Wednesday, December 23, 2009

bydda i'n prysur goginio

Dyma ramadeg Cymraeg dw i newydd ddysgu, diolch i "Cysill," gwasanaeth Prifysgol Bangor. Sgrifennes i, "bydda i'n brysur coginio" a dwedon nhw fod "bydda i'n prysur goginio" sy'n iawn.

Yn ogystal â chywiro camsillafu, maen nhw'n cywiro camgymeriadau gramadegol hefyd. Wrth gwrs nad ydyn nhw'n gywir bob tro wrth reswm, a bydda i'n pwyso'r botwm "anwybyddu" yn aml hefyd. Eto i gyd, teclyn hwylus dros ben ydy o.

2 comments:

Corndolly said...

Dw i ddim yn deall pam ydy '"bydda i'n prysur goginio" yn gywir? 'Prysur' ydy ansoddair, a byddwn i'n treiglo'r ansoddair yma a pheidio â threiglo'r ferf? Wyt ti'n gwybod y rheswm? Efalli wna i deipio'r un peth i mewn i Cysill i weld beth bydd hi'n dweud.

Emma Reese said...

Bydda i'n brysur, ond bydda i'n prysur goginio. Dw i ddim yn dallt pam. Ond mi gewch chi ffeindio digonedd o enghraifftiau ar wefan Llyfrgell Owen.