Dyma furlun newydd arall gan fy merch hynaf. Un bach ydy hwnnw ar gyfer Ginger Pig, tŷ bwyta yn Denver, Colorado. Roedd hi a'i gŵr yn medru cwblhau mewn dyddiau. Roedd y perchennog wrth ei bodd. Gobeithio y bydd y cwsmeriaid yn gwirioni arno fo.
Wednesday, September 30, 2020
Tuesday, September 29, 2020
boomelang
Monday, September 28, 2020
gweddi ar yom kippur
Heddiw, mae Yom Kippur wedi datblygu i fod yn ddigwyddiad heb fawr o debygrwydd i beth oedd Duw wedi'i olygu. Cafodd weddïau eu hamnewid aberthau gwaed ar ôl dinistrio’r deml yn 70 OC, a heb unrhyw sicrwydd o faddeuant cyflawn. Penderfynwyd byddai dim ond y rhai sydd wedi bod yn “ddigon da” yn cael eu henwau ysgrifennu yn Llyfr y Bywyd. Ar yr adeg hon o'r flwyddyn, mae Iddewon yn dymuno pob lwc i'w gilydd.
Darlun perffaith oedd neges Yom Kippur - darlun aberth Meseia a ddelai. Dw i'n gweddïo'r adeg hon yn enwedig y ceith llygaid Israel eu hagor, a byddan nhw'n canfod mai Iesu ydy'u Meseia.
Saturday, September 26, 2020
y diwrnod dychwelyd
Mae miloedd wedi ymgasglu yn Washington D.C. heddiw, ynghyd â miliynau o bobl dros America a'r byd ar y we, er mwyn i weddïo ac ymbil ar Dduw am ei drugaredd, wrth i ni edifarhau’n pechodau ni a'r pechodau cenedlaethol. Roeddwn i yn yr eglwys leol y bore 'ma gyda'r lleill yn ymuno â'r dyrfa yn Washington D.C. Mae'r gweithgareddau'n parhau.
Friday, September 25, 2020
tad gyda choesau hirion
Wednesday, September 23, 2020
gyoza ciwb
Coginiais gyoza i'r gŵr ar ei benblwydd. Fel arfer, byddwn i'n defnyddio lapio wonton sgwâr wrth dorri'r pedwar congl er mwyn i gael lapio crwn. Y tro 'ma, fodd bynnag, penderfynais ddefnyddio'r lapio sgwâr fel mae o. Cawson ni gyoza ciwb o ganlyniad. Roedd yn flasus beth bynnag, a heb wastraffu toes.
Tuesday, September 22, 2020
henoed swyddogol
Penblwydd y gŵr oedd hi ddoe. Trodd yn 65 oed, henoed swyddogol, a hithau'n Ddiwrnod Parchu Oedrannus yn Japan digwydd bod. Fe wnaeth ei hoff bethau i ddathlu, sef rhedeg 5 cilomedr gyda'i ffrind yn y bore, mynd i gae saethu i ymarfer ei sgil yn y prynhawn, ayyb. Coginiais ei hoff fwyd, sef grits, wyau a selsigen i ginio; gyoza a chacen fach i swper.
Monday, September 21, 2020
fideo dawns llew
Dyma fideo arall a wnaeth fy merch hynaf am ei murlun diweddaraf yn Indiana. Mae'r dyluniad ar seiliedig ar Kabuki. Yn y stori honno, bydd merch swil yn troi'n llew ffyrnig gyda mwng gwyn, ac yn dawnsio'n egnïol. Dwedodd fod y bobl leol yn gwirioni ar y murlun, ac roedd llinell hir i dynnu lluniau o'i flaen o.
Saturday, September 19, 2020
rosh hashanah
Mae utgorn Rosh Hashanah yn ein hatgoffa ni o ail ddyfodiad Iesu.
Deffro, di sydd yn cysgu,
a chod oddi wrth y meirw,
ac fe dywynna Crist arnat
Effesiaid 5:14
Pan fydd yr archangel yn galw ac utgorn Duw yn seinio,
bydd yr Arglwydd ei hun yn disgyn o'r nef...
1 Thesaloniaid 4:16
“Yn wir, yr wyf yn dod yn fuan.”
Amen. Tyrd, Arglwydd Iesu!
Datguddiad 22:20
Friday, September 18, 2020
beibl drwy zoom
Wrth i nifer o weithgareddau gael eu cynnal drwy Zoom yn ddiweddar, cafodd y gŵr ei wahodd i roi gwers fer i FCO (Fellowship of Christian Optometrists) yng Ngholeg Optometreg Kentucky ddoe. Ar ôl paratoi am ddyddiau, siaradodd ar galon dda. Aeth popeth yn wych. Roedd y grŵp ffyddlon yn hynod o ddiolchgar.
Thursday, September 17, 2020
mwgwd arall
Cawson ni fwgwd Trump arall yn rhad ac am ddim gan y siop swyddogol ar lein. Dyma ei wisgo wrth siopa yn Walmart gyda'r gŵr. Cawson ni nifer o ganmoliaeth. Gofynnodd dyn lle prynon ni'r mygydau; mae o eisiau un hefyd!