Tuesday, April 21, 2026

addewid

"Yn y byd fe gewch orthrymder," meddai Iesu.

Wir, mae'n amhosib osgoi gorthrymder yn y byd, ond does dim rhaid colli eich calonnau os ydych chi'n credu yn Iesu, oherwydd ei fod o wedi addo:

"ond codwch eich calon, yr wyf fi wedi gorchfygu'r byd."
"Yr wyf fi gyda chwi yn wastad hyd ddiwedd amser.”

Hefyd:

"Paid ag ofni, yr wyf fi gyda thi;
paid â dychryn, myfi yw dy Dduw.
Cryfhaf di a'th nerthu,
cynhaliaf di â llaw dde orchfygol."


Monday, April 20, 2026

dychweliad at Air Duw

Cynhelir America Reads the Bible ar hyn o bryd. Mae nifer o arweinwyr, gan gynnwys yr Arlywydd Trump, yn darllen yn uchel adnodau'r Beibl (o Genesis i Ddatguddiad) yn gyson drwy'r dydd am wythnos. Yr amcan ydy annog dinasyddion America i weddïo, pleidleisio ac ymgysylltu er lles ein cenedl ni. Bydd adnewyddiad parhaol yn dechrau ond drwy ddychweliad at Air Duw.

"Gwyn ei byd y genedl y mae'r Arglwydd yn Dduw iddi." - Beibl

Friday, April 17, 2026

paid ag arswydo

"Paid ag arswydo na dychryn, oherwydd yr wyf fi, yr Arglwydd dy Dduw, gyda thi ple bynnag yr ei," meddai'r Arglwydd wrth Johsua. 

Mae ei eiriau hyn yn rhoi nerth i mi pan oes ofn arna i oherwydd mai â ni hefyd mae o'n siarad.

Wednesday, April 15, 2026

un sydd yn cadw yfory


Dw i ddim yn gwybod beth fydd yn digwydd yfory. 
Dw i ond yn byw o ddydd i ddydd.
Dw i ddim yn pryderu am yfory oherwydd fy mod i'n gwybod beth ddwedodd Iesu.
Dw i ddim yn deall llawer o bethau,
ond dw i'n gwybod pwy sydd yn cadw yfory, a phwy sydd yn cadw fy llaw.

Tuesday, April 14, 2026

gobaith cadarn

Fu farw mam gŵr fy merch hynaf neithiwr o ganser. Er bod yn drist i'r teulu ffarwelio â hi (am y tro) wrth gwrs, maen nhw'n cael eu cysuro gan wybod ei bod hi gydag Iesu bellach, wedi cael ei rhyddhau o ddioddefaint corfforol. Dyma'n gobaith cadarn ni sydd yn credu yn Iesu a'i addewidion sicr.

Monday, April 13, 2026

tra pery'r ddaear

Mae ein iris ni newydd flodeuo.

“Tra pery'r ddaear,
ni pheidia pryd hau a medi, oerni a gwres,
haf a gaeaf, dydd a nos," meddai'r Arglwydd.

Saturday, April 11, 2026

y genedl ddedwydd

"Gwna'r Arglwydd gyngor y cenhedloedd yn ddim,
a difetha gynlluniau pobloedd.
Ond saif cyngor yr Arglwydd am byth,
a'i gynlluniau dros yr holl genedlaethau.
Gwyn ei byd y genedl y mae'r Arglwydd  yn Dduw iddi." 
- Gair Duw

Friday, April 10, 2026

lili'r dyffryn

Mae'r Lili'r Dyffryn yn ein hiard ni yn blodeuo’n hardd. Dyma un o fy hoff emynau:

"Ynddo Ef yn unig y bydda i'n gweld popeth sydd angen 
i mi gael fy nglanhau ac yn fod yn hollol gyfan.
Mewn galar, Ef yw fy nghysur.
Mewn trafferth, Ef yw fy arhosfan.
Ef yw Lili'r Dyffryn, y Seren Fore Ddisglair."

Wednesday, April 8, 2026

mae'n amlwg

"Codwch eich llygaid i fyny."

"Y mae'r nefoedd yn adrodd gogoniant Duw,
a'r ffurfafen yn mynegi gwaith ei ddwylo."

"Ond yn awr gofyn i'r anifeiliaid dy ddysgu,
ac i adar y nefoedd fynegi i ti,
neu i blanhigion y tir dy hyfforddi,
ac i bysgod y môr dy gyfarwyddo.
Pwy na ddealla oddi wrth hyn i gyd
mai llaw'r Arglwydd a'u gwnaeth?"

- y Beibl

Tuesday, April 7, 2026

da yw

"Da yw Duw." 

Hyn ydy'r geiriau cyntaf a ddaeth oddi wrth geg yr awyrennwr a achubwyd o Iran yn y cynllun achub beiddgar.

Ydy, mae o!

Monday, April 6, 2026

gwanwyn

"Y mae tymor i bob peth, ac amser i bob gorchwyl dan y nef:
amser i eni, ac amser i farw,
amser i garu, ac amser i gasáu,
amser i ryfel, ac amser i heddwch."

A dyna sut fydd y byd yn bwrw ymlaen, nes i Iesu ddod yn ôl un diwrnod.

Sunday, April 5, 2026

hanes Tomos

Doedd Tomos ddim yno pan wnaeth Iesu ymddangos. Dyma’r lleill yn dweud wrtho, “Dŷn ni wedi gweld yr Arglwydd!”

Ond ei ymateb oedd, “Nes i mi gael gweld ôl yr hoelion yn ei arddyrnau, a rhoi fy mys yn y briwiau hynny a rhoi fy llaw i mewn yn ei ochr, wna i byth gredu’r peth!”

Wythnos yn ddiweddarach roedd y disgyblion yn y tŷ eto, a’r tro hwn roedd Tomos yno gyda nhw. Er bod y drysau wedi’u cloi, daeth Iesu i mewn a sefyll yn y canol a dweud, “Shalôm!” Trodd at Tomos a dweud, “Edrych ar fy arddyrnau; rho dy fys i mewn ynddyn nhw. Estyn dy law i’w rhoi yn fy ochr i. Stopia amau! Creda!”

A dyma Tomos yn dweud, “Fy Arglwydd a’m Duw!”   -  Beibl.net


Saturday, April 4, 2026

dal i fyw

Syrthiodd coeden ar y cae cyfagos yn ystod storm gref y llynedd. Cafodd hi ei thynnu allan wrth y gwreiddiau. Roedd yn edrych yn farw yn ystod y gaeaf, ond dyma hi! Mae hi'n egino dail newydd sbon! Rhaid bod rhan o'r gwreiddiau'n dal i fyw.

Friday, April 3, 2026

good friday?


Pam gelwir "good" pan groeshoeliwyd Iesu? - oherwydd ei fod wedi marw dros ein pechodau ni; oherwydd cymerodd y gosb droston ni fel cawn ni faddeuant gan Dduw. Nid diwedd y stori hon fodd bynnag. Atgyfododd wedyn, ac mae o'n byw; fe ddaw yn ôl un diwrnod.

Wednesday, April 1, 2026

pesach


Wrth i'r Arglwydd fynd o gwmpas yr Aifft, gwelodd o'r gwaed, nid y bobl tu mewn. Dim ond gwaed Iesu allu'n gorchuddio ni.