Bydd fy mam yn troi'n 103 oed mewn dyddiau. Byddwn ni'n gwneud cerdyn penblwydd gyda lluniau'r teulu bob blwyddyn. Dyma'r llun o'r gŵr a fi. Bydd fy merch hynaf yn casglu lluniau oddi wrth bawb a gwneud cerdyn er mwyn ei roi i'w nain ar ei phenblwydd yn berson.
Thursday, April 10, 2025
Wednesday, April 9, 2025
te dant y llew
Casglais dant y llew yn ein hiard ni er mwyn gwneud te. Wedi eu golchi nhw'n drylwyr, tywallt dŵr poeth arnyn nhw, a'u mwydo am ryw ddeg munud, dyma gael te perlysieuyn gwych; mae ganddo lawer o fanteision iechyd.
Monday, April 7, 2025
cleddyf yr Ysbryd
Yn yr eglwys yn Tokyo lle mae'r teulu yn mynd, pregethodd y gweinidog ynglŷn ag arfogaeth Duw. Wrth iddo sôn am gleddyf yr Ysbryd, dangosodd gleddyf Japaneaidd, wrth reswm!
Saturday, April 5, 2025
yr awen wedi dychwelyd
Roedd fy merch hynaf wedi blino'n lan cyn y siwrnai fel byddai'n barod i roi'r gorau i gelf yn gyfan gwbl. Roedd hi wrth ei modd i gael hoe rhag celf, a mwyhau ei gwyliau i'r eithaf yn Japan. Wedi treulio mis mewn llefydd a blodau hardd, bwyta bwyd Japaneaidd blasus, gweld ei theulu yno, fodd bynnag, mae'r awen wedi dychwelyd. Dyma ei pheintiad newydd sbon a wnaed ar gyfer Clwb Americanaidd Tokyo. Mae blodau ceirios yn edrych fel pe baen nhw'n tyfu o'r cynfas.
Thursday, April 3, 2025
dihareb
"Fe fydd drygioni yn ffynnu pan na fydd pobl dda yn gwneud dim."
Mae'r ddihareb hon yn profi'n wir bob amser, yn enwedig heddiw.
Wednesday, April 2, 2025
mwy o ffynnonnau poeth
Trodd y tywydd yn oer yn Tokyo yn sydyn. Dim ffiars - mae nifer o sento (baddonau cyhoeddus) ac onsen (ffynnonnau poeth) lle mae fy merch a'i gŵr yn aros. Dyma nhw'n cael eu cynhesu'n braf ddiwedd y diwrnod. Hoffwn pe gallwn i ymuno â nhw!
Tuesday, April 1, 2025
hanami
Aeth fy nheulu yn Japan i ardal enwog i wneud hanami, sef edmygu blodau ceirios. Fel arfer mae hanami yn cynnwys picnic dan goeden geirios flodeuog. Dyma nhw, hyd yn oed fy wyres fach, ynghyd â'u ffrindiau, yn mwynhau'r blodau a bwyd yn nhywydd braf.
Saturday, March 29, 2025
siop unigryw
Aeth fy merch a'i gŵr at siop elusen yn Tokyo. Elfen unigryw'r siop ydy nad oes neb yn gweithio tu mewn. Bydd y cwsmeriaid yn dewis dillad a thalu yn ôl y tagiau, yn taflu pres mewn blwch. Na fydd y system honno byth yn gweithio ond yn Japan!
Thursday, March 27, 2025
ffaith arall
Dyma'r gwledydd a roddodd "anrhegion" i rai prifysgolion yn UDA. O le cafodd y gwledydd "tlawd" hyn gymaint o bres i roi yn rhoddion i brifysgolion yn y wlad gyfoethocaf yn y byd, ac i beth, tybed?
Wednesday, March 26, 2025
ffaith
Yn yr holl Ddwyrain Canol, mae gan ond 1.6 miliwn o bobl Arabaidd ryddid cyflawn yn wleidyddol ac yn grefyddol. Maen nhw i gyd yn byw yn Israel.
Tuesday, March 25, 2025
anhygoel o ryfeddol
"Dw i'n dy ganmol di am fy mod i wedi cael fy nghreu yn anhygoel o ryfeddol." - y Salmau 139:14
Monday, March 24, 2025
3.2 miliwn
Dileodd Elon Musk a'i dîm 3.2 miliwn o enwai oddi wrth y rhestr pensiwn. Cawson nhw i gyd wedi'u rhestru fel 120 oed a hŷn. Bellach maen nhw'n cael marcio yn ymadawedig. Go da, DOGE!
