Wednesday, May 5, 2010

mae'r dall yn gweld

Des i ar draws erthygl am Arthur Rees Rowlands ar wefan BBC yn ddiweddar. A dyma ymddiddori ynddo fo a phrynu copi ail-law o'i gofiant sef Mae'r Dall yn Gweld drwy siop ym Mlaenau Ffestiniog.

Cafodd o ei saethu yn ei wyneb gan ddyn gwallgof a cholli ei olwg o ganlyniad pan oedd o'n gweithio fel heddwas hanner can mlynedd yn ôl. Hwn ydy hanes ei ddewrder yn goresgyn y trychineb gyda help y teulu a'r ffrindiau. Prin fy mod i'n medru ei rhoi i lawr ers iddo gyrraedd ddyddiau'n ôl. Dw i newydd ei orffen ac eisiau sgrifennu amdano fo, a hithau'n tynnu at hanner nos.

Ym 1983 y cafodd y llyfr ei argraffu. Dw i ddim yn gwybod na beth ddigwyddodd wedyn nag ydy o'n fyw o hyd. (88 oed bydd o eleni os ydy o'n fyw.) Os ydy o, byddwn i am ddweud fy mod i wedi cael fy nghyffwrdd yn ddwfn gan ei hanes ac am ddymuno'r gorau iddo.

2 comments:

neil wyn said...

diolch am rannu'r hanes efo ninnau ar y blog 'ma. Mae'n rhaid ei fod o'n llyfr ardderchog!

Emma Reese said...

Ydy wir. Mae'n ddrwg gen i adolygu llyfr allan o argraff unwaith eto!