Aeth Reuben, ci fy merch hynaf at Iesu'r bore 'ma. Gwaethygodd ei iechyd yn dorcalonnus yn ddiweddar fel roedd rhaid i fy merch a'i gŵr wneud y penderfyniad anodd. Wedi bwyta darn o bitsa yn swyddfa'r milfeddyg, caeodd ei lygaid yn dawel am y tro olaf. Roedd o gyda nhw bron i 14 mlynedd, ac fel eu hunig blentyn. Dydy'r Beibl ddim yn dweud beth fydd yn digwydd i anifeiliaid anwes ar ôl iddyn nhw farw, ond dw i'n credu'n gryf bod gan Dduw trugarog drefniadau tosturiol ar eu cyfer nhw.
No comments:
Post a Comment