Mae'n wythnos ers i Lywodraeth America atal ei swyddogaeth yn sgil yr anghytundeb diweddaraf. Mae popeth yn gweithio'n braf fel arfer hyd yma tra mae'r llywodraeth yn ceisio'n galed i osod "maen tramgwydd" ar ffordd y bobl gyffredin:
1. Cynigodd Talaith Arizona i'r Llywodraeth fydden nhw'n rhedeg Parc Cenedlaethol Grand Canyon a thalu am bopeth. Gwrthododd y Llywodraeth a mynnu dalai'r parc ddal ar gau.
2. Caeodd y Llywodraeth gwefannau cenedlaethol er costiodd mwy i'w cau na gadael iddyn nhw weithio.
3. Adeiladodd y Llywodraeth ffens newydd o gwmpas man golygfaol ar dir cenedlaethol yn Wyoming i atal y bobl rhag gweld yr olygfa odidog.
Dim ond blaen y mynydd rhew ydy'r rhain. Yn fy marn i (a barnau llawer o bobl eraill) mae'r Llywodraeth yn pwdu ac eisiau dangos i'r bobl bod hi'n anhapus oherwydd nad oedd hi'n medru cael beth mae hi ei heisiau.
Mae cwrs golff ar gyfer Arlywydd America ar agor.
No comments:
Post a Comment