Bore Sadwrn. Bydda i'n codi am saith bob bore boed dydd Sadwrn neu beidio. Ond heddiw dw i'n methu codi. Mae hi mor gynnes a chlyd yn y gwely tra bydd awyr yr ystafell yn oeraidd. Mae hi'n olau'r tu allan y llenni. Mae'r gwr oddi cartre o hyd. Mae un o'r plant yn rhedeg at yr ystafell ymolchi. Mae'n braf yn y gwely.
Chwarter i naw. Ddoith mudwyr dodrefn ddim na gwr efo hambwrdd brecwast at y gwely. Ond waeth i mi godi ddim.
2 comments:
Does 'na ddim byd gwell na aros mewn gwely ar fore oer ! Ges ti fy e-bost efo lluniau?
Do, diolch.
Post a Comment