Saturday, March 22, 2025
billy
Cafodd Billy, pyped, ei ddarganfod o ddyfnder cwpwrdd yr eglwys yn ddiweddar. Roedd fy mab ynghyd â'i ffrindiau yn arfer perfformio sioe byped ar gyfer plant yr eglwys flynyddoedd yn ôl, a chael llawer o hwyl. Dyma sylwi bod Billy yn y tywyllwch am bron i 20 mlynedd!
Thursday, March 20, 2025
sianel youtube newydd
Mae fy merch newydd gychwyn prosiect yn Tokyo, sef sianel YouTube sydd yn cynnig cerddoriaeth ysgafn gyda fideo a ffilmiodd ei hun. Y cysegr Shinto o flaen ei llety ydy'r safle ar y sgrin. Mae'r gerddoriaeth anymwthiol yn berffaith i glywed tra ydych chi'n gweithio at y ddesg.
Wednesday, March 19, 2025
adeilad heulwen
Mae fy merch a'i gŵr yn dal i fwynhau eu gwyliau yn Japan, yn gweld y teulu, ffrindiau, llefydd newydd, a bwyta bwyd gwych Japaneaidd wrth gwrs. Dyma nhw'n mynd i Adeilad Heulwen (60 llawr) am y tro cyntaf. Pan oeddwn i'n gweithio yn Tokyo, roedd yr adeilad newydd orffen yn agos at y swyddfa. Aeth yn atyniad mawr yr unwaith ar adeg honno, yn 1978!
Tuesday, March 18, 2025
datrysiad hawdd
"Os ydych chi eisiau i'r rhyfel ddod i ben, mynnwch i Hamas ryddhau'r gwystlon. Na fydd Israel yn stopio tan hynny," meddai Danny Danon, Llysgennad Israel i'r Cenhedloedd Unedig
Monday, March 17, 2025
syml dros ben
Os nad ydych chi eisiau rhyfel, peidiwch ag ymosod ar Israel - syml dros ben. Cytuno'n llwyr. Diolch i Hananya Naftali am y post hwn.
Friday, March 14, 2025
purim
Purim Hapus!
Thursday, March 13, 2025
silffoedd am ddim
Maen nhw wedi setlo i lawr mewn llety a alwir yn shared house yn Tokyo. Er bod eu hystafell wely yn glyd, does dim digon o silffoedd. Mae'n hynod o boen cael gwared ar ddodrefn yn Japan. Dim ond tri mis byddan nhw'n aros beth bynnag. Cafodd fy merch syniad gwych: ffeindiodd flychau cardbord am ddim, a'u troi'n silffoedd. Bydd hi'n medru cael gwared arnyn nhw'n hawdd pan ddaw'r amser i fynd adref.
Wednesday, March 12, 2025
ffynnon boeth
Arhosodd fy merch a'i gŵr mewn gwesty yn y maes awyr yn hytrach na cheisio cyrraedd y llety ar ôl y siwrnai hir. Syniad call wir! Cawson nhw ymlacio mewn onsen (ffynnon boeth) hyfryd yn y gwesty i doddi eu blinder cyn taclo eu gwyliau.
Tuesday, March 11, 2025
3 mis yn japan
Ar ôl oedi am oriau a phroblem dechnegol, goroesodd fy merch hynaf a'i gŵr siwrnai awyren hir, ac maen nhw newydd gyrraedd Tokyo. Aeth fy merch sydd gan basbort Japan drwy'r tollau mewn fflach tra oedd ei gŵr yn gorfod aros mewn ciw. Dyma nhw yn Japan beth bynnag yn gweld y teulu a ffrindiau, a mwynhau diwylliant a bwyd Japan am dri mis.
Monday, March 10, 2025
mae hi'n dod
Saturday, March 8, 2025
caru Duw
"Fedrwch chi ddim caru Duw heb garu'r bobl Iddewig." - Corrie Ten Boom
Cytuno'n llwyr. Mae gormod o bobl yn galw eu hunan yn Gristion heb garu'r bobl Iddewig.
Friday, March 7, 2025
gair pwy a saif
"Chaiff holl weddill Jwda, a ddaeth i wlad yr Aifft i aros yno, ystyried gair pwy a saif, fy ngair i ynteu eu gair hwy." - Jeremeia 44:28
Concrodd Brenin Babilon yr Aifft 18 mlynedd wedyn, a gwneud yr union beth i'r Iddewon a broffwydwyd drwy Jeremeia. Dim ond gair Duw sydd yn sefyll am byth.
