Es i a'r plant i weld y perfformiad blynyddol gan y myfyrwyr o Japan. Mae'r nifer sy'n dod i'r brifysgol yma wedi crebachu'n sylweddol yn ddiweddar. O ganlyniad i hynny, mae eu perfformiad wedi colli eu mawredd gwaetha'r modd er bod nhw wedi bod wrthi'n ymarfer yn galed. Fodd bynnag roedd yn dda clywed cân neu ddwy a wnaeth fy atgoffa i o fy mhlentyndod. Roedd un o'r merched yn chwarae offeryn gwerin o Okinawa sy'n debyg i fanjo.
Peth gorau'r pnawn i mi oedd gweld Patrice ymysg y gynulleidfa ers amser. Buodd hi yn yr Alban am adeg i astudio mewn prifysgol yno. Prin fy mod i'n gweld neb yma sy'n gwybod am Gymru.
No comments:
Post a Comment