Thursday, December 19, 2024

troli siopa

Cafodd troli siopa ei ddyfeisio gan ddyn Iddewig yn Oklahoma yn 1937! Yn ôl Cymdeithas Hanes Oklahoma, wrth weld cwsmeriaid yn cael trafferth siopa gyda basged ar eu breichiau mewn archfarchnad, peth newydd sbon ar yr adeg, dyfeisiodd Sylvan Goldman droli siopa gan gyfuno cerbyd gyda basged weiren. 

Tuesday, December 17, 2024

sut i gael y tangnefedd sydd goruwch pob deall

"Peidiwch â phryderu am ddim, ond ym mhob peth gwneler eich deisyfiadau yn hysbys i Dduw trwy weddi ac ymbil, ynghyd â diolchgarwch. A bydd tangnefedd Duw, sydd goruwch pob deall, yn gwarchod dros eich calonnau a'ch meddyliau yng Nghrist Iesu." 
Philipiaid 4:6,7

Monday, December 16, 2024

dronau dirgel

"Cafodd y broblem dronau dirgel ei datrys ar yr unwaith wrth iddyn nhw geisio hofran dros Texas," yn ôl y Wenynen! Protestiodd y gŵr yn dweud, "beth am Oklahoma? Pam na chawn ni ein cynnwys yn yr erthygl?"

Thursday, December 12, 2024

person y flwyddyn

Dewiswyd Donald Trump yn Berson y Flwyddyn yr ail dro gan Gylchgrawn Time. Fo ydy'r "troseddwr" cyntaf a gafwyd yn euog i gael ei ethol yn Arlywydd. Pennaeth yr Ysbwriel (ei gefnogwyr) hefyd ydy o. Hwrê!

Tuesday, December 10, 2024

ateb syml

Mae yna fodd syml a hollol resymol i ddatrys problemau benthyciadau myfyrwyr. Talwch nhw yn ôl, fel pawb arall sydd yn benthyg pres.

Saturday, December 7, 2024

pluen eira

Hardd dros ben ydy pluen eira. Faint o eira a ddisgynnodd ar y ddaear ers amser Dilyw Noa? Mae'n syfrdanol meddwl nid ydy'r un ohonyn nhw'n union yr un fath. Creadigol ydy Duw, ac artist gorau ydy O.

Thursday, December 5, 2024

y gobaith go iawn

Cynyddwyd gwerthiant Beiblau 22 y cant yn America eleni o'i gymharu â'r llynedd. Mae'r bobl yn troi at yr Ysgrythur oherwydd eu bod nhw'n newynog am y gwirionedd. Mae nifer ohonyn nhw eisiau Beibl argraffedig hefyd. Mae'r byd yn mynd yn wallgof fwyfwy bob dydd; cewch y gwirionedd, y bywyd, y gobaith go iawn ond yng Ngair Duw.

Wednesday, December 4, 2024

ail-gylchu baner trump

Dw i'n hoff iawn o heulwen yn mynd i mewn yn y tŷ ac yn cynhesu'r ystafell, ond weithiau mae'n rhy lachar. Dyma ail-gylchu baner Trump. Mae'n gweithio'n ardderchog.

Tuesday, December 3, 2024

ysbrydoli i weithredu


Os na cheith y gwystlon eu rhyddhau cyn Ionawr 20, 2025, bydd uffern i'w dalu yn y Dwyrain Canol, ac i'r rhai cyfrifol sydd wedi cyflawni'r erchyllterau hyn yn erbyn dynoliaeth. Bydd y rhai sy'n gyfrifol yn cael eu taro'n galetach na neb yn hanes hir a dirdynnol Unol Daleithiau America. Rhyddhewch y gwystlon rŵan!

Erbyn heddiw mae pawb wedi clywed y neges ofnadwy o nerthol hon gan yr Arlywydd Trump. Gobeithio bod "y rhai cyfrifol" yn gwybod y bydd o'n cyflawni ei addewidion heb fethu. Gobeithio iddyn nhw gael eu hysbrydoli i weithredu ar unwaith.

Friday, November 29, 2024

diolch

Diolch i ti, yr Arglwydd, ein Tad yn y nef am roi buddugoliaeth i Donald Trump, nid i Kamala Harris. Wnei di ysbrydoli America i edifarhau ein pechodau ni, a throi ôl atat ti. Wnei di atgoffa dy Eglwys i ddal yn wyliadwrus er mwyn iddi fod yn oleuni'r byd, ac yn halen i'r ddaear wrth i ddychwelyd Iesu nesáu.

Monday, November 25, 2024

cinio gorau

Dw i ddim yn coginio cinio Gŵyl Ddiolchgarwch eleni, er bydd y plant i gyd, ac eithrio'r rhai yn Japan, yn dod aton ni. Dw i newydd ddarganfod bod y cartref henoed mawr yn y dref yn darparu cinio traddodiadol i'r cyhoedd! (Hoffwn i fod wedi gwybod amdano o'r blaen!) Ac felly, dyna ni'n mynd i gael cinio llawn, heb i mi goginio neu olchi llestri! Hwrê!

Saturday, November 23, 2024

gwastraff hurt


Cyffredin ydy gwastraff gan unrhyw lywodraeth. Dim erthygl y Wenynen, fodd bynnag, ond ymchwil go iawn gan lywodraeth America ydy hyn; fydd tequila neu gin yn gwneud pysgod haul yn fwy ymosodol? A cost y ymchwil - $100,000. Gobeithio y bydd DOGE yn cael gwared ar wastraff tebyg i gyd yn drylwyr heb drugaredd.

Thursday, November 21, 2024

rhyfedd

Fel mae'n digwydd yn aml, cyn gynted ag enwir dyn "ceidwadol" i swydd bwysig, bydd rhyw ferched yn cofio'n sydyn eu bod nhw wedi cael eu treisio ganddo ugain mlynedd yn ôl. Dyna sydd yn digwydd i Matt Gaetz a Pete Hegseth. Clywais fod Gaetz wedi tynnu ei enw yn ôl o'r swydd er mwyn i'r Arlywydd Trump a'i dîm yn cael bwrw ymlaen heb wastraffi amser. Dw i'n meddwl mai trist ond call ydy'i benderfyniad. Dw i'n sicr bydd y cyhuddiad yn ei erbyn yn stopio ar yr unwaith.

Tuesday, November 19, 2024

dawns trump


Mae dawns Trump yn hynod o boblogaidd bellach. Dawnsir gan bob math o bobl gan gynnwys athletwyr proffesiynol. A dyma'r Wenynen ar ei orau (unwaith eto.) Roeddwn i'n chwerthin hyd at fy nagrau!

Monday, November 18, 2024

awyrgylch siriol


Mae awyrgylch siriol dros America ers i'r Arlywydd Trump ennill yr etholiad. Mae'r bobl yn obeithiol, ac yn edrych ymlaen at y dyfodol dan ei arweinyddiaeth. Mae o, ynghyd â'i gabinet a staff newydd yn gweithio'n egnïol yn barod, yn achosi panig mewn rhai cylchoedd.

Thursday, November 14, 2024

hwyl bob dydd

Mae'r Arlywyd Trump yn enwi person at swydd bwysig bob dydd. Mae'n hwyl gweld pwy sydd yn cael ei ddewis, rhai yn ddisgwyliedig a lleill yn swrpreis ond perffaith. Dw i wrth fy modd gyda Mike Huckabee fel Llysgennad i Israel, a Pete Hegseth fel Ysgrifennydd Amddiffyn. Rhaid bod y dewisiadau yn ardderchog oherwydd ymatebion ei elynion.

Wednesday, November 13, 2024

heddwch drwy gryfder

Mae'n anhygoel gweld bod y byd yn ceisio siapio hi eisoes cyn i Donald Trump gychwyn ei waith yn swyddogol. Mae America cryf yn cadw'r byd yn fwy diogel a llewyrchus yn bendant. Mae llawer o waith i'w wneud fodd bynnag. Dylen ni ddal ati fod yn wyliadwrus.

Tuesday, November 12, 2024

yn ôl i aamerica llawen

Wedi tair wythnos o wyliau yn Fecsico, daeth fy merch hynaf a'i gŵr adref neithiwr. Gadawon nhw cyn yr etholiad, a dod yn ôl i America llawen gydag awyrgylch llachar. Dim ond trugaredd Duw a achubodd America rhag iddi syrthio'n uniongyrchol i'r tywyllwch.

Monday, November 11, 2024

hollol goch

Dyma ganlyniad yr etholiad diweddaraf yn ôl y siroedd. Fel gwelir, coch ydy'r rhan fwyaf o'r Unol Daleithiau, hyd yn oed California. Os gwelwch yn fanwl, cewch chi weld bod yna ddwy dalaith yn hollol goch. Oklahoma a West Virginia maen nhw. Dw i'n hapus bod fy sir yn goch hefyd er bod y Democratiaid yn gryf ynddi fel arfer.

Saturday, November 9, 2024

dyma amser

Clywodd Duw trugarog weddïau ei bobl yn rhoi buddugoliaeth i Donald Trump. Dywedir fod rhyw 80 miliwn o Gristnogion wedi pleidleisio yn yr etholiad diwethaf, sydd yn 30 miliwn mwy nag arfer. Mae'n gynnwys nifer mawr o bobl Armish yn Pennsylvania. Dywedir mai nhw a benderfynodd ganlyniad y dalaith. Nid dyma amser i ymlacio a diogi, fodd bynnag; yn hytrach, dyma amser i fwrw ymlaen yn selog ac yn ostyngedig drwy'r drws newydd agor, er mwyn gwasanaethu ein Harglwydd ni, a dwyn bendith i'r genedl.

