Mae'n rhyfedd bod cynifer o Gristnogion yn credu na ddylen nhw gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth. Mi wnes i ysgrifennu ar y pwnc hwn sawl tro oherwydd fy mod i'n dod ar draws yr agwedd mor aml. Mynnir rhai hyd yn oed dylai Cristnogion ganolbwyntio ar bregethu'r Efengyl yr unig. Beth am y Frenhines Esther? Beth am William Wilberforce? Beth am Dietrich Bonhoeffer? Beth am Martin Luther King Jr.? Roedden nhw, a llawer mwy, yn brwydro'n angerddol yn erbyn drygioni'r genedl DRWY wleidyddiaeth.
Thursday, October 31, 2024
Wednesday, October 30, 2024
gwactod yn y galon
Mae gan bawb yn y byd wactod yn ei galon na all ond Iesu ei lenwi. Os ydyn ni'n ceisio am ystyr ac arwyddocâd ar wahân i Iesu, na fyddwn byth yn dod o hyd iddyn nhw, oherwydd mai ond Iesu a allu glanhau, llenwi, a bodloni dyheadau calonnau dynol. - One for Israel
"Dewch ataf fi, bawb sy'n flinedig ac yn llwythog, ac fe roddaf fi orffwystra i chwi." Matthew 11:28
Tuesday, October 29, 2024
mae Duw yn gweithredu
Monday, October 28, 2024
peidio â phleidleisio?
Mae rhai Cristnogion yn ystyried peidio â phleidleisio yn yr etholiad hwn. Ond mae peidio â phleidleisio yn golygu phleidleisio, hynny yw, pleidleisio dros y statws quo. Wrth wynebu argyfwng, dydy hunanfoddhad ddim yn ddewisiad da. Cydwybod cenedl a halen y ddaear ydy Cristnogion. Beth fydd yn digwydd os bydd y gydwybod yn dawel, a'r halen yn colli ei halltrwydd? Gadewch inni garu ein cymdogion trwy bleidleisio’n ddoeth, er mwyn, cymaint â phosibl, atal llanw drygioni, a dod â bendithion Duw i’n cenedl ni.
Saturday, October 26, 2024
na fedrwn ni guddio
"Bydd popeth sydd wedi'i guddio yn dod i'r golwg, a phob cyfrinach yn cael ei datgelu. Bydd popeth ddwedoch chi o'r golwg yn cael ei glywed yng ngolau dydd, a beth gafodd ei sibrwd tu ôl i ddrysau caeëdig yn cael ei gyhoeddi'n uchel o bennau'r tai." Luc 2:2,3 ( Beibl.net)
Na fedrwn ni guddio dim byd o Dduw hollwybodol.
Thursday, October 24, 2024
dim ond un dewis
Mae rhai Cristnogion yn dweud na fyddan nhw'n pleidleisio yn yr etholiad arlywyddol hwn oherwydd nad ydyn nhw'n hoffi'r naill ymgeisydd neu'r llall. Hollol hurt. Does dim ymgeisydd neu blaid berffaith. Rhaid dewis un sydd gan yr egwyddorion mwyaf tebyg ein un ni. Os na nawn ni bleidleisio, bydd mwy na digon o bobl yn hapus i'w wneud, a dylanwadu cyfeiriad y llywodraeth. A bydd America'n gwaethygu fwyfwy yn gyflym.
Tuesday, October 22, 2024
pwy ydy cynghreiriad gorau Israel?
Monday, October 21, 2024
mcdonald's mwyaf poblogaidd
Saturday, October 19, 2024
amser i garu
"Mae'r amser ar y Cristnogion i garu ac anrhydeddu pobl ddewisol Duw heddiw, oherwydd os ydych chi wir yn caru Iesu, byddwch chi'n caru'r Iddewon."
Erthygl ardderchog arall gan Charles Gardner
Thursday, October 17, 2024
gŵyl y pebyll
“Wele, y mae preswylfa Duw gyda'r ddynoliaeth; bydd ef yn preswylio gyda hwy, byddant hwy yn bobloedd iddo ef, a bydd Duw ei hun gyda hwy, yn Dduw iddynt." Datguddiad 21:3
Wednesday, October 16, 2024
gwerthfawrogi amherffeithrwydd
Juusanya, sef Gŵyl y 13eg Noson, ar hen galendr Japan ydy hi. Dywedir mai honno sydd y trydydd harddaf leuad mewn blwyddyn. Yn aml iawn, mae'r bobl Japan yn gwerthfawrogi amherffeithrwydd mewn natur. Coginiodd fy merch hynaf, sydd yn dilyn y calendr Japan yn ffyddlon, swper i ddathlu'r ŵyl.
Tuesday, October 15, 2024
pam lai?
Pam lai? Mae yn llygad ei le. Fideo ardderchog gan Stephen Harper, Cyn Brif Weinidog Canada
Monday, October 14, 2024
55 miliwn
Cywilydd ar y 55 miliwn o Gristnogion Efengylaidd yn America nad oes ganddyn nhw fwriad i bleidleisio yn yr etholiad arlywyddol ar y trothwy. Efallai nad ydyn nhw'n hoffi'r naill na'r llall. Os na fyddan nhw'n pleidleisio, fodd bynnag, bydd y drygionus yn penderfynu polisïau’r wlad.
Saturday, October 12, 2024
y faner olaf
Cafodd y gŵr gafael yn y faner olaf yn siop Trump yn y dref ddoe. Dwedodd y staff fod y baneri'n cael eu prynu cyn gynted ag y byddan nhw'n cyrraedd y siop. Er bod yr Arlywydd Trump yn ennill mwy a mwy o gefnogaeth gan bobl amrywiol, ac mae Mrs. Harris yn prysur ddatgelu ei ffolineb a'i chelwydd, ddylen ni ddim llacio, oherwydd bod y bobl ddrwg wrthi'n cynllwynio i ddwyn yr etholiad.
Friday, October 11, 2024
Yom Kippur - Diwrnod Cymod
Gorchmynnodd Duw i ni beidio â gweithio ar Ddiwrnod Yom Kippor yn yr Ysgrythur oherwydd nad oes dim byd i ni fedru gwneud er mwyn cael ein cymodi gydag Ef. Gweithredoedd Duw ydy hyn i gyd.
Thursday, October 10, 2024
pierre poilievre
Wednesday, October 9, 2024
llygaid yr Arglwydd
"Oherwydd y mae llygaid yr Arglwydd yn tramwyo dros yr holl ddaear, i ddangos ei gryfder i'r sawl sy'n gwbl ymroddedig iddo."
2 Cronicl 16:9
Tuesday, October 8, 2024
iddew sydd yn rheoli'r tywydd
"Roedd ganddo ei law mewn llawer o bethau eraill hefyd - trin y cyflenwad bwyd, dyfeisio dull cyfrinachol o gynhyrchu gwin, darparu gofal iechyd cyflym ac effeithiol i bobl sâl."
Da iawn, y Wenynen, unwaith eto!
Monday, October 7, 2024
7 hydref
“Gweddïwch dros heddwch Jerwsalem: “Boed i'r rhai sy'n eich caru chi lwyddo.” Salmau 122:6
Saturday, October 5, 2024
murlun yn california
Mae fy merch hynaf newydd orffen murlun arall yn California ar gyfer gŵyl gelf/gerddoriaeth yn Concord. Mae ei murlun yn portreadu nerth ac egni dawns Onikenbai sydd yn tarddu o Kitakami, Japan. Mae'n deyrnged i bartneriaeth rhwng Concord a'i ddinas efell Kitakami am 50 mlynedd. Daeth 30 o'r trigolion gan gynnwys Maer Kitami i gymryd rhan yn yr ŵyl, ac edmygu'r murlun.
Thursday, October 3, 2024
llygad ei le
Wednesday, October 2, 2024
talwch sylw
Tuesday, October 1, 2024
cefnogaeth ar ddaear
Nid dim ond nerth yr IAF a thechnoleg ddisglair Israel a roddodd y fuddugoliaeth ddiweddraf i Israel. Duw Israel sydd yn caru ei bobl a wnaeth. Atebodd gweddïau pawb wrth y Wal ynghyd â rhai cynifer o bobl sydd yn caru Israel drwy'r byd. Diolch i sianel thelandofisrael am y fideo a'r llun.