"Tad yn y nefoedd, ydyn ni'n gwybod dy fod ti'n medru gwneud y genedl hon yn aruthrol eto os trown ni'n llygaid a'n calonnau ni atat ti, a dilyn dy air yn ufudd-dod."
- gweddi agoriadol Franklin Graham yng Nghonfensiwn GOP
Amen!
Friday, August 28, 2020
Thursday, August 27, 2020
dim esgidiau
Pam fod y Japaneaid yn tynnu eu hesgidiau i ffwrdd pan fyddan nhw'n mynd mewn i dai? Erthygl arall gwych gan fy merch yn Japan. Dw i'n gwerthfawrogi'r arfer hwn yn fawr iawn. Mae'n cadw'ch tai yn lan, ac atal germau rhag mynd i mewn.
Tuesday, August 25, 2020
torri canghennau
Monday, August 24, 2020
mae o'n gwella
Dyma'r heddwas (ar y dde) a gafodd ei saethu'n agos gan ddihiryn ddau fis yn ôl yn Tulsa. Fu farw'r rhingyll Johnson, yr heddwas arall, ond cafodd y rhingyll Zarkeshan ei arbed er gwaethaf yr anafiadau difrifol. Dw i a'r teulu ynghyd â nifer fawr o bobl yn gweddïo drosto fo. Dw i'n hynod o falch gweld y fideo hwn a gwybod ei fod o'n gwella'n sylweddol. Codwyd 600,000 doler drosto fo a theulu'r rhingyll Johnson.
Saturday, August 22, 2020
bwrw ymlaen
Friday, August 21, 2020
gwin eirin
Dyna bost blog newydd fy merch yn Japan. Fel ei herthyglau eraill, mae'n amlwg ei bod hi wedi gwneud gwaith ymchwil yn drylwyr. Blasus iawn ydy umeshu heb sôn am ei manteision iechyd. Roedd fy niweddar frawd yn arfer gwneud umeshu o fri. Ces i wydraid bach pryd bynnag es i'w dŷ bwyta.
Wednesday, August 19, 2020
siopa ar lein
Mae siopa ar lein Walmart yn hynod o hwylus. Ar gael mae o ers tipyn, ond doedd gen i ddim diddordeb hyd at ddiweddar. Dim ond nwyddau darfodus a fydda i'n eu prynu yn y siop. Mae fy ngwaith siopa wedi cael ei haneri bellach. (Dw i heb gael fy nghyflogi gan eu hadran hysbysebu.) Yr unig gwyn sydd gen i ydy eu bod nhw'n rhoi i mi dun gyda tholc weithiau.
Tuesday, August 18, 2020
hogyn cariadus
Dw i newydd orffen gwrando ar Little Lord Fauntleroy eto. Un o fy hoff nofel ydy hi. Darllenais i hi a gwrando ar awdio sawl tro o'r blaen a dweud y gwir. Dechreuais wrando arno fo unwaith eto fodd bynnag wrth grosio pethau bach. Roedd yn anodd stopio gan mai mor ddiddorol ydy'r stori. Sut mae'r hogyn bach cariadus yn newid ei daid llym yn cynhesu eich calonnau. Cafodd sawl ffilm eu cynhyrchu, ond dydy'r un ohonyn nhw cystal â'r nofel ei hun.
Monday, August 17, 2020
fideo newydd youtube
Wedi derbyn teclyn pennodol gan ffrind, penderfynodd fy merch hynaf greu fideo YouTube am hanes sydyn ei murlun diweddaraf yn Tennessee. Cafodd hi lawer o hwyl i wneud y fideo. Gan fod y proses gyda'r teclyn hwnnw'n hawdd iawn, mae hi'n awyddus i wneud mwy.
Saturday, August 15, 2020
yn ôl i'r coleg
Eith fy mab ifancaf yn ôl i'r coleg heddiw. Roedd o'n astudio gartref am bum mis oherwydd cyfyngiadau. Cafodd gyfle i wella'n llwyr rhag niwmonia ar yr un pryd. Mae o'n awyddus i ail gychwyn astudio ar y campws. Peth newydd ydy y bydd o'n gyrru ei gar ar ben ei hun i'r coleg sydd 150 milltir i ffwrdd. Hen ond car hollol ddibynadwy ydy Toyota Camry 1997. Daw adref nesaf ar gyfer Gŵyl Diolchgarwch.
