Saturday, September 30, 2017
sefyll yn barchus
Ymysg y stŵr hurt yn y byd pêl-droed Americanaidd diweddaraf, mae College of the Ozarks (mae fy nau blentyn yn astudio yno) newydd gyhoeddi byddai timau'r brifysgol yn sefyll yn barchus tra'r anthem yn cael ei ganu, a bydden nhw'n chwarae ond y rhai sydd yn gwneud yr un peth; os fel arall, bydden yn mynd adref heb chwarae'r gêm. Hwre da iawn Ozarks!
Friday, September 29, 2017
diwrnod cymod
Mae Yom Kippur, diwrnod mwyaf sanctaidd Iddewiaeth, arnon ni. Cofir bod Duw wedi darparu modd i faddau pechodau’r Israeliaid am gyfnod yn ôl Lefiticus 16. Symbol oedd o fodd bynnag; roedd Duw'n cyfeirio at rywbeth llawer mwy a fyddai'n dod, sef Iesu Grist fel yr aberth berffaith dros ein pechod ni, unwaith ac am byth. Fel dilynwr Iesu, bydda i'n parchu Yom Kippur drwy ddiolch iddo am ei faddeuant a gyflawnwyd ar y groes.
Thursday, September 28, 2017
fenter y merched
Wedi darllen erthygl Cymru Fyw am fenter y merched, gyrrais ddymuniadau gorau at Sara Lewis o Fachynlleth sydd yn rhedeg y Botwm Bach. Ces i ddiolch cynnes yn ôl ganddi. Gwych bod hi wedi gwneud mor dda er gwaethaf ei afiechyd.
Wednesday, September 27, 2017
falafel!

Tuesday, September 26, 2017
modrwy arbennig

Monday, September 25, 2017
seren dwbl

Saturday, September 23, 2017
siomi ar yr ochr orau


Friday, September 22, 2017
penblwydd y gŵr

Thursday, September 21, 2017
ffilm iesu yn gymraeg
Des i ar draws Ffilm Iesu yn Gymraeg. Doeddwn i ddim gwybod bod y ffilm a gynhyrchwyd yn 1979 wedi ei gyfieithu mewn 1,500 o ieithoedd, a dal i gael ei ddangos dros y byd! Wrth gwrs bod yna fersiynau Japaneg, Eidaleg, Ffrangeg a Hebraeg. Ces i fy synnu'n gwybod bod o wedi cael ei ffilmio yn Israel efo nifer o actorion lleol. Ar wahân i wallt brown Iesu, mae'r ffilm yn wych ar y cyfan, llawer gwell na'r lleill tebyg.
Wednesday, September 20, 2017
gŵyl yr utgyrn

Tuesday, September 19, 2017
croeso cynnes
Monday, September 18, 2017
breichledau

Saturday, September 16, 2017
pa loches?
Chwythodd y seiren yn sydyn, ond doedd y bobl ddim yn gwybod beth i'w wneud. Dim rhyfedd; mae'r Japaneaid heb brofiad o'r fath ers yr Ail Ryfel Byd er bod nhw'n hen gyfarwydd â daeargrynfeydd. Does dim modd diplomyddol i annog Gogledd Corea i stopio profion niwclear, neu lansio taflegryn, ac felly rhaid i'r bobl ddysgu sut i amddiffyn eu hunan, meddai'r llywodraeth. Beth ddylen nhw wneud os bydd Gogledd Corea'n penderfynu anelu eu taflegryn at Japan yn hytrach na'r môr?
Friday, September 15, 2017
gwella'n braf

Thursday, September 14, 2017
mark wiens
Mark Wiens ydy fy ffefryn newydd ar You Tube. Americanwr o wraidd Gwlad Thai ydy o, ac mae o'n hynod o glên a llawn o egni yn cyflwyno bwyd amrywiol mewn gwledydd amrywiol dros y byd. Wrth wylio ei fideo, dw i'n teimlo fel pe byddwn i'n wir gerdded ar y lonydd lleol a blasu'r bwyd lleol. Hwn ydy fy hoff glip yn Jerwsalem. Mae ganddo sawl fideo ar Japan hefyd. Sioc - mae o'n bwyta cymaint ond yn denau iawn!
Wednesday, September 13, 2017
arfer newydd arall
Yn hytrach na choginio swper drosta i a'r gŵr bob dydd, penderfynais goginio'r un maint a oeddwn i'n arfer gwneud, a bwyta'r hanner y diwrnod wedyn. Rhaid i mi goginio ond bob yn ail ddiwrnod; braf iawn! Yr arfer newydd arall ydy gwin; dan ni'n yfed hanner gwydr o win coch wedi'i gymysgu efo sudd grawnwin bob yn ail ddiwrnod. Enwais y diwrnod yn Ddiwrnod Gwin. Braf iawn hefyd!
Tuesday, September 12, 2017
penblwydd arall

Monday, September 11, 2017
16 mlynedd ers 9/11
Saturday, September 9, 2017
mae amser i bob dim

Friday, September 8, 2017
potel anghywir

Thursday, September 7, 2017
beibl newydd
Prynais Feibl newydd. TLV - Tree of Life Version ydy hwn. Cyfieithwyd gan dîm o Iddewon a chenedl-ddynion sy'n credu yn Iesu, mae'r fersiwn yma'n "siarad" gyda llais pro-Iddewon. Dim dechrau crefydd newydd oedd marwolaeth ac atgyfodiad Iesu, ond cyflawniad cyfamod Duw a wnaeth gyda'i phobl wedi'r cwbl. Does gan y rhan fwyaf o'r cyfieithiadau mo'r natur Iddewig fel bod yr ysgrifen a ysgrifennwyd at yr Iddewon ac am yr Iddewon, yn ddiffygiol o'r elfen bwysig honno, sef craidd Iddewig. Mae'r drefn Iddewig gan yr Hen Destament hwn, a defnyddir enwau Hebraeg (Yeshua, Adonai ayyb.) Mae yna fwy wrth gwrs, a dw i'n edrych ymlaen at ei ddarganfod.
Wednesday, September 6, 2017
croeso yn ôl

Tuesday, September 5, 2017
synnwyr cyffredin
Wrth i'r Arlywydd Trump ystyried rhoi terfyn ar DACA, postiodd y gŵr ar Face Book ei farn ar fewnfudo:
Croeso i bawb sy'n ymrwymo ei hun i -
1) Garu ein gwlad a'n diwylliant
2) Ddysgu ein hiaith
3) Gyfrannu at ein cymdeithas
4 ) Dderbyn caniatâd i ddod
Os nad ydach chi'n barod i wneud hyn i gyd, mae'n debyg nad ydy America yn lle addas i chi. Roeddwn i'n byw yn Japan am flynyddoedd fel mewnfudwr, ac wrth gwrs fy mod i wedi gwneud hyn i gyd. Synnwyr cyffredin ydyn nhw.
Cytunodd nifer o ffrindiau. A finnau!
Croeso i bawb sy'n ymrwymo ei hun i -
1) Garu ein gwlad a'n diwylliant
2) Ddysgu ein hiaith
3) Gyfrannu at ein cymdeithas
4 ) Dderbyn caniatâd i ddod
Os nad ydach chi'n barod i wneud hyn i gyd, mae'n debyg nad ydy America yn lle addas i chi. Roeddwn i'n byw yn Japan am flynyddoedd fel mewnfudwr, ac wrth gwrs fy mod i wedi gwneud hyn i gyd. Synnwyr cyffredin ydyn nhw.
Cytunodd nifer o ffrindiau. A finnau!
Monday, September 4, 2017
garlleg amrwd mewn mêl

Saturday, September 2, 2017
yn enw iesu
Wrth ddweud mai ein lloches a nerth ydy Duw, cyhoeddodd yr Arlywydd Trump y trydydd Medi yn Ddiwrnod Gweddi Cenedlaethol er mwyn gweddïo dros y dioddefwyr yn Nhalaith Texas. Diolchodd y gweinidogion ac offeiriad iddo am roi Duw yn ôl yn y llywodraeth. Yna gweddïodd un ohonyn nhw dros y dioddefwyr a'r achubwyr yn ogystal â'r holl bobl America. Gweddïodd yn enw Iesu a groeshoeliwyd er mwyn maddau i ni! Na chawson ni ddisgwyl clywed gweddi felly yn y Tŷ Gwyn yn y gorffennol.
Friday, September 1, 2017
ateb
Ysgrifennais e-bost i Gajoen ddoe er mwyn rhoi gwybod iddyn nhw am fy mam a oedd yn gweithio yno dri chwarter canrif yn ôl. Wedi darllen erthygl gan fy merch amdanyn nhw, dechreuais feddwl dylen nhw gael eu gwybod am yr hanes byw. Bydd yn golled fawr iddyn nhw os na chaen nhw, a bydd fy mam wrth ei bodd yn siarad â nhw. Ces i ateb ganddyn nhw'n syth; mae ganddyn nhw ddiddordeb mawr ynddi ac eisiau siarad â hi! Galwa' i hi heno i rybuddio hi.
Subscribe to:
Posts (Atom)