
Dim fi sy'n mwynhau'r heulwen ond 'ngwr. Mae o'n mynychu cynhadledd optometreg yn Anaheim ar hyn o bryd. Yn ymyl Disney Land mae ei westy, ond sgyno fo ddim amser cyfarfod efo Mickey na Minnie. Roedd o mewn pwyllgor a darlithoedd am saith awr heddiw. Aeth i redeg yn y dre ddiwedd y diwrnod hir, a chael mwynhau'r heulwen o leia. (Roedd hi'n bwrw'n drwm yma!) Mi wnaeth o dynnu'r llun ma efo ei 'iPhone' newydd.
2 comments:
Mae hynny yn edrych da iawn am nawr, Emma - mae hi'n stormus iawn iawn yma yn Abertawe. Dw i ddim wedi bod cynnes trwy'r dydd. :O(
W...dwi'n hoffi golwg y coed palmwydd 'na :)
Post a Comment