Wednesday, March 5, 2025
gwledd i'r wenynen
Tuesday, March 4, 2025
arsylwi doeth
"Dydy'r rhan fwyaf o boblogaeth gyffredinol ddim yn gwybod beth sydd yn digwydd, a dydyn nhw ddim hyd yn oed yn gwybod nad ydyn nhw'n gwybod." Noam Chomsky
arsylwi doeth
Monday, March 3, 2025
diwrnod merched
Diwrnod Merched ydy hi yn Japan. Dyma fy noliau sydd yn yr un oed â fi. Mae'r merched yn fy nheulu a'r teuluoedd estynedig yn dathlu ein merched, o'r ifancaf (Evelyn, un diwrnod oed) i'r hynaf (fy mam, 102 oed) a phawb arall rhyngddyn nhw.
Saturday, March 1, 2025
sioe blanedau
"Y mae'r nefoedd yn adrodd gogoniant Duw, a'r ffurfafen yn mynegi gwaith ei ddwylo." y Salmau 19:1
"Er pan greodd Duw y byd, y mae ei briodoleddau anweledig ef, ei dragwyddol allu a'i dduwdod, i'w gweld yn eglur gan y deall yn y pethau a greodd." Rhufeiniaid 1:20
Thursday, February 27, 2025
nanw siôn
"D ydi amsar diodda nag amsar petha braf ddim yn para'n hir." - Te yn y Grug
Unwaith eto, mae geiriau Nanw Siôn yn adleisio yn fy meddwl. Mae hi'n llygad ei lle. Bydd popeth yn pasio mor gyflym.
Wednesday, February 26, 2025
cuddio
Mae'n hollol bosib cuddio beth ydyn ni'n ei wneud o olwg pobl, ond byth o olwg Duw hollwybodol. Ac un diwrnod byddwn ni i gyd yn sefyll o'i flaen.
Tuesday, February 25, 2025
dau fodd
Mae dau fodd i gael ein twyllo -
gan gredu'r hyn anghywir, gan wrthod credu'r hyn cywir.
Soren Kierkegaard
Monday, February 24, 2025
troseddu pwy?
"Mae gan y byd obsesiwn â pheidio â throseddu pobl, ond dylen ni ymdrechu i beidio â throseddu Duw," meddai rhywun. Cytuno'n llwyr.
Saturday, February 22, 2025
meddwl
Thursday, February 20, 2025
peth "gwarthus"
Gwarthus! Creulon! Disgwylir i DOGE ddileu enwau'r bobl hŷn na 120 oed oddi ar restr bensiwn er mwyn cael gwared ar wastraff y llywodraeth. Sut byddan nhw'n mynd i ymdopi? Dyma nifer yr hen bobl hynny druan.
Wednesday, February 19, 2025
gwahardd rasio milgwn
Falch o glywed y bydd Cymru'n gwahardd rasio milgwn cyn gynted ag sydd yn bosib. Wrth i fy merch hynaf ddechrau eu maethu dros dro, dw i wedi dod i ymwybodol o'u triniaeth greulon. Mae rasio milgwn yn dal yn gyfreithiol mewn sawl talaith yn America (nid yn Oklahoma!) Gobeithio y bydd yn cael ei gwahardd yn gyfan gwbl yn fuan.
Tuesday, February 18, 2025
ysbrydoliaeth
Dyma'n Ysgrifennydd Amddiffyn newydd ni, Pete Hegseth. Mae o'n cyflawni ei swydd yn egnïol bob dydd, ac yn hyfforddi gyda'r milwyr hefyd. Mae'n sicr mai o ydy yn un o'r rhesymau bod nifer uchaf erioed o bobl ifanc yn cofrestru i ymuno â'r lluoedd arfog ers mis Rhagfyr.
