Thursday, July 23, 2009
mynd i gymru
Mae'r gwr a'r ferch wedi dod yn ôl o Japan yn ddianaf, ac rwan dw i wrthi'n pacio a rhoi trefn ar y ty i fynd i Gymru. Gadawa i brynhawn yfory a dod adref Awst 10. Bydda i yn Llanberis am ddeg noson ac yna yn y Bala am bum noson. Ceisia i dynnu cymaint o luniau ag y medra i a chadw dyddiadur. Dw i'n addo rhoi adroddiad manwl ar fy mlog ar ôl dod yn nôl. Hwyl am y tro felly!
Sunday, July 19, 2009
gwyl hufen iâ
Thursday, July 16, 2009
cyw iâr
Sunday, July 12, 2009
yn ôl i tokyo
Saturday, July 11, 2009
you don't speak welsh

Prynes i'r llyfr bach hwn gan Sandi Thomas flynyddoedd yn ôl. Dw i wedi ei ddarllen mwy nag unwaith, a chael fy ysbrydoli i ddal ati bob tro. Ces i fy atgoffa i amdano ddoe ac dyma ddechrau ei ddarllen eto. Dw i newydd orffen.
Mor falch dw i mod i wedi ei ddarllen dydddiau cyn mynd i Gymru. Mae Sandi wedi geirio'n union beth sy wedi bod yn cronni yn fy nghalon ers i mi ddechrau dysgu'r iaith mor hardd ac mor 'compelling' ma (sori nad oes gen i syniad beth mae dweud hwn yn Gymraeg.)
Roedd hi'n ysu am fyw yng Nghymru. Gobeithio bod ei breuddwyddion wedi cael ei wireddu bellach.
Wednesday, July 8, 2009
chi'n bwyta be?!!

Mae un o'r merched yn teithio yn Peru ar hyn o bryd. Mae hi'n cael amser gwych yn gweld rhyfeddodau yna a chael ymarfer ei Sbaeneg. Ond beth mae'r bobl leol yn hoffi ei fwyta yno ond...
Moch cwta!!
Maen nhw'n cael eu gweld ym mhob man, mewn tai bwyta a mewn stondinau bwyd ar ochr yr heolydd. Mae fy merch yn gorfod wynebu bwydlenni efo lluniau disgrifiadol bob dydd!
Tuesday, July 7, 2009
hardy boys


Dechreuodd y ddau blentyn iau ddarllen Hardy Boys. Ac dyna ni. Dim ateb pan alwa i nhw. Dal i afael yn un o'r llyfrau tra byddan nhw'n bwyta. Mae'r hogyn fenga wedi bod yn darllen ddau lyfr y dydd. Mae'r ddau blentyn hyn wedi darllen y gyfres i gyd hefyd flynyddoedd yn ôl. Rhywbeth braf i'w wneud yn ystod gwyliau'r haf.
Saturday, July 4, 2009
penblwydd hapus i america!

Er gwaethaf popeth, dw i mor falch mod i'n cael byw yn Unol Daleithiau America.
A chroeso cynnes i Mr. Bush i Oklahoma heddiw!
Ces i fy atgoffa i'r ffaith mod i'n byw yn nhalaith dda i mi wedi'r cwbl er gwaethaf prinder cyfleoedd siarad Cymraeg.
Wednesday, July 1, 2009
esgidiau pob tywydd

Roeddwn i wedi bod yn chwilio am esgidiau at fy naith i Gymru wedi cael cymaint o drafferthion gyda fy mhar ddwy flynedd yn ôl. (Caethon nhw eu glychu'n llwyr yn ystod yr haf gwlypaf, a fy rhwystro i rhag mynd i Sain Ffagan!) O'r diwedd ces i hyd i bar delfrydol, gobeithio, sef Esgidiau Pob Tywydd gan Lands' End. Maen nhw'n honni bod yr esgidau i fod i wrthsefyll pob tywydd - glaw, eira a haul. Maen nhw newydd gyrraedd ac yn ddigon cyffyrddus. Wel, gawn ni weld fasen nhw'n gweithio yng ngogledd Cymru.
Subscribe to:
Posts (Atom)