Danddaearol: trueni, cafodd ein hunig bregethwr ei garcharu neithiwr.
Mae'r rhan fwyaf o Gristnogion yn America'n byw bywyd hawdd; mae'n ymddangos bod amcan eu bywyd ydy cael hwyl. Doniol a difrifol ydy erthygl y Wenynen y tro hwn.
Mae'r rhan fwyaf o Gristnogion yn America'n byw bywyd hawdd; mae'n ymddangos bod amcan eu bywyd ydy cael hwyl. Doniol a difrifol ydy erthygl y Wenynen y tro hwn.
Daeth yr arddangosfa gelf yn Tokyo i ben. Roedd fy merch yn medru gwerthu dau o'r tri phaentiad. Athro caligraffi adnabyddus (y dyn yn y llun) a brynodd yr un mwyaf. Roedd fy merch yno'n aml yn siarad â'r bobl a oedd yn dod. Mae hi'n cael ymlacio bellach.
Trodd fy merch hynaf yn 40 oed Noswyl Nadolig. Cafodd ei geni yn Tokyo, a dathlodd ei phenblwydd diweddaraf yn Tokyo hefyd. Paratôdd ei chwiorydd ddathliad cynnes gan gynnwys yr arwydd gwych hwnnw yn eu fflat.
Am hynny, y mae'r Arglwydd ei hun yn rhoi arwydd i chwi: Wele ferch ifanc yn feichiog, a phan esgor ar fab, fe'i geilw'n Immanuel. (Eseia 7:14)
Nadolig Llawen
Cafodd fy merched yn Tokyo ffrwythau hynod o ddrud yn anrheg. Math o ffrwythau a gafodd eu magu gyda gofal arbennig maen nhw. Dwedodd fy merched fod y ffrwythau'n anhygoel o felys ac wedi bron i doddi yn y geg. (yr orennau mandarin: 70 doleri, y mefus: 40 doleri)
Mae tri phaentiad fy merch yn cael eu dangos ar arddangosfa gelf mewn siop adrannol enwog yn Tokyo ar hyn o bryd. Aeth hi a’i gŵr i'r seremoni agoriadol ddeuddydd yn ôl yn cyfarfod y staff a rhai pobl a ddaeth i weld yr arddangosfa. Braint fawr ydy'r cyfle hwn iddi.
"Dy bobl di fydd fy mhobl i, a'th Dduw di fy Nuw innau." - geiriau enwog Ruth
Dw i'n credu'n siŵr i Lyfr Ruth gael ei osod ar ôl Llyfr Barnwyr yn fwriadol. Roedd yn hyfryd darllen am y ddynes llawn cariad gyda chalon bur, wedi darllen beth fyddai'n digwydd pan fyddai "pob un yn gwneud yr hyn oedd yn iawn yn ei olwg ei hun."
Es i a'r gŵr i Katfish Kitchen neithiwr, am y tro olaf. Byddan nhw'n cau'r drws yfory, wedi bwydo trigolion y dref ers 22 mlynedd. Un o'r tai bwyta mwyaf poblogaidd ac eiconig oedd. Roedd yn dda inni fynd yn gynt nag arfer oherwydd bod y lle wedi dechrau llenwi'n gyflym. Roedd rhaid bod y bobl eraill glywed y newyddion trist.
Ymwelodd fy ail ferch yn Japan â'i nain am y tro cyntaf ers misoedd. Roedd hi mor hapus gweld bod ei nain yn cadw'n go da er gwaethaf ei hoedran (101.) Wir, mae ei chroen yn disgleirio!
Yna llefarodd Iesu wrthynt eto. “Myfi yw goleuni'r byd,” meddai. “Ni bydd neb sy'n fy nghanlyn i byth yn rhodio yn y tywyllwch, ond bydd ganddo oleuni'r bywyd.” Ioan 8:12
Aethon nhw i Nara hefyd, i weld y cerflun Bwdha o bres mwyaf yn y byd, a bwydo ceirw yn y parc enwog. Does ganddyn nhw ofn pobl o gwbl, ac maen nhw'n dod atoch chi yn mynnu bwyd! Aeth fy merch i'r parc pan oedd hi'n ddwy oedd.
Un o'r llefydd a ymwelodd fy merch oedd bedd yr eglwys. Mae lludw fy nhad yno; oriau cyn iddo farw 35 mlynedd yn ôl o ganser mewn ysbyty, cyffesodd ei ffydd yn Iesu Grist. Mae o gydag O, drwy drugaredd Duw.
