Saturday, June 29, 2019
ongl wahanol
Unwaith eto trechodd y wiwer y rhwystr newydd! Neidiodd hi drwy'r chopsticks heb gyffwrdd dim, a glanio ar y bwydwr adar yn ystwyth. Bydd y gŵr yn dyfeisio peth newydd, ond yn y cyfamser, roedd rhaid i mi wneud rhywbeth. Yn ôl at yr hen arwyddion etholiad. Weloch chi'r ongl wahanol?
Friday, June 28, 2019
granola
Thursday, June 27, 2019
swper!
Wednesday, June 26, 2019
unwaith yn rhagor
Mae'r frwydr yn dal i barhau. Fedra i ddim credu pa mor benderfynol ac ystwyth ydy'r gwiwerod yma. Trechon nhw'r hen arwyddion etholiad hefyd. Yn ddiweddar, gosododd y gŵr nifer o fachau o gwmpas llawr y bwydwr adar. (Roedd o'n edrych fel phalanx Macedoniaidd!) Neidiodd Yoni drosto fo'n hawdd fel athletwr Olympaidd, fodd bynnag, a chyrraedd y bwydwr. Dyma'r rhwystr newydd. Defnyddiwyd chopsticks tafladwy.
Tuesday, June 25, 2019
paid ag ofni
Cafodd fy merch neges gas gyntaf ynglŷn â'i chefnogaeth dros Israel. Oddi wrth un o'i chwsmeriaid oedd hi. Dwedodd ei bod hi'n edifaru iddi brynu celf fy merch; na fyddai hi fod wedi ei phrynu tasai hi'n gwybod bod fy merch yn cefnogi gwlad fel Israel. Ateb fy merch oedd: os dych chi ddim eisiau i mi baentio yn Israel, dylech chi beidio â fy nilyn; dw i'n mynd i wneud mwy!
Murlun fy merch a baentiodd yn Israel o'r enw "Paid ag ofni; galwaf ar dy enw"
Murlun fy merch a baentiodd yn Israel o'r enw "Paid ag ofni; galwaf ar dy enw"
Monday, June 24, 2019
sw moch cwta
Saturday, June 22, 2019
fideos pregeth
Dw i newydd ddarganfod fideos pregeth gan Paul LeBoutillier o Gapel Calfaria yn Oregon. Mae o'n palu Gair Duw fesul pennod yn ddwfn, ac agor llygaid y gwrandawyr. Mae o'n hynod o ddoniol hefyd. Gwych gweld menorah ynghyd â chroes tu ôl iddo fo. Mae gen i arfer newydd bellach. Dw i'n gwrando ar ei bregeth ar ôl darllen un bennod bob bore.
Friday, June 21, 2019
cariad chwaer
Gyrrodd fy merch hynaf anrheg fach at ei chwaer yn Japan er mwyn codi ei chalon. Mae fy drydedd ferch wrthi'n gweithio yng nghegin siop te yn Tokyo, ac mae'n anodd weithiau. Wedi clywed ei hanes, roedd fy merch hynaf eisiau gwneud ei chwaer chwerthin, ac felly bant â hithau a gyrru "pen sloth." Mae o'n wir ddoniol ac mae ei chwaer wrth ei bodd.
Thursday, June 20, 2019
eglwysi efengylaidd yn ffrainc
Ces fy siom ar yr ochr orau i glywed bod eglwysi efengylaidd wrthi'n cynyddu yn Ffrainc (a hefyd yn Sbaen.) Mae'n wych gweld mwy a mwy o bobl yn Ffrainc yn dod at Iesu Grist. Mae popeth yn edrych yn gyfarwydd dros ben yn y gwasanaeth hwnnw er bod yr iaith yn wahanol nag ydw i'n gyfarwydd yn fy eglwys. Un peth arall sylweddol - mae'r bobl yn edrych yn hapus.
Wednesday, June 19, 2019
sut i ddefnyddio hen arwyddion etholiad
Tuesday, June 18, 2019
strategaeth newydd
Mae'r pedwar babi wedi tyfu'n sylweddol erbyn hyn. (Dw i'n sôn am Gardinal.) Maen nhw'n dod at y bwydwr heb eu tad bellach. Gobeithio ei fod o'n cael hoe fach nes iddo gael y grŵp nesaf i ofalu amdanyn nhw. Trechodd y gwiwerod y rhwystr eto. Roedd rhaid i fy ngŵr ddyfeisio strategaeth newydd fel gwelir.
Monday, June 17, 2019
fideo morinoen
Dyma glip ar siop goffi Morinoen yn Tokyo lle mae fy merch yn gweithio ynddi. Fe wnaeth y gohefydd waith da o ddisgrifio beth fwytaodd. Mae'r fideo dipyn yn hen ond dydy'r fwydlen ddim wedi newid. Fy merch sydd yn paratoi'r rhain bellach.
