Monday, August 30, 2010

tai chi eto

Dw i newydd glywed Gwenan Evans yn sgwrsio gyda Nia ar Radio Cymru. Hyfforddwraig Tai Chi ydy hi. Roedd hi'n sôn am elfennau Tai Chi ynghyd sut mae o'n helpu pobl ymlacio a chysgu'n well.

Rhaid cyfaddef mod i wedi cwtogi rhai symudiadau, ac wedi anghofio ei wneud o'n gyfan gwbl weithiau wedi i'r dosbarth gael ei ganslo. Ond mae ei chlywed hi heddiw wedi fy atgoffa pa mor bwysig ydy gwneud pob symudiad yn drylwyr. Byddwn i am fynd i ddosbarth os oes yna un ar gael fodd bynnag.

Wednesday, August 25, 2010

gwales.com



Cyrhaeddodd fy archeb gan gwmni Gwales.com mewn cyflwr ardderchog ddoe. Maen nhw'n pacio pecynnau'n gadarn bob tro (fel mae Neil yn gwybod!) Gwnaethon nhw waith arbennig o dda yn pacio'r map; cymerodd gryn dipyn o amser yn ei agor hyd yn oed! Gyrrais i neges sydyn atyn nhw'n diolch am eu gwaith clodwiw neithiwr a chael ateb cwrtais y bore 'ma.

Gyda llaw, roeddwn i eisiau prynu map panoramig o ogledd Eryri fel un welais i uwchben y lle tân gwely a brecwast yn Llanberis. Mae o allan o argraff bellach ond ces i hyd i un debyg gan gwmni Gwales. A dyma ei roi ar y wal wrth y map o Gymru'n llawen.

Thursday, August 19, 2010

breuddwyd americanwr

Fyddwn i ddim am drafod lefel ei Gymraeg na'i sgil actio, ond y ffaith fod o'n medru gweld Pobl y Cwm yn California. Dw i'n dal i gael trafferth gweld S4C ar y we. Byddwn i'n hoffi holi i'r Americanwr sut mae o'n gweld rhaglenni S4C. Hefyd mae'r cynhyrchydd yn swnio fel pe tai gweld Pobl y Cwm yn UDA yn beth cyffredin.

Monday, August 16, 2010

cysylltiad

Roeddwn i'n gwrando ar Fwrw Golwg ddoe am Derek Rees (perthynas pell fy ngŵr, efallai!!), gweinidog ifanc sy newydd ddechrau plannu eglwys Gymraeg yn ardal Abertawe. Ces i sioc fawr yn clywed bod criw o Gristnogion o eglwys yn OKLAHOMA wedi dod i Gapel Gomer, ei gapel o, a gwneud y gwaith atgyweirio gwerth £10,000. Mae'r eglwys, Hendersenhill Baptist Church yn Edmund, Oklahoma, a dydy hi ddim yn bell o'r lle mae fy merch hynaf yn byw ynddo.

Dw i wastad yn cwyno nad oes yna gymaint o gysylltiad Cymraeg/Cymreig yn Oklahoma, ond pwy a ŵyr?

Saturday, August 14, 2010

'fish fry' arall


Ces i a'r teulu ynghyd ag athrawon Adran Optometreg a'u teuluoedd bryd o fwyd gwych yn nhŷ ffrindiau heno. Mae o'n hoff iawn o bysgota a bwydo ei ffrindau ei ddalfa. Daeth pawb arall â salad a phwdin. Mae'r cwpl yn byw yn ymyl Afon Illinois ac mae gynnyn nhw olygfa hyfryd o'u tŷ nhw. Mwynheuon ni eistedd ar y dec am sbel er gwaetha'r gwres llethol.

Yr unig siom ges i oedd fy mod i'n methu sgwrsio gyda Patrice (hi astudiodd yn yr Alban) bron achos bod hi a'i gŵr wedi dod yn hwyr. Roedd rhaid i ni adael wedi i mi gael ond gair sydyn gyda hi. Mae'n gysur i mi fodd bynnag bod yna rywun yn y dref sy'n gwybod lle mae Cymru!

Friday, August 13, 2010

y llais

"Dw i'n nabod ei llais," roeddwn i'n meddwl tra oeddwn i'n gwrando ar raglen Nia'r bore 'ma. Roeddwn i'n credu'n siŵr mod i wedi clywed Marged Elsi rhywle, nid dim ond unwaith ond sawl tro. Mae gynni hi acen (ddymunol) a ffordd arbennig i siarad. Dydy cofio pethau felly ddim yn dod yn hawdd yn ddiweddar, rhaid cyfaddef!

Yna, canodd y gloch! Hi oedd yn siarad gyda Hywel Gwynfryn ar Radio Cymru flynyddoedd yn ôl! Roeddwn i'n gwrando ar y cyfweliad droeon fel gwaith gwrando Cwrs Meistroli'r llynedd.

Fe wna i wrando ar y rhaglen eto i gael mwynhau'r sgwrs; ches i ddim y tro diwethaf achos mod i'n trio cofio'n galed pwy oedd hi!

Thursday, August 12, 2010

gwylanod


Ches i ddim fy nwyn fy mwyd yn ffodus ond gweld y byrddau tu allan wedi'u baeddu gan wylanod. Y Bachgen Du oedd y dafarn yng Nghaernarfon ces i ginio blasus o gawl a sgon. Roedd yn braf bwyta fy mwyd yn yr awyr iach. Doeddwn i ddim yn gwybod bod gwylanod yn achosi cymaint o broblem yna. Gobeithio bydd hebogau a thylluan yn llwyddo i gael gwared arnyn nhw.