Kobe oedd cyrchfan fy merch a'i gŵr ddoe, lle roedden ni'n arfer fyw. Roedd am y tro cyntaf iddi ymweld â'r ddinas ers symud i America pan oedd hi'n bump oed (cyn y daeargryn trychinebus.) Aethon nhw i'r llefydd cofiadwy, fel yr eglwys, parc, cymdogaeth a mwy. Mae ei ffrindiau a'r gweinidog yn dal yno. "Wnes ti ddim newid o gwbl; tipyn talach, efallai," meddai'r gweinidog wrth fy merch!
Aeth fy merch hynaf at theatr Kabuki yn Kyoto i wylio perfformiadau ei hoff actor a'i fab. (Hyn oedd ei phrif nod i aros yn Kyoto.) Gwelodd hi ffrindiau cylch Kabuki hefyd a oedd mor frwdfrydig â hi dros Kabuki.
Mae fy merch hynaf a'i gŵr yn mwynhau eu gwyliau yn Japan. Wedi treulio dyddiau gyda'u chwiorydd yn Tokyo, mae'r ddau wedi symud i Kyoto. Byddan nhw'n aros yno am ryw deg diwrnod. Mae yna nifer o gamlesi yn y ddinas gyda thai bwyta ar un ochr, sydd yn fy atgoffa i o Fenis. Mae yna wahaniaeth fawr fodd bynnag, sef glendid!
Mae fy merch hynaf a'i gŵr yn Japan ers dyddiau. Byddan nhw'n treulio dau fis a hanner yno yn ymweld â'i theulu, ffrindiau, gweld golygfeydd, gwylio Kabuki, arddangos ei pheintiadau mewn oriel, a mwy. Dyma nhw'n mwynhau nwdls Japaneaidd mewn tŷ bwyta bach nodweddiadol.
Rhaid terfynu'r sefydliad aflan sydd yn benderfynol o'ch dinistrio. Ar yr un pryd, rhaid cael y gwystlon i gyd yn ôl. Cyfyng-gyngor amhosibl - dim ond Duw, a drodd y môr dros yr Israeliaidd, sydd yn medru gweithio gwyrthiau.
Cynnon ni tân yn y llosgwr logiau heddiw wrth y tymheredd ostwng yn ddigon oer. Mae gynnon ni fwy na digon o logiau i bara drwy'r gaeaf, diolch i'r ffrind sydd gan goedydd ar ei dir. Dyma'r gŵr wrthi'n gwneud ei hoff weithgaredd gaeafol. Dyma fi'n sychu'r dillad wrth y llosgwr.
Stopiodd llyfr Salmau fwledi yn achub bywyd milwr IDF yn Gaza. Mae nifer o bobl yn gweddïo dros Israel.
Cafodd fy mhlant yn Japan gyfle i fwyta cinio Diwrnod Diolchgarwch mewn tŷ bwyta Americanaidd. Dywedon nhw eu bod nhw'n teimlo fel pe baen nhw'n cael eu cludo yn ôl i'r Unol Daleithiau. Mae'n ymddangos, fodd bynnag, bod yna wahaniaeth mawr, sef maint y bwyd!
Mae cowbois o America wrthi'n gweithio yn ffermydd Israel i roi cefnogaeth i gymunedau Jwdea Samaria yn yr amser caled. Go da, hogia! Gobeithio bod pobl Israel yn gweld bod Cristnogion go iawn yn eu caru nhw.
Dathlodd fy merch a'i gŵr yn Japan eu penblwydd priodas cyntaf ddoe. Aethon nhw'n ôl at y tŷ bwyta lle gynhaliwyd y seremoni a'r wledd briodas. Roedd criw'r gegin yn eu cofio nhw, a thynnodd staff lun hwn. Mae'r cwpl yn disgwyl eu babi cyntaf ym mis Chwefror!
Dyma Samer. Mae o'n Gristion ac Islaeliwr Arabaidd. Mae o'n falch o berthyn i IDF ac o fod yn ddinesydd o Wladwriaeth Israel. "Does gen i ddim mamwlad arall," meddai.
Mae o wrthi'n brwydro gyda'i frodyr Iddewig, ysgwydd wrth ysgwydd, er mwyn amddiffyn eu gwlad. "Byddwn ni'n ennill y rhyfel hwn, ac os myn yr Arglwydd, yn dod â’r gwystlon adref yn ddiogel," meddai.
