi Lleuad Wen mwy. Mae hi'n edrych tipyn yn drist fel pe bai hi wedi blino, wedi gweithio'n galed yn y nosweithiau blaenorol. Neu ydy hi'n teimlo rhyddhad yn cael llonydd?
Thursday, September 19, 2024
rhag eu cywilydd
Pleidleisiodd rhan fwyaf o aelodau'r Cenhedled Unedig dros gael gwared ar yr Iddewon o Jwdea/Samaria a Gorllewin Jerwsalem. Mae cywilydd arna i weld mai Japan yn un ohonyn nhw. I'r Iddewon mae'r tir i gyd (a mwy yn wreiddiol) yn perthyn. Dywedodd y Duw felly yn y Beibl tro ar ôl tro. Disgwylir melltith i'r gwledydd a bleidleisiodd yn erbyn Israel.
"Bendithiaf y rhai sy'n dy fendithio, a melltithiaf y rhai sy'n dy felltithio." - Genesis 12:3
Wednesday, September 18, 2024
gŵyl leuad
Dathlwyd Gŵyl Leuad yn Japan. Dywedir bod y lleuad lawn ym mis Medi i fod yn harddaf. Paratôdd fy merch hynaf, sydd yn dilyn calendr Japan yn ffyddlon, swper creadigol - curi a reis sydd yn edrych fel y lleuad yn awyr y nos.
Tuesday, September 17, 2024
powlen hardd
Prynais bowlen hardd a wnaed gan grefftwr o Dalaith Efrog Newydd. Dw i'n bwyta swper o bowlen yn ddiweddar, ac felly mae hon yn berffaith. Dw i'n falch o gefnogi busnes bach Americanaidd ar yn un pryd.
Monday, September 16, 2024
pigiad gwenynen
"Aeth gohebydd maleisus at yr Is-lywydd Kamala Harris yn ystod ymgyrch, a thanio sawl cwestiwn cyn cael ei daclo i'r llawr a'i ddarostwng gan asiantau'r Gwasanaeth Cudd."
Diolch i'r Wenynen unwaith eto am ein gwneud ni chwerthin.
Saturday, September 14, 2024
gwin o israel
Prynais win arall o Israel (Winllan Lwyfandir Golan.) Ces fy synnu i weld bod y winllan yn dal i gynnyrch gwinoedd er gwaethaf ymosodiadau erchyll gan rocedi Hezbollah. Bydded i angylion Duw Israel amgylchi pobl Israel a'u hamddiffyn nhw.
Thursday, September 12, 2024
y brenin nebukadnezar
Rhaid bod Llyfr Daniel un o ffefrynnau nifer o Gristnogion, am ddewrder, ffyddlondeb, ostyngeiddrwydd Daniel. Mae un peth newydd a fy nharo i'r bore 'ma wrth ddarllen Pennod 1 drwy 3 - rhoddodd Duw frenin ofnadwy o seciwlar a gorhyderus gymaint o anrhydedd ac arglwyddiaeth helaeth dros bobl ac anifeiliaid.
Fel dwedodd Pastor Gary, mae Duw yn defnyddio pobl dda a phobl ddrwg er mwyn cyflawni Ei ewyllys.
"Oherwydd nid fy meddyliau i yw eich meddyliau chwi,
ac nid eich ffyrdd chwi yw fy ffyrdd i,” medd yr Arglwydd." Eseia 55:8
Wednesday, September 11, 2024
Monday, September 9, 2024
cadw yn ddistaw
Mae cadw yn ddistaw yn wyneb drygioni ei hun yn ddrygioni: na fydd Duw yn ein hystyried yn ddieuog. Mae peidio â siarad yn golygu siarad. Mae peidio â gweithredu yn golygu gweithredu. - Dietrich Bonhoeffer
Mae'r Beibl yn glir hefyd:
Achub y rhai a ddygir i farwolaeth;
rho gymorth i'r rhai a lusgir i'w lladd.
Os dywedi, “Ni wyddem ni am hyn”,
onid yw'r un sy'n pwyso'r galon yn deall?
Y mae'r un sy'n dy wylio yn gwybod,
ac yn talu i bob un yn ôl ei waith. - Diarhebion 24:11, 12
Wednesday, September 4, 2024
doethineb Duw
Mae Llyfr Diarhebion yn llawn o ddoethineb Duw. Adnod heddiw:
"Does gan ffŵl ddim awydd o gwbl i ddeall,
dim ond lleisio'i farn ei hun." 18:2 (Beibl.net)
"Does gan ffŵl ddim awydd o gwbl i ddeall,
dim ond lleisio'i farn ei hun." 18:2 (Beibl.net)
Mae yna gynifer o bobl yn ddiweddar yn union fel uchod, sef pobl sydd yn lleisio barn rhywun arall, heb feddwl drostyn nhw eu hunain.
Monday, September 2, 2024
llythyr at fy mam
"Nid oes terfyn ar gariad yr Arglwydd,
ac yn sicr ni phalla ei dosturiaethau.
Y maent yn newydd bob bore,
a mawr yw dy ffyddlondeb."
Subscribe to:
Posts (Atom)