Ces i a'r gŵr ginio Diwrnod Diolchgarwch ar ein pennau hunain heb y plant am y tro cyntaf. (Mae'r pedair yn byw tramor, ac aeth y mab ifancaf at dŷ ei frawd yn Texas.) O ganlyniad, dyma goginio cinio Diwrnod Diolchgarwch hawsaf gan brynu tafellau o frest twrci parod (gyda grefi.) Dim ond rostio llysiau, a pharatoi tatws stwns o flwch wnes i. A phastai cnau bach parod i'r gŵr a gwydraid o win i mi. Roedd yn ginio hynod o braf.
No comments:
Post a Comment