Ymysg 300,000 o bobl a fynychodd y gwrthdystiad dros Israel yn Washington D.C., rhaid bod yno nifer mawr o Gristnogion sydd yn caru Iddewon ac Israel. Fel dywedodd Corrie Ten Boom, "Allwch chi ddim caru Duw heb garu'r bobl Iddewig." Wedi'r cwbl, Iddew ydy Iesu Grist!
Diolch yn fawr i'r holl gyn-filwyr. Diweddar dad y gŵr a oedd un ohonyn nhw. Carodd ei deulu a'i wlad hyd at ddiwedd ei fywyd. Mi fydd o'n colli ei galon pe byddai o'n cael gwybod beth sydd yn digwydd i'w wlad annwyl heddiw.
Aeth Kevin Stitt, Llywodraethwr Oklahoma ynghyd â Greg Abbott, Llywodraethwr Texas i Israel yr wythnos diwethaf. Wrth gyfarfod Benjamin Netanyahu, sicrhaodd fyddai Oklahoma yn sefyll gydag Israel fel ffrind, a byddai'n dal i weddïo drosti hi. Hwrê i Kevin Stitt!
Fe'm coronwyd yn Frenhines y Byd, gan fy ŵyr am fy mhenblwydd heddiw! Ysgrifennodd y neges greadigol yma ar y cerdyn. Hon ydy'r anrheg fwyaf annwyl a ges i erioed.
Daniel ydy un ohonyn nhw. Mae o'n ffrind i fy merch hynaf. Ar ôl gwasanaethu fel meddyg yn IDF am dair blynedd, roedd yn byw yn yr Unol Daleithiau nes dydd erchylltra'r Hydref 7. Yn ôl yn Israel rŵan, mae o a'i dîm yn ceisio codi arian ar gyfer cyflenwadau ac offer meddygol yn ôl y rhestr a luniwyd gan y meddygon a'r nyrsys ar ffiniau Israel. Eu nod nhw ydy 60,000 o ddoleri. Dyma'r linc.
Mae fy merch hynaf newydd orffen paentiad er mwyn dangos ei chefnogaeth dros Israel. Enwodd o yn "Gan Strategaeth Ddoeth" sydd yn dod o Ddiarhebion 24:6. Hoopoe ydy'r adar, sef aderyn cenedlaethol Israel.
"Dw i'n deall bod yr Arabaidd eisiau ein dinistrio ni'n llwyr, ond ydyn nhw wir yn disgwyl i ni gydweithredu?" - Golda Meir
Y dydd hwnnw, gwnaeth yr Arglwydd gyfamod ag Abram a dweud: “I'th ddisgynyddion di y rhoddaf y wlad hon, o afon yr Aifft hyd yr afon fawr, afon Ewffrates.” Genesis 15:18
Dim ond rhan fach o'r tir a addawyd gan Dduw y mae Israel yn berchen arni hi heddiw. Ac eto, mae'r byd eisiau iddyn nhw roi'r gorau i fwy.
"Bradychodd yr Eglwys yr Iddewon trwy aros yn dawel yn ystod yr Holocost. Rŵan, yng nghanol pogrom tebyg, rhaid i ni sefyll gyda nhw, yn gadarn a di-ofn. Oherwydd os ydych chi wir yn caru Iesu, byddwch chi'n caru'r Iddewon." - Charles Gardner
Mae enw hamas (acronym) yn Arabeg yn golygu brwdfrydedd, sêl neu ysbryd ymladd. Mae gan y gair ystyr yn Hebraeg hefyd, sef trais, ac mae o'n ymddangos dwywaith yn y Beibl - Genesis 6:11, 13. Mae hamas (trais) yn rhywbeth mor ofnadwy nes i Dduw benderfynu dinistrio dynoliaeth o’i herwydd. Diolch am y wybodaeth i Israel Today.
"Ar ddechrau cyfnewidiad, mae'r gwladgarwr yn ddyn prin ac yn ddewr; ceith ei gasáu, a'i ddirmygu. Pan fydd ei achos yn llwyddo, bydd yr ofnus yn ymuno ag ef oherwydd na fydd yn costio i fod yn wladgarwr." Mark Twain
Patrwm Japaneaidd traddodiadol a ddefnyddir i atal drygioni ydy Kagome. Fe'i defnyddir yn aml ar gyfer basgedi gwehyddu a phatrymau kimono. (Mae gan seren chwe phwynt hanes hir yn Japan.) Mae fy merch hynaf newydd baentio hwn yn gobeithio y bydd Kagome yn gwarchod IDF rhag y drygionus.