Monday, February 17, 2025
cwestiwn ac ateb
"am ba hyd, Arglwydd, y gwaeddaf am gymorth, a thithau heb wrando, ac y llefaf arnat, 'trais!' a thithau heb waredu?" Habacuc 1:2
"oherwydd fe ddaw eto weledigaeth yn ei hamser - daw ar frys i'w chyflawni, a heb ball. Yn wir nid oeda; disgwyl amdani, oherwydd yn sicr fe ddaw, a heb fethu." Habacuc 1:3
"oherwydd nid fy meddyliau i yw eich meddyliau chwi, ac nid eich ffyrdd chwi yw fy ffyrdd i,” medd yr Arglwydd. “Fel y mae'r nefoedd yn uwch na'r ddaear, y mae fy ffyrdd i yn uwch na'ch ffyrdd chwi, a'm meddyliau i na'ch meddyliau chwi." Eseia 55:8,9
Saturday, February 15, 2025
ruby
Mae fy merch hynaf yn gofalu am gi arall. Greyhound ydy hi o'r enw Ruby. Wedi pasio anterth ei gyrfa fel ci rasio yn Awstralia, byddai hi wedi cael ei lladd (fel Levi) oni bai am y bobl sydd yn helpu'r cŵn tebyg. Clywais nad oes digon o sefydliadau sydd yn achub hen gŵn rasio yn Awstralia, ac felly cafodd ei gyrru i Oklahoma City dros y môr. Truan o Ruby. Mae hi'n caru fy merch a byth yn gadael ei hochor hi. Gobeithio y bydd hi'n ffeindio cartref cariadus.
Thursday, February 13, 2025
hoff feddyg
Wednesday, February 12, 2025
art of the deal
Tuesday, February 11, 2025
gwastraff
Mae Elon Musk a'i dîm o bobl gyda chyflwr awtistiaeth yn cyflawni gwaith ardderchog tu hwnt yn darganfod gwastraff yn y llywodraeth. Anghredadwy ydy rhestr wastraff USAID er mai ond rhan fach o'r holl wastraff mae o. Nid dim ond twp, ond bygythiad diogelwch cenedlaethol ydy'r asiantaeth. Rhoddwyd bron i 20 biliwn o ddoleri i'r gwladwriaethau terfysgol yn y byd yn y pum mlynedd diweddaf!
Monday, February 10, 2025
addewid
"ac yna bod fy mhobl, a elwir wrth fy enw, yn ymostwng ac yn gweddïo, yn fy ngheisio ac yn dychwelyd o'u ffyrdd drygionus, yna fe wrandawaf o'r nef, a maddau eu pechod ac adfer eu gwlad." 2 Cronicl 7:14
Mae'r adewid hwn yn dal heddiw. Gadewch i ni felly, ymostwng o flaen Duw trugarog yn cyffesu ac edifarhau'n pechodau ni, a dychweled ato fo.
Friday, February 7, 2025
anrheg
Derbynnedd yr Arlywydd Trump anrheg hynod o ddoniol gan y Prif Weinidog o Israel. Dyma hi - galwr euraid. Gwenodd a dweud mai strategaeth wych ydoedd. Wir, strategaeth greadigol a feiddgar, cynllwyniwyd a gweithredwyd yn fedrus tu hwnt.
Thursday, February 6, 2025
gydag Iesu
Aeth hen ddynes annwyl dw i a'r gŵr yn adnabod at Arglwydd Iesu ddyddiau'n ôl. Fu farw yn ei chwsg gyda'i merch wrth ei hochr mewn cartref henoed. Roedd hi'n awyddus i fynd ato fo dros flynyddoedd. A rŵan, o'r diwedd, wedi gadael ei hen gorf mae hi'n cael gweld wyneb Iesu a byw gyda fo am byth ynghyd â diri o'r ffyddloniaid.
Wednesday, February 5, 2025
croeso mawr
Croeso mawr i'r Prif Weinidog Netanyahu. Braf gweld y ddau arweinydd yn cyfarfod yn swyddogol eto i drafod y pynciau pwysig, a chadarnhau cefnogaeth gadarn tuag at i gilydd. Dw i'n hapus cadw'r llun a ges i yn ystod tymor cyntaf yr Arlywydd Trump. (Dydyn nhw ddim wedi newid llawer!)
Thursday, January 30, 2025
babi newydd sbon
Cafodd chwaer wraig fy mab hynaf fabi neithiwr. Malachi ydy ei enw. Mae o'n edrych yn fabi iach a hapus. Y peth rhyfeddol ydy iddo gael ei eni ar yr un diwrnod â fy wyres yn Japan sydd weddi troi'n flwydd oed. Rhyw gefndryd ydyn nhw mae'n rhaid.
Wednesday, January 29, 2025
levi
Mae fy merch hynaf yn gofalu am gi arall am gyfnod. Enwodd hi o yn Levi. Roed rhaid iddo gael llawdriniaeth, profion gwaed a sawl phigiad ar yn un pryd er mwyn gael ei fabwysiadu. Rhaid ei fod o'n brifo oherwydd ei fod o'n ceisio llyfu'r clwyf, druan ohono fo. Mae o'n caru fy merch yn fawr iawn, ac eisiau bod yn agos ati drwy'r amser. Mae hi'n cael ei chysuro yn ei thro ganddo. Mae hi'n dal i golli ei chi a fuodd farw ddwy flynedd yn ô; mae Levi'n ei hatgoffa hi ohono fo.
Tuesday, January 28, 2025
adnod addas
A dweud y gwir, mae'r cyfieithiad Saesneg yn mynegi'r ystyr yn llawer gwell:
"A wise king winnows out the wicked; he drives the threshing wheel over them."
Monday, January 27, 2025
brenin cyrus
Saturday, January 25, 2025
tra gellir ei gael
Amyneddgar ydy'n Duw ni; mae o'n aros am y person olaf a ddewisodd i ddod ato fo. Na fydd o'n aros am byth, fodd bynnag. Beth ddylen ni ei wneud felly? Yr ateb:
"Ceisiwch yr Arglwydd tra gellir ei gael, galwch arno tra bydd yn agos. Gadawed y drygionus ei ffordd, a'r un ofer ei fwriadau, a dychwelyd at yr Arglwydd, iddo drugarhau wrtho, ac at ein Duw ni, oherwydd fe faddau'n helaeth." Eseia 55:6-8
Thursday, January 23, 2025
gwellhau'n cyffyrddadwy
ond pan fydd y drygionus yn rheoli, bydd y bobl yn griddfan." Diarhebion 29:2
Fedrai ddim atal meddwl am yr adnod hon bob dydd yn ddiweddar. Bob tro gwelaf newyddion (dilys, dim ffug,) bydd erthyglau am sut mae'r Arlywydd Trump yn cyflawni'i addewidion ymgyrch, un ar ôl y llall. Mae polisïau hyfryd yn cael eu gweithredu'n anhygoel o gyflym, ac America'n gwellhau'n gyffyrddadwy.
Wednesday, January 22, 2025
gweddi
"Boed i'n calonnau ni droi at dy lais di. Na all America byth fod yn rhagorol eto os ydyn ni'n troi ein cefnau arnoch chi. Gofynnwn am dy gymorth," galwodd Franklin Graham ar Arglwydd Dduw. Amen!
Tuesday, January 21, 2025
awyr adfywiol
Monday, January 20, 2025
cyfnod newydd
Saturday, January 18, 2025
digon o bobl/bethau hurt
Thursday, January 16, 2025
distawrwydd Duw
Dydy distawrwydd Duw ddim yn golygu ei fod o'n cymeradwyo pechodau. Yn aml mae'n adlewyrchu ei amynedd, ac mae o eisiau i bobl edifarhau yn hytrach na iddo eu condemnio nhw ar unwaith.
"Nid yw'r Arglwydd yn oedi cyflawni ei addewid, fel y bydd rhai pobl yn deall oedi; bod yn amyneddgar wrthych y mae, am nad yw'n ewyllysio i neb gael ei ddinistrio, ond i bawb ddod i edifeirwch." 2 Pedr 3:9
Wednesday, January 15, 2025
rhinweddau exodus 18:21
Wrth i'r Senedd ddechrau'r gwrandawiad, gadewch i ni weddïo y bydd yr aelodau'n cadarnhau, gyda dirnadaeth a dewrder, yr arweinwyr wedi eu penodi. Rhaid i arweinwyr arddangos rhinweddau Exodus 18:21:
"Ethol o blith yr holl bobl wŷr galluog a gonest, sy'n parchu Duw ac yn casáu llwgrwobrwyo, a'u penodi dros y bobl yn swyddogion ar unedau o fil, o gant, o hanner cant ac o ddeg."
Tuesday, January 14, 2025
newydd gychwyn
Fel Cristnogion, doedd ein cyfrifoldeb ni ddim yn dod i ben gydag etholiad 2024. Dylen ni ddim ei drosglwyddo i'r llywodraeth. Mae'r gwaith a ymddiriedwyd gan Dduw i ni newydd gychwyn. - Decision Magazine
Cytuno'n llwyr.
