Monday, October 6, 2008

llechi cymreig


Bydd rhaid i ni gael toi'n rhannol cyn bo hir. Dim ond atgywerio dros dro wnaeth Kurt yn ddiweddar. Er bydd hi'n costio'n ddrud, fydd toeau newydd neu tai newydd ddim yn para'n hir y dyddiau hyn fel popeth arall. Basai'n dda gen i lechi Cymreig ar ein to.

3 comments:

Linda said...

Ninnau hefyd ! Fe gafodd pawb ar ein cul de sac ni [ 5 tŷ ] do newydd llynedd. Tua 35 mlynedd ydi oes y to newydd , ond mae'r teils yn well, gan mai dim ond 10 mlynedd oedd oes yr hen rai!

Corndolly said...

Dw i'n deall yn union beth wyt ti'n meddwl am do llechi. Fel wyt ti'n gwybod, dyn ni'n byw mewn hen fwthyn efo to llechi, ac mae o wedi para dros y blynyddoedd. Pan adeiladon ni estyniad deng mlynedd yn ôl, roedd rhaid i ni ddefnyddio hen lechi ar do newydd y estyniad, a rôn i falch iawn a wnaethon ni.

Emma Reese said...

Llechi Cymreig ydyn nhw? Wyt ti'n gwybod o le maen nhw'n dwad?