Dyma bregeth arall ardderchog a dewr gan Gweinidog Gary Hamrick. Mae o'n esbonio'n fanwl beth ydy hanes, gwreiddiau, sefyllfa gyfredol Israel, Hamas a Diwedd Amser. Mae o'n sefyll yn gadarn dros y gwirionedd, a does ganddo fo ofn sôn am wleidyddiaeth yn glir chwaith. Fy hoff bregethwr ydy o.
Buodd Gigio, ci frawd y gŵr farw yn 17 oed. Er ei fod o wedi colli golwg a chliw flynyddoedd yn ôl, roedd bob amser yn siriol, ac yn rhoi cysur i'w berchennog a'r cymdogion mewn maestrefi Las Vegas. Roedd ein brawd ni'n ei garu o, ac yn gofalu amdano fo'n dyner hyd at y diwedd.
Dyma bregeth ardderchog a hynod o graff ar Israel gan Skip Heitzig.
Paentiodd fy merch hynaf dri murlun yn Sderot, Israel yn 2019 - un ar loches bomio, dau ar ysgolion. Aeth ffrind iddi at y dref er mwyn gweld a oedd y murluniau'n ddiogel! (Ofynnodd hi mohono, wrth gwrs!) Dwedodd o eu bod nhw heb ddifrod, a bod y dref yn wag. Gobeithio bod y trigolion wedi dianc yn ddiogel.
Cafodd y gŵr grys-T gan ein mab hynaf ni. Cafodd y mab y crys gan ei frawd yng nghyfraith a raddiodd yn Athrofa Diwinyddol Dallas. (Hanes hir!) Crys gwych ydy o beth bynnag gyda "hallelwia" yn Hebraeg arno.
Dw i'n hoffi gwrando ar Feseia gan Handel o bryd i'w gilydd. Roeddwn i'n cymharu sawl fideo Bydd yr Utgorn yn Seinio neithiwr. Hwn oedd y gorau yn fy nhyb i. Yna, des i ar draws ganu gan Bryn Terfel a oeddwn i erioed wedi clywed o'r blaen. Fo ydy fy ffefryn bellach.
Mae fy merch hynaf yn maethu ci arall. Ci mawr du ydy Bingley. Er gwaethaf ei maint, mae o braidd yn swil ac ofnus weithiau. Bydd fy merch yn rhoi bath iddo a "gweithio arno fo." Mae ganddi ddawn arbennig i dawelu calonau cŵn, drwy ymddwyn fel un ohonyn nhw!
Er gwaethaf canrifoedd o anffyddlondeb pobl Israel, na fydd cyfamod Duw a'i ddewis byth yn newid. Aeth pobl Israel yn ôl at eu tir a roddodd Duw i Abraham, wedi dwy fil o flynyddoedd. Dal yn Ei bobl maen nhw, ac mae'r Eglwys wedi cael ei himpio drwy ffydd yn Israel. Mae ffyddlondeb Duw'n para am byth. Dyma erthygl ardderchog gan Aviel Schneider.
Ces i gip ar y lleuad lawn y bore 'ma. Mae'r coed yn yr iard gefn yn fy rhwystro gweld lleuad yn aml, ond llwyddais edmygu'r lleuad lachar rhwng y dail. Y lleuad harddaf yn y flwyddyn ydy hi, yn ôl diwylliant Japaneaidd.
y lleuad lawn yn Tokyo neithiwr - Lywodraeth Fetropolitan Tokyo
Ymwelodd fy mrawd â'n mam ni yn ei chartref henoed yn Tokyo ddoe. Mae hi'n anghofio pethau mwyfwy. Dwedodd hi wrtho, fodd bynnag, ei bod hi'n cael hwyl bob dydd (gofal ardderchog, bwyd maethlon, gweithgareddau diddorol, ffrindiau.) Efallai mai bendith Duw ydy cyflwr ei meddwl. Mae hi wedi byw bywyd caled. Drwy ddileu ei chof poenus, efallai Ei fod O'n galluogi iddi fwynhau ei bywyd presennol.
"Does neb yn gwybod eli nos effeithiol?" gofynnodd fy merch hynaf ar dudalen Facebook y bore 'ma. (Bydd hi'n troi'n 40 oed cyn hir.) Roedd crychau cynyddol ar fy wyneb yn arfer fy mhoeni o'r blaen, ond dim bellach. Y modd gorau i mi ydy peidio â syllu ar ddrych!
