Thursday, December 24, 2009

storm eira

Mae hi'n dod tuag aton ni. Eisoes mae'r tymheredd yn disgyn fel cerrig mewn dŵr ac mae yna haen wen ar y toeon dros y ffordd. Cafodd yr ardal Oklahoma City eira drwm yn barod. Dydy neb yn cael mynd ar y traffyrdd. Mae'r ferch hynaf a'i gŵr i fod yma yfory ond fedran nhw ddim dod nes i'r tywydd wella. Rhaid gohirio cinio Nadolig. Gobeithio y cân nhw ddod dros y Sul.

4 comments:

Linda said...

Heb edrych ar y tywydd ers y noson cyn y Nadolig. Gobeithio nad ydi'n rhy ddrwg acw erbyn hyn ....

Emma Reese said...

Mae' ffyrdd yn dda erbyn hyn. Daeth fy merch a'i gŵr ddoe'n ddiogel ond maen nhw wedi gadael yn barod.

Corndolly said...

Dw i'n gallu darllen dy flog unwaith eto, diolch byth. Dw i'n hoffi dy lun o eira. Trwy'r amser, mae eira yn edrych yn wych mewn lleodd eraill. Roedd 'na eira yma cyn y Nadolig, ond dim ond digon er mwyn rhoi'r ffyrdd dan rew am dyddiau. Gobeithio roedd gennyt ti amser da iawn dros y Nadolig.

Emma Reese said...

Caethon ni law neithiwr ac mae'r rhan fwya o'r eira wedi mynd. Do, mi ges i amser da efo'r teulu er gwaitha'r annwyd.