Thursday, February 27, 2025

nanw siôn

"D ydi amsar diodda nag amsar petha braf ddim yn para'n hir." - Te yn y Grug

Unwaith eto, mae geiriau Nanw Siôn yn adleisio yn fy meddwl. Mae hi'n llygad ei lle. Bydd popeth yn pasio mor gyflym. 

Wednesday, February 26, 2025

cuddio

"Nid oes dim a grewyd yn guddiedig o'i olwg, ond y mae pob peth yn agored ac wedi ei ddinoethi o flaen llygaid yr Un yr ydym ni i roi cyfrif iddo." Hebreaid 4:13

Mae'n hollol bosib cuddio beth ydyn ni'n ei wneud o olwg pobl, ond byth o olwg Duw hollwybodol. Ac un diwrnod byddwn ni i gyd yn sefyll o'i flaen. 

Tuesday, February 25, 2025

dau fodd

Dwedodd dyn doeth o Ddenmarc:
Mae dau fodd i gael ein twyllo - 
gan gredu'r hyn anghywir, gan wrthod credu'r hyn cywir.
Soren Kierkegaard

Mae'n llygad ei le.


Monday, February 24, 2025

troseddu pwy?

"Mae gan y byd obsesiwn â pheidio â throseddu pobl, ond dylen ni ymdrechu i beidio â throseddu Duw," meddai rhywun. Cytuno'n llwyr.

Saturday, February 22, 2025

meddwl


Mae'r pregethwyr heddiw yn tueddu i beidio â sôn am bynciau anghyfforddus. Na chlywir pregethau yn aml yn annog pobl i edifarhau eu pechodau nhw. Maen nhw'n sôn am ras, cariad, tosturi Duw (er eu bod nhw i gyd yn wir.) Maen nhw'n ein gwneud ni'n meddwl bod popeth yn iawn, a bydd Duw yn ein derbyn ni fel ydyn ni, heb i ni newid ein ffyrdd ni.Y neges glir drwy'r Ysgrythur, fodd bynnag, ydy dylen ni edifarhau'n pechodau ni, troi at Iesu Grist, a byw drosto fo gyda'n holl galon, enaid, meddwl a nerth.


Thursday, February 20, 2025

peth "gwarthus"

Gwarthus! Creulon! Disgwylir i DOGE ddileu enwau'r bobl hŷn na 120 oed oddi ar restr bensiwn er mwyn cael gwared ar wastraff y llywodraeth. Sut byddan nhw'n mynd i ymdopi? Dyma nifer yr hen bobl hynny druan.

Wednesday, February 19, 2025

gwahardd rasio milgwn

Falch o glywed y bydd Cymru'n gwahardd rasio milgwn cyn gynted ag sydd yn bosib. Wrth i fy merch hynaf ddechrau eu maethu dros dro, dw i wedi dod i ymwybodol o'u triniaeth greulon. Mae rasio milgwn yn dal yn gyfreithiol mewn sawl talaith yn America (nid yn Oklahoma!) Gobeithio y bydd yn cael ei gwahardd yn gyfan gwbl yn fuan.

Tuesday, February 18, 2025

ysbrydoliaeth

Dyma'n Ysgrifennydd Amddiffyn newydd ni, Pete Hegseth. Mae o'n cyflawni ei swydd yn egnïol bob dydd, ac yn hyfforddi gyda'r milwyr hefyd. Mae'n sicr mai o ydy yn un o'r rhesymau bod nifer uchaf erioed o bobl ifanc yn cofrestru i ymuno â'r lluoedd arfog ers mis Rhagfyr.

Monday, February 17, 2025

cwestiwn ac ateb

Byddwn ni'n gofyn yn aml wrth weld beth sydd yn digwydd yn y byd; 
"am ba hyd, Arglwydd, y gwaeddaf am gymorth, a thithau heb wrando, ac y llefaf arnat, 'trais!' a thithau heb waredu?" Habacuc 1:2

Ateb Duw;
"oherwydd fe ddaw eto weledigaeth yn ei hamser - daw ar frys i'w chyflawni, a heb ball. Yn wir nid oeda; disgwyl amdani, oherwydd yn sicr fe ddaw, a heb fethu." Habacuc 1:3

Gadewch i ni gofio;
"oherwydd nid fy meddyliau i yw eich meddyliau chwi, ac nid eich ffyrdd chwi yw fy ffyrdd i,” medd yr Arglwydd. “Fel y mae'r nefoedd yn uwch na'r ddaear, y mae fy ffyrdd i yn uwch na'ch ffyrdd chwi, a'm meddyliau i na'ch meddyliau chwi." Eseia 55:8,9

Saturday, February 15, 2025

ruby

Mae fy merch hynaf yn gofalu am gi arall. Greyhound ydy hi o'r enw Ruby. Wedi pasio anterth ei gyrfa fel ci rasio yn Awstralia, byddai hi wedi cael ei lladd (fel Levi) oni bai am y bobl sydd yn helpu'r cŵn tebyg. Clywais nad oes digon o sefydliadau sydd yn achub hen gŵn rasio yn Awstralia, ac felly cafodd ei gyrru i Oklahoma City dros y môr. Truan o Ruby. Mae hi'n caru fy merch a byth yn gadael ei hochor hi. Gobeithio y bydd hi'n ffeindio cartref cariadus.

Thursday, February 13, 2025

hoff feddyg


Dr. Suneel Dhand ydy'n hoff feddyg ni. Cafodd ei eni yn Llundain, a mynd i Brifysgol Caerdydd. Mae o'n byw yn UDA bellach. Mae o'n adnabyddus am ei angerdd dros les pobl heb feddyginiaethau presgripsiwn. Mae ganddo ddi-ri o elynion hefyd sydd yn casáu ei farn feiddgar yn erbyn y sefydliad meddygol. Dyna pam dw i a'r gŵr yn hoff iawn ohono fo! Mae'r hyn mae o'n ei ddweud yn gwneud synnwyr yn llwyr. Hoffwn i pe bai'n ein meddyg teulu ni! 

Wednesday, February 12, 2025

art of the deal


Y syniad gorau ydy symud ffoaduriaid Gaza i'r Aifft ac Iorddonen. Mae'r gwledydd hyn yn agos ac enfawr; mae ganddyn nhw'r un grefydd. Gwrthod maen nhw fodd bynnag. I'r gwrthwyneb, mae gan yr Aifft wal ffin anferth rhwng Negev a Gaza. Wedi i Frenin Iorddonen gyfarfod â'r Arlywydd Trump yn ddiweddar fodd bynnag, cynunodd derbyn 2,000 o blant Gaza. Mae'r olalf yn hyderus y bydd yr Aifft yn newid eu meddyliau, a derbyn ffoaduriaid Gaza hefyd. Art of the Deal i'r eithaf!

Tuesday, February 11, 2025

gwastraff

Mae Elon Musk a'i dîm o bobl gyda chyflwr awtistiaeth yn cyflawni gwaith ardderchog tu hwnt yn darganfod gwastraff yn y llywodraeth. Anghredadwy ydy rhestr wastraff USAID er mai ond rhan fach o'r holl wastraff mae o. Nid dim ond twp, ond bygythiad diogelwch cenedlaethol ydy'r asiantaeth. Rhoddwyd bron i 20 biliwn o ddoleri i'r gwladwriaethau terfysgol yn y byd yn y pum mlynedd diweddaf! 

Monday, February 10, 2025

addewid

"ac yna bod fy mhobl, a elwir wrth fy enw, yn ymostwng ac yn gweddïo, yn fy ngheisio ac yn dychwelyd o'u ffyrdd drygionus, yna fe wrandawaf o'r nef, a maddau eu pechod ac adfer eu gwlad."  2 Cronicl 7:14

Mae'r adewid hwn yn dal heddiw. Gadewch i ni felly, ymostwng o flaen Duw trugarog yn cyffesu ac edifarhau'n pechodau ni, a dychweled ato fo.

Friday, February 7, 2025

anrheg



Derbynnedd yr Arlywydd Trump anrheg hynod o ddoniol gan y Prif Weinidog o Israel. Dyma hi - galwr euraid. Gwenodd a dweud mai strategaeth wych ydoedd. Wir, strategaeth greadigol a feiddgar, cynllwyniwyd a gweithredwyd yn fedrus tu hwnt.

Thursday, February 6, 2025

gydag Iesu

Aeth hen ddynes annwyl dw i a'r gŵr yn adnabod at Arglwydd Iesu ddyddiau'n ôl. Fu farw yn ei chwsg gyda'i merch wrth ei hochr mewn cartref henoed. Roedd hi'n awyddus i fynd ato fo dros flynyddoedd. A rŵan, o'r diwedd, wedi gadael ei hen gorf mae hi'n cael gweld wyneb Iesu a byw gyda fo am byth ynghyd â diri o'r ffyddloniaid. 

Wednesday, February 5, 2025

croeso mawr

Croeso mawr i'r Prif Weinidog Netanyahu. Braf gweld y ddau arweinydd yn cyfarfod yn swyddogol eto i drafod y pynciau pwysig, a chadarnhau cefnogaeth gadarn tuag at i gilydd. Dw i'n hapus cadw'r llun a ges i yn ystod tymor cyntaf yr Arlywydd Trump. (Dydyn nhw ddim wedi newid llawer!)