Mi fydda i'n coginio gyoza, hoff fwyd y gŵr ar gyfer ei benblwydd bob blwyddyn. Eleni, fodd bynnag, prynais gyoza parod. Yn anfoddus prynais un fegan, sydd ddim cystal, trwy gamgymeriad. Bwytaodd y gŵr yn siriol, chwarae teg iddo, ond roeddwn i'n teimlo'n ofnadwy. Aethon ni i Napoli's neithiwr felly, er mwyn gwneud iawn am y siom. Roedd popeth yn flasus gan gynnwys tiramisu, hoff bwdin y gŵr.
Roedd hi'n benblwydd y gŵr yn 68 oed ddoe. Er mwyn i ddathlu, y peth cyntaf a wnaeth oedd rhedeg. Roedd o'n gobeithio rhedeg milltir dan 8 munud ar y penblwydd hwnnw, ac yn hyfforddi'n benodol (ar wahân i'w ymarfer corf arferol) i gyrraedd y nod. Roedd dan gymaint o bwysau a greodd ei hun, ond llwyddodd - 7:45.
Yna daeth gair yr Arglwydd at Eseia a dweud, “Dos, dywed wrth Heseceia, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw dy dad Dafydd: Clywais dy weddi a gwelais dy ddagrau. - Eseiaa 38:4,5
Mae Duw'n clywed ein gweddïau, a gweld ein dagrau.
Mae Tony, ci roedd fy merch yn gofalu amdano am ddyddiau newydd ffeindio cartref. Clywodd hi gan loches anifail yn dweud mai dynes a'i merch ifanc wedi mynd â fo adref. Mae fy merch eisiau parhau'r gwaith gwirfoddoli hwnnw er bod ei chalon yn torri tipyn bach bob tro.
Mae fy merch hynaf yn maethu ci unwaith eto nes iddo gael ei fabwysiadu. Ci swil ac annwyl ydy Tony, sydd wedi cael ei adael. Dydy o ddim yn cyfarth o gwbl yn ôl fy merch - nodweddiadol o'r brid hwn o Dde Affrica. Hoffai hi ei fabwysiadu hyd yn oed, os nad rhaid iddi deithio mor aml. Gobeithio y bydd o'n ffeindio cartref cariadus.
"Peidiwch â gwangalonni nac ofni, na dychryn nac arswydo rhagddynt, oherwydd y mae'r Arglwydd eich Duw yn mynd gyda chwi, i frwydro trosoch yn erbyn eich gelynion, ac i'ch gwaredu." Deuteronomium 20:3-5
Ymunon ni â'n mab hynaf a'i deulu'n dathlu ei benblwydd, ar y we. (Ychwanegwyd ein mab ifancaf yn y fan a'r lle hefyd.) Pobodd ein merch-yng-nghyfraith "gacen dyllau" siocled. Cannon ni Benblwydd Hapus gyda'n gilydd. Mae'n anodd ymgasglu ar gyfer penblwyddi bellach wrth y plant ar wasgar dros y byd. Dw i'n ddiolchgar am y dechnoleg fodern.
Wrth i mi a'r gŵr bwyta swper yn Katfish Kitchen, gwelon ni hysbysebion busnes lleol ar y bwrdd. Roedd dau glinig optometreg yn eu mysg; roedd y ddau optometrydd yn fyfyrwyr y gŵr. Yn ystod ei yrfa fel athro yn y brifysgol, dysgodd fwy na 750 sydd yn gweithio fel optometryddion yn Oklahoma neu daleithiau eraill bellach. Ei fabanod maen nhw i gyd!
Mae fy merch hynaf newydd ddechrau gwerthu llyfr lliwio cathod drwy Amazon. Mae'n anhygoel gweld y llyfr a greodd hi ar dudalen Amazon. Penny Munchen ydy ei nom de plume. Mae cynifer o lyfrau tebyg ar werth wrth gwrs, ond mae hi'n hyderus mai hwn ydy'r gorau!
Ces i fy nharo gan yr olwg hon wrth gamu allan y drws blaen bore 'ma - gweddillion y Gor-leuad Las. Roedd hi'n edrych yn fwy nag arfer, ond tipyn bach yn drist ac wedi blino. Efallai ei bod hi wedi cael digon, ac mae hi eisiau llonyddwch. Hwyl fawr tan y tro nesaf.