athro'r flwyddyn oklahoma
Llongyfarchiadau mawr i Coach Proctor am ennill Athro'r Flwyddyn Oklahoma! Cafodd ei ddewis ymysg y 12 sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol. Athro ymroddedig a ffyddlon sydd ym mharch mawr pawb yn yr ysgol ydy o. Mae o'n haeddu pob canmol. Roedd fy mhedwar plentyn yn dysgu mathemateg yn ei ddosbarth a chafodd fy mab hynaf ei hyfforddi yn y clwb cross country ganddo fo; mae fy mab ifancaf wrth ei fodd yn rhedeg efo fo ynghyd â'r tîm bob dydd. Mae yna gyffro mawr yn y dref drosto fo. Hwrê i Coach Proctor!
No comments:
Post a Comment