Dechreuodd Gŵyl y Pebyll neithiwr a fyddai'n parhau am wythnos. Gorchymynnodd Duw i bobl Israel i fyw mewn pebyll, a llawenhau o'i flaen. (Lefiticus 23) Fel roedd Passover yn cyfeirio at brynedigaeth gan Iesu, mae Gŵyl y Pebyll yn pwyntio at y ddaear newydd lle bydd Duw yn trigo gyda ni. “Wele, y mae preswylfa Duw gyda'r ddynoliaeth; bydd ef yn preswylio gyda hwy, byddant hwy yn bobloedd iddo ef, a bydd Duw ei hun gyda hwy, yn Dduw iddynt." Datguddiad 21:3
No comments:
Post a Comment