Friday, September 8, 2017

potel anghywir

Mae fy drydedd ferch newydd symud tŷ yn Japan. Er bod y teulu roedd hi'n byw efo nhw'n glên iawn, roedd hi eisiau mwy o breifatrwydd. Y peth cyntaf roedd rhaid gwneud oedd golchi ei dillad, a dyma hi'n mynd i'r siop am hylif angenrheidiol. Dydy ei Japaneg ysgrifenedig ddim cystal â'i iaith lafar, a phrynodd botel roedd yn edrych fel meddalydd. Roedd yn syniad da iddi googlo cyn defnyddio'r hylif oherwydd cannydd oedd o! Mae ei llety'n agos iawn i'w chwaer hŷn bellach fel byddan nhw'n cael gweld ei gilydd yn hawdd.

No comments: