hen sioe gomedi radio
Cofiais yn sydyn am yr hen sioe gomedi radio o'r enw Life of Riley roeddwn i'n arfer gwrando arni hi pan oeddwn i'n dysgu Saesneg yn Japan. Darlledwyd gan Rwydwaith y Dwyrain Pell, gwasanaeth radio milwrol yr Unol Daleithiau. Roeddwn i'n arfer ei recordio ar fy recordydd tâp casét trwm, a byddwn i'n gwrando arni drosodd a throsodd ym mhobman hyd yn oed ar y trên. (Roedd hi cyn oes Walkman.) Dwi'n meddwl mai hyn oedd yr allwedd i mi ddysgu Saesneg yn dda! Mae hi ar gael o hyd, y penodau cyfan! Gwrandawais ar un ohonyn nhw. Roedd hi’n ddoniol dros ben gyda’r cymeriadau cyfarwydd, a hen jôcs Americanaidd da.
No comments:
Post a Comment