Monday, January 13, 2025
heddwch go iawn
"Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd; yr wyf yn rhoi i chwi fy nhangnefedd i fy hun. Nid fel y mae'r byd yn rhoi yr wyf fi'n rhoi i chwi." Ioan 14:27
Saturday, January 11, 2025
heulwen!
Wedi eira anarferol o drwm, dan ni'n cael heulwen ac awyr las heddiw. Mae'r eira'n disgleirio'n llachar fel gemwaith; mae popeth yn edrych yn siriol. Diolch i ti, yr Arglwydd am yr heulwen.
Friday, January 10, 2025
eira!
Deffrais ym myd gwyn y bore 'ma. Na chawson ni gymaint o eira ers blynyddoedd yn yr ardal hon. Fe wnes i siopa'n barod ac mae gynnon ni ddigon o fwyd am sbel. Mae'r tŷ yn gynnes gyda'r stôf llosgi coed. Dw i'n ddiolchgar i bawb sydd yn gwneud y gwaith cynnal a chadw ar y llinellau trydan, ar y strydoedd, a mwy.
Thursday, January 9, 2025
tŷ cynnes
Mae tywydd Arctig ar ran helaeth yr Unol Daleithiau. Dan ni'n disgwyl eira y prinhawn 'ma yn fy ardal hefyd. Mae'r tŷ yn gynnes braf, fodd bynnag, diolch i'r stôf llosgi coed. Cyneuodd y gŵr dân cyn gynted ag y daeth yn ôl o Japan ddyddiau'n ôl. Dw i'n ddiolchgar yn arw i Mr. Begley a drwsiodd y gwres canolog tra bod y gŵr oddi cartref.
Sunday, January 5, 2025
tŷ cynnes
Wedi cyfnod o dywydd mwyn, mae'r gaeaf wedi dychwelyd gyda gwynt ac eirlaw. Dw i mor ddiolchgar bod yr angel, sef Mr. Begley wedi dod i drwsio'r gwres canolog ddeuddydd yn ôl. Er fy mod i'n gosod y tymheredd llawer is na'r rhan fwyaf o'r Americanwyr, mae'n ymddangos yn foethus cynhesu'r tŷ cyfan, a does dim rhaid i mi ddioddef oerfel lle bynnag bydda i yn y tŷ.
Saturday, January 4, 2025
angel i'r adwy
Torrodd y gwres canolog (yr unig ffordd i gynhesu'r tŷ ar hyn o bryd.) Wedi cael cip, dwedodd y dyn trwsio fod o'n gorfod archebu darnau. Roedd dyma ddibynnu ar reiddiadur bach am wythnos, ac aros yn yr ystafell wely'r rhan fwyaf o'r amser. Roeddwn i'n gobeithio'r dyn yn dod yn fuan oherwydd byddai'r tymheredd i fod i ddisgyn at 13F/-10C nos Sul. Daeth o ddoe o'r diwedd (roedd o'n edrych fel angel) a thrwsio popeth. Hwrê! Roeddwn i eisiau crio o lawenydd!
Friday, January 3, 2025
myfi yw
Fy llaw a sylfaenodd y ddaear,
a'm deheulaw a daenodd y nefoedd;
pan alwaf arnynt, ufuddhânt ar unwaith.”
"Fel hyn y dywed yr Arglwydd, dy Waredydd, Sanct Israel:
Myfi yw'r Arglwydd dy Dduw,
sy'n dy ddysgu er dy les,
ac yn dy arwain yn y ffordd y dylit ei cherdded."
Eseia 48:13, 17
Thursday, January 2, 2025
blwyddyn neidr
Dw i newydd bostio llythyr cyntaf y flwyddyn hon i fy mam yn Japan. Mae hi'n byw mewn cartref henoed. Er ei bod hi'n holl iach yn ei chorf, mae ei chof yn gwaethygu’n sylweddol yn ddiweddar. Dim yn rhy ddrwg i berson 102 oed fodd bynnag. Dw i'n dal i sgrifennu ati hi bob mis er bod hi'n methu sgrifennu yn ôl ata i bellach. Ychwanegais ddarlun o neidr gyda chyfarchion yn Japaneg oherwydd mai Blwyddyn Neidr ydy hi eleni.
Wednesday, January 1, 2025
gair duw
"Nid oes Duw ond myfi, Duw cyfiawn, a gwaredydd.
Nid oes neb ond myfi. Chwi, holl gyrrau'r ddaear, edrychwch ataf i'ch gwaredu, canys myfi wyf Dduw, ac nid oes arall."