Friday, August 14, 2020
canmoliaeth
Wednesday, August 12, 2020
sosban newydd
Mae'r sosban Goreaidd a archebais newydd gyrraedd. Dyma ei defnyddio hi ar unwaith. Coginiwyd yr uwd yn berffaith, mor drwchus a blasus nag erioed. Mae ei siâp trwm ar ei gwaelod yn atal y cynhwysion rhag gorlifo dros yr ymyl - mantais bwysig i mi, rhag ofn. Hefyd, mae'n ddiogel mewn microdon, popty a pheiriant golchi llestri. Dw i'n gwirioni arni hi.
Tuesday, August 11, 2020
mwgwd
Monday, August 10, 2020
kimono
Ymwelodd fy nhair merch eu nain yr ail dro wedi llacio'r cyfyngiadau. Roedd hi wrth ei bodd wrth gwrs, a dyma hi'n prysur helpu fy merch ifancaf i wisgo kimono. Mae hyn yn rhoi llawer o bleser i fy mam gan fod ganddi nifer o kimono hardd na fedrith eu gwisgo ei hun bellach. Cawson nhw brinhawn hyfryd gyda'i gilydd.
Saturday, August 8, 2020
ail gyfle
Ar ôl sgrwbio'r sosban druan a losgais ar ddamwain, penderfynais roi'r gorau iddi wedi'r cwbl oherwydd nad ydw i'n sicr ydy hi'n ddiogel neu beidio. Ond, mae popeth yn iawn bellach - rhoddodd y gŵr ail gyfle iddi drwy ei defnyddio hi ar ei ddesg ail-lwytho bwledi. (Nid siocled ydyn nhw yn y sosban, gyda llaw!) Roeddwn i'n medru archebu sosban newydd heb euogrwydd.
Wednesday, August 5, 2020
okutama
Mae fy ail ferch yn Japan ar wyliau sydyn. Rhaid iddi fynd yn agos oherwydd bod Llywodraethwr Tokyo wedi gofyn i'r trigolion am beidio mynd yn bell. Ac felly aeth hi i Okutama, lle gwledig, llawn o natur er ei fod o yn nherfynau Tokyo. Aeth o gwmpas yn cerdded ac ar feic. Feiciodd hi 35 cilomedr! (ar feic trydan) un diwrnod. Mae hi'n mwynhau hoe fach cyn dychwelyd i fywyd prysur.
Tuesday, August 4, 2020
uwd
Fe wnes unwaith eto. Anghofiais ddiffodd y stof coginio trydan ar ôl gosod sosban arno fo'r bore 'ma. Pan des yn ôl i'r gegin, roedd hi'n llawn o arogl llosg, ac roedd fy uwd yn prysur droi'n ddu ar y gwaelod. Bwytes i'r rhan fwytadwy er bod yna arogl annymunol ynddi. Dim mor annymunol â'r uwd a baratowyd i'r plant at Lowood yn Jane Eyre, fodd bynnag. Druan o fy sosban fach o Japan - cafodd hi ei cham-drin llawer gwaith!
Monday, August 3, 2020
haf braf
Saturday, August 1, 2020
gêm ar y we
Mae fy mab ifancaf wrthi'n gwylio'r gêm rhwng Chelsea ac Arsenal ar y we. Roedd o ynghyd â'i frawd hŷn yn chwarae pêl-droed ac yn gefnogwyr angerddol Uwch Gynghrair Lloegr. Aethon nhw i weld gêm Chelsea yn Stamford Bridge flynyddoedd yn ôl hyd yn oed. Medra i adnabod ond un aelod o Chelsea, sef Lampard, sydd yn rheolwr bellach ac yn edrych tipyn bach yn henach... Mae'n drist bod nhw'n gorfod chwarae heb dorf enfawr yn y stadiwm.
Subscribe to:
Posts (Atom)