Wednesday, November 18, 2009

o law i law

Doeddwn i ddim yn bwriadu darllen 'o Law i Law' yn wreiddiol a dweud y gwir ond prynais gopi o barch i Lanberis wedi treulio wythnos mor ddymunol yno. Ond ces i fy siomi ar yr ochr orau. Dw i wedi crio a chynhyrfu wrth ddarllen nofelau Cymraeg o'r blaen, ond dw i ddim yn cofio chwerthin yn braf. 

Mae John Davies, y prif gymeriad yn atgofio ei ddyddiau cynt. Pan ddaeth ffilm fud i'r pentref am y tro cyntaf, cafodd o a'i ffrind iddo eu gofyn i ddarparu 'sound effects' tu ôl y sgrin er mwyn tynnu mwy o bobl i'r ffilm. Er gwaethaf eu holl ymdrechion, daeth y "sound effects' eiliadau yn rhy hwyr a chaethon nhw eu hwtio gan y gynulleidfa. Druan o'r hogia!

Dydy fy nisgrifiad ddim yn ddigon da i gyfleu pa mor ddoniol ydy'r olygfa. Edrycha i ymlaen at ddarllen gweddill y nofel.

2 comments:

neil wyn said...

Mae gen i gopi heb ei darllen rhwle, un efo geirfa ar gyfer dysgwyr os dwi'n cofio'n iawn. Rhaid i mi fynd amdanhi i'w darllen ar ôl darllen dy farn di!

Emma Reese said...

Gobeithio bod dy gopi'n cynnwys y rhan roeddwn i'n sôn amdani. Weithiau mae fersiwn i ddysgwyr yn hepgor rhannau diddorol.