Tuesday, November 3, 2009

tawelwch yn Llanberis

Er bod y caffi newydd ar gopa'r Wyddfa wedi dod â nifer mawr o ymwelwyr i Lanberis yn rhoi hwb i economi'r dref, efallai nad ydy'r trigolion yn medru teimlo rhywfaint o ryddhad wedi i'r caffi gau ei ddrws dros y gaeaf.

Ymysg yr holl brysurdeb yn y dref, roedd y trên bach a oedd yn cario'r ymwelwyr a oedd am weld y caffi newydd yn rhedeg bob hanner awr.  Roedd o'n chwydu mwg du o'i gwmpas wrth ddringo a disgyn y mynydd. Roedd yr arogl mor ofnadwy fel fy mod i'n teimlo'n sâl a phenderfynais beidio mynd ar y trên wedi'r cwbl. Mae yna nifer o dai o gwmpas yr orsaf. Dw i'n teimlo dros y bobl sy'n byw yno. Tybed oes yna gynllun i wneud y trên yn drydanol?

2 comments:

neil wyn said...

Ro'n i heb sylweddoli bod cau dros y gaeaf byddai trefn y caffi newydd. Ond wedi meddwl amdani dyna oedd trefn yr hen le, siwr o fod oherwydd y problemau o redeg y rheilffordd dros y gaeaf. Oni bai am y rheilffordd ni allen nhw wasanaethu'r adeilad a chadw cyflenwad digonol o nwyddau a staff! Ond wedi dweud hynny ges i dipyn o sioc i ddarllen am y lle'n cau'n barod!

Emma Reese said...

Clywes i fod y tywydd wedi troi'n aeafol ar y Tachwedd cyntaf yn yr ardal. Fydd 'na ddim digon o gwsmeriaid chwaith heb y rheilffordd.