Thursday, July 11, 2013
fenis 35 - cwmni
Pan glywodd fy ffrind o Bresia sydd yn dysgu Japaneg fy mod i yn Fenis, daeth i fy ngweld fore Sadwrn. Er bod ni'n helpu'n gilydd ar y we weithiau, roedd dyna'r tro cyntaf i ni gyfarfod. Wedi cyfarch ein gilydd ar orsaf trên Santa Lucia, aethon ni i Da Silvio am ginio lle ces i spaghetti vongole a Bellini. (Blasus iawn!) Yna, cerddon ni o gwmpas y dref yn hamddenol wrth edmygu'r golygfeydd - la Salute, Campo San Barnaba, ardal Cannaregio. Mwynheais i grwydro Fenis ar ben fy hun am bythefnos, ond roedd yn braf cerdded efo cwmni'n trafod y rhyfeddodau sydd yn llenwi'r dref. Wrth gwrs bod ni'n cael ymarfer yr ieithoedd dan ni'n eu dysgu hefyd. Roedd yn ddiwrnod hynod o bleserus.
Llun: pen tŵr Eglwys Madonna dell'Orto yn Cannaregio a gelwyd yn Panettone gan Commissario Brunetti
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment