Mae pawb yn ei hedmygu ac eisiau mynd ati hi, ac eto mae gynifer o'r bobl yn ei sarhau hi a'i sathru dan draed. Yn sicr, mae hi'n dibynnu ar bobl am fywoliaeth ond mae hi'n haeddu tipyn mwy o barch. Brenhines y môr oedd hi am ganrifoedd wedi'r cwbl.
Cynhaliwyd protest gan grŵp o drigolion Fenis heddiw - protest erbyn dirywiad difrifol y dref yn ddiweddar a achoswyd gan y twristiaid difeddwl a'r gwerthwyr anghyfreithlon. Eu tref nhw hefyd ydy Fenis wedi'r cwbl.
No comments:
Post a Comment