


Sbïwch beth ges i gan Judy o'r Bala! Hi ydy'r Saesnes yr arhosais gyda hi yn ystod yr Eisteddfod. Cogyddes gampus ydy hi ac mae hi'n gwau'n fedrus dros ben. Addawodd hi y byddai'n gwau set olygfa'r geni pan oeddwn i gyda hi. A chyrhaeddodd becyn heddiw. Mae pob doli'n cael ei gwau'n ofalus iawn ac maen nhw i gyd mor annwyl. Gosoda i nhw ar fwrdd ar ôl Gwˆyl Ddiolchgarwch.
2 comments:
Hyfryd iawn ! Mae Judy yn wraig tu hwnt o glên , a medrus hefyd .
Ydy wir. :)
Post a Comment