Rhaid i mi gyfaddef mod i wedi bwydo aderyn dof o dan fy mwrdd! (Dim gwylan oedd o ond colomen ddel.)

Tuesday, August 10, 2010

spaghetti squash




Dw i erioed wedi eu bwyta er bod nhw ar gael mewn siopau. Ces i un gan ffrind yn ddiweddar, a dyma ei goginio wedi chwilio am rysait ar y we. (Roedd rhaid i mi ddysgu sut i'w goginio yn y lle cyntaf.)

Roedd yn rhyfeddol gweld sut mae o'n troi'n nwdls. Mae gynnyn nhw ansawdd creisionllyd. Fe wnes i ychwanegu menyn, llysiau eraill, cyw iâr a pherlysiau. Y canlyniad? Wel, i fod yn onest, roedd o'n edrych yn well nag oedd o'n blasu. Dw i ddim yn meddwl bydda i eisiau un arall gan y ffrind!

Saturday, August 7, 2010

fy mhobol i

Llyfr amserol dw i newydd ddarllen; hunan cofiant T.Llew Jones ydy hwn. Y fo enillodd y Gadair yn Eisteddfod Glyn Ebwy yn 1958.

Roedd bron i Tudur Hallam golli ei sedd yn y Pafiliwn ar gyfer seremoni'r Cadeirio ddoe, ond roedd bron i Fardd y Gadair yng Nglyn Ebwy hanner can mlynedd yn ôl fethu cael llety! Adroddodd T.Llew hanesynnau difyr o gwmpas y ddwy Eisteddfod Genedlaethol roedd o wedi ennill y Gadair ynddyn nhw yn olynol.

Ces i gip ar ei blentyndod, ei brofiad yn y fyddin ac fel athro ysgolion cynradd hefyd. Fel mae'r teitl yn awgrymu, fodd bynnag, am ei bobl o, sef ei deulu a'i ffrindiau gan gynnwys Waldo Williams (ac un gelyn y bobl) roedd o'n sgrifennu mwy nag amdano fo ei hun.

Hoffwn i fod wedi cael gwybod ei brofiad fel awdur hefyd, a dweud y gwir, ond am ryw reswm neu'i gilydd, chyffwrdd o ddim â'r pwnc bron. Eto i gyd, mwynheais i'r llyfr yn fawr fel ffan fawr o T.Llew.

Friday, August 6, 2010

glaw o'r diwedd!


Cawson ni law am y tro cyntaf ers wythnosau. Dim ond rhyw hanner awr parodd o, ond roedd o'n fendith i'r tir a'r anifeiliaid sychedig. Neidiais i a gweiddi mewn llawenydd ynghyd â'r plant pan welais i'r glaw yn dechrau gwlychu popeth. A dyma dynnu llun yn awchus.

seremoniau'r eisteddfod

Braf clywed bod enillydd y Gadair eleni. Roedd yn siom fawr y llynedd pan glywon ni yn y Pafiliwn fod neb yn deilwng y Gadair hardd.

Dw i wrth fy modd gyda seremoniau'r Eisteddfod. Mae'n glyfar iawn defnyddio ffigenwau, a does neb (wel bron) yn gwybod pwy ydy'r enillydd nes iddo neu iddi sefyll ar ei draed neu ar ei thraed ymysg y gynulleiddfa enfawr disgwyliedig - yr osgordd, y fantell borffor, y gymeradwyaeth, y cleddyf ac yn y blaen.... Mae'r Cymry'n gwybod sut i anrhydeddu rhywun sy'n deilwng.

Wednesday, August 4, 2010

americanwr enillodd!

Newydd weld mai Americanwr enillodd y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni! Does dim rhaid i mi restri ei gampwaith yma sy'n gynnwys bod yn arbenigwr ar waith Kate Roberts ac ar hanes Evan Jones heb sôn am ennill Llyfr y Flwyddyn. Nid dim ond yn Gymraeg ysgrifenedig mae o'n rhugl chwaith ond yn llafar hefyd. (Glywsoch chi'r cyfweliad gan Dewi Llwyd ar Radio Cymru?)

Feiddia i ddim ei alw'n ddysgwr ond dysgu Cymraeg fel oedolyn wnaeth o wedi'r cwbl, ac i'r eithaf. Er na cheith pawb ddisgwyl cyrraedd y lle cyn uched, mae hyn yn ysbrydoliaeth i bob dysgwr.

Llongyfarchiadau mawr i Dr. Jerry Hunter!

Tuesday, August 3, 2010

ffrindiau newydd o'r eidal



Dechreuodd teulu newydd o'r Eidal yn dod i'n heglwys yn ddiweddar. Americanes ydy'r wraig ond mae'r gŵr yn Eidalwr ac mae gynnyn nhw ddau blentyn bach sy'n ddwyieithog. A dweud y gwir, mae'r teulu i gyd yn ddwyieithog. Mae dwy chwaer Phil yn ymweld â nhw dros yr haf hefyd.

Gwahoddwn ni nhw i swper a chael amser da. Roedd yn braf clywed nhw'n siarad yr Eidaleg gyda'i gilydd. Mae'r teulu'n hoff iawn o bêl-droed; chwaraewyr caled ydyn nhw, hyd yn oed yr hogyn pump oed. Roedd o wrth ei fodd yn chwarae Lego pêl-droed gyda fy mab. Wedi swper a sgyrsiau dymunol, dangoson ni nhw DVD pêl-droed Cwpan y Byd, 2006 brynodd fy ngŵr o'r blaen. A phwy enillodd? Yr Eidal, wrth gwrs!