Monday, October 4, 2010

tymor pêl-droed




Roedd yn ddiwrnod arbennig o braf ddoe, diwrnod perffaith i gêm pêl-droed. (Hoffwn i fod wedi ei yrru i Gasnewydd.) Brysiais i ynghyd â'r gŵr a'r mab ifancaf i'r cae gyda'n pecynnau cinio ar ôl yr oedfa i weld gêm gartref y brifysgol leol. Collon ni weld ein gôl sgoriwyd mewn pum munud o'r dechrau gwaetha'r modd. Ond roedd pawb yn chwarae'n dda, yn enwedig ein gôl-geidwad arbedodd ddau ergyd garw. Fe oedd M.V.P. y gêm byddwn i'n dweud. Enillon ni o 1 - 0.


1 comment:

Sarah Stevenson said...

Llongyfarchiadau i chi! :) Mae hi'n dymor pel-droed drwy'r amser yma--mae'r gwr yn hoff iawn o wylio pel-droed ar y teledu. Wrth gwrs, mae ein tim lleol ni, y San Jose Earthquakes, yn chwarae'n dda eleni!

Sut wyt ti ers lawer dydd?