Saturday, June 15, 2019
tebot, ail bennod
Dw i'n gwirioni ar fy nhebot newydd o Japan. Dydy o ddim yn colli diferyn o de wrth i mi dywallt. Mae hidlydd rhwyll cyfleus tu mewn hefyd. Dw i'n hoffi'r lliw (porffor dwfn) hynod o Japaneaidd. Mae'n bleserus hwylio te gyda hwn bob dydd.
Friday, June 14, 2019
rhaid ennill
Thursday, June 13, 2019
diwrnod braf
Mae'n ddiwrnod hynod o braf heddiw. Wedi mynd ynghyd â'r gŵr at geiropractydd y bore 'ma, penderfynais gerdded yn y dref tra ei fod o'n gwneud neges. Roedd yn hyfryd! Ddim yn boeth, dim gwynt, dim paill, dim terfysg, dim byd annifyr. Cymerodd y gŵr amser hirach na'r disgwyl ac roeddwn i'n cerdded yn llawer mwy nag arfer. Dw i wedi blino'n braf.
Tuesday, June 11, 2019
hapus, hapus, hapus
Dw i newydd orffen llyfr gan Phil Robertson, sef "Happy, Happy, Happy." Wedi byw bywyd gwyllt, anhapus, daeth ar draws Iesu Grist pan oedd o'n 28 oed. Newidiodd ei fywyd yn gyfan gwbl. Drwy weithio'n galed gyda dyfalbarhad, a bob amser gadw ei olwg ar Iesu Grist, llwyddodd i fod yn filiwnydd yn y byd hela hwyaid. Ysgrifennwyd mewn modd syml, doniol, diffuant a heb ofn; rhaid dweud mai un o'r llyfrau gorau a ddarllenais erioed ydy o. Dw i'n argymell y llyfr hwn i bawb.
Monday, June 10, 2019
yn ôl i america
Daeth fy merch hynaf yn ôl i America wedi treulio pythefnos bendigedig yn Israel. Dwedodd hi ei bod hi wedi dysgu cymaint o bethau newydd am Israel a'r ardaloedd o gwmpas, a chyfarfod nifer o bobl annwyl. Does dim dwywaith y bydd y profiadau'n cael effaith gwerthfawr ar ei phaentiadau yn y dyfodol. Ymwelodd pawb â Shtula, cymuned fach lle'r oedd fy merch paentio murlun ar y wal ffin y llynedd. Dyma hi'n adrodd hanes ei murlun at ei grŵp.
Saturday, June 8, 2019
tad prysur
Mae Cardinal gwrywaidd sydd yn dod aton ni wrthi'n bwydo ei fabis hŷn. Doeddwn i ddim yn gwybod tan yn ddiweddar mai tad sydd yn eu bwydo nhw, ac mai mam yn eistedd ar eu nyth. Yn aml iawn mae o'n bwydo dau fabi ar yr un pryd sydd yn newynog bob amser; unwaith gwelais ddau arall gyda golwg wahanol. Mae o'n gofalu am bedwar o leiaf felly! Dw i'n hapus darparu rhai hadau iddyn nhw bob bydd.
Friday, June 7, 2019
i'r gogledd
Ar ôl treulio diwrnod llawn yn Jerwsalem eto, aeth fy merch a'i grŵp i'r Gogledd wrth basio Môr Galilea, a chyrraedd Kfar Blum, cymuned fach dwy filltir i Uwchdir Golan. Caethon nhw ginio tu allan, mewn natur braf. Dwedodd fy merch fod yna niferoedd o ddysglau bach a llenwodd y bwrdd, gan gynnwys pysgodyn ffres fel hwn (efallai mai o Fôr Galilea!)
Wednesday, June 5, 2019
gweithio'n galed
Mae fy mab ifancaf wrthi'n gweithio mewn gwersyll Cristnogol yn Nhalaith Missouri yn ystod yr haf eto. Cynnal a chadw ydy ei waith. Yn ogystal â thorri'r lawnt, casglu sbwriel, gwneud y gwaith trwsio, dylai fo drwsio toiledau wedi'u rhwystro o bryd i'w gilydd. Mae o'n arbenigwr erbyn hyn! Croesawir 1,000 o wersyllwyr yr wythnos 'ma.
Tuesday, June 4, 2019
croesi'r ffin eto
Wedi treulio tri diwrnod yng Ngwlad Iorddonen, mae fy merch a'i grŵp yn dod yn ôl i Israel heddiw. Cwrddon nhw â rhai gwleidyddion, mynychu darlith a mynd i siopa. Daeth twymyn siopa ar y merched i gyd, a phrynodd fy merch ffrog hardd (a drud!) Er cafodd brofiad gwerthfawr yno, mae hi'n awyddus i ddychwelyd at Israel.
Monday, June 3, 2019
yng ngwlad iorddonen
Sunday, June 2, 2019
Saturday, June 1, 2019
bedd yoni
Subscribe to:
Posts (Atom)