Rhaid bod Llyfr Daniel un o ffefrynnau nifer o Gristnogion, am ddewrder, ffyddlondeb, ostyngeiddrwydd Daniel. Mae un peth newydd a fy nharo i'r bore 'ma wrth ddarllen Pennod 1 drwy 3 - rhoddodd Duw frenin ofnadwy o seciwlar a gorhyderus gymaint o anrhydedd ac arglwyddiaeth helaeth dros bobl ac anifeiliaid.
Fel dwedodd Pastor Gary, mae Duw yn defnyddio pobl dda a phobl ddrwg er mwyn cyflawni Ei ewyllys.
"Oherwydd nid fy meddyliau i yw eich meddyliau chwi,
ac nid eich ffyrdd chwi yw fy ffyrdd i,” medd yr Arglwydd." Eseia 55:8
No comments:
Post a Comment