Thursday, November 7, 2024

y genhadaeth


“Dwedodd lawer o bobl wrtha i fod Duw wedi achub fy mywyd am reswm, er mwyn achub ein gwlad ni ac adfer America i fawredd. A dyma ni'n mynd i gyflawni'r genhadaeth hon gyda'n gilydd” - Donald J Trump, Arlywydd etholedig 

Amen. Gogoniant i Dduw byw sydd yn teyrnasu'r byd.

Wednesday, November 6, 2024

trugaredd Duw

Roedd gan Dduw drugaredd ar America, a rhoddodd ni ailgyfle. Gadewch inni ddal ati edifarhau'n pechodau ni, a throi at yr Arglwydd ein Duw sydd graslon a thrugarog, araf i ddigio, a mawr ei ffyddlondeb.

Tuesday, November 5, 2024

dewis: rhagorol eto neu byth eto



Mae nifer o siopau yn Washington D.C. a Portland, Oregon wedi gosod pren haenog ar y ffenestri rhag terfysg a fydd yn debygol o ddigwydd os enillith Donald Trump. (Does dim angen os enillith Kamala Harris.)

Ewch i bleidleisio heddiw, os nad ydych chi wedi ei wneud yn ymlaen llaw. Dyma bolisïau'r Gweriniaethwyr a'r Democratiaid. A dewiswch yn gall: nid ydy Iesu ar y bleidlais ond Jesebel sydd.  

Monday, November 4, 2024

gweddi dros america

Dywedodd Mike Huckabee yn ei weddi dros ein cenedl, "nid dros ymgeisydd ydyn ni'n pleidleisio, ond dros ddyfodol.” Ydyn ni eisiau bendith neu felltith? Ein dewis ni ydy hyn.

Saturday, November 2, 2024

casineb/cariad

 “Os ydy'ch casineb at un dyn yn fwy na’ch cariad at ein gwlad ni, rhan o’r broblem ydych chi'n swyddogol." -  Kevin Sorbo

Cytuno'n llwyr. 

Thursday, October 31, 2024

cristnogion a gwleidyddiaeth

Mae'n rhyfedd bod cynifer o Gristnogion yn credu na ddylen nhw gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth. Mi wnes i ysgrifennu ar y pwnc hwn sawl tro oherwydd fy mod i'n dod ar draws yr agwedd mor aml. Mynnir rhai hyd yn oed dylai Cristnogion ganolbwyntio ar bregethu'r Efengyl yr unig. Beth am y Frenhines Esther? Beth am William Wilberforce? Beth am Dietrich Bonhoeffer? Beth am Martin Luther King Jr.? Roedden nhw, a llawer mwy, yn brwydro'n angerddol yn erbyn drygioni'r genedl DRWY wleidyddiaeth.

Wednesday, October 30, 2024

gwactod yn y galon

Mae gan bawb yn y byd wactod yn ei galon na all ond Iesu ei lenwi. Os ydyn ni'n ceisio am ystyr ac arwyddocâd ar wahân i Iesu, na fyddwn byth yn dod o hyd iddyn nhw, oherwydd mai ond Iesu a allu glanhau, llenwi, a bodloni dyheadau calonnau dynol. - One for Israel

"Dewch ataf fi, bawb sy'n flinedig ac yn llwythog, ac fe roddaf fi orffwystra i chwi." Matthew 11:28

Tuesday, October 29, 2024

mae Duw yn gweithredu


Yn aml iawn, mae Duw yn gweithredu mwyaf ystod adegau ofnadwy yn ein bywydau ni. Gellir dweud yr un peth am Israel gyfan. Mae llawer o Israeliaid (Iddewig ac Arabaidd) yn troi at Dduw mewn ffyrdd digynsail yn ystod y rhyfel hwn. Trwy fideos One for Israel, mae nifer ohonyn nhw'n dod i ganfod mai Iesu ydy eu Meseia. Mae'r sefydliad yn cynhyrchu amrywiaeth o fideos efengylaidd (yn Hebraeg, Arabeg a Saesneg) fel hwn yn gyffordd calonnau pobl yn gryf.

Monday, October 28, 2024

peidio â phleidleisio?

Mae rhai Cristnogion yn ystyried peidio â phleidleisio yn yr etholiad hwn. Ond mae peidio â phleidleisio yn golygu phleidleisio, hynny yw, pleidleisio dros y statws quo. Wrth wynebu argyfwng, dydy hunanfoddhad ddim yn ddewisiad da. Cydwybod cenedl a halen y ddaear ydy Cristnogion. Beth fydd yn digwydd os bydd y gydwybod yn dawel, a'r halen yn colli ei halltrwydd? Gadewch inni garu ein cymdogion trwy bleidleisio’n ddoeth, er mwyn, cymaint â phosibl, atal llanw drygioni, a dod â bendithion Duw i’n cenedl ni.

Saturday, October 26, 2024

na fedrwn ni guddio

"Bydd popeth sydd wedi'i guddio yn dod i'r golwg, a phob cyfrinach yn cael ei datgelu.  Bydd popeth ddwedoch chi o'r golwg yn cael ei glywed yng ngolau dydd, a beth gafodd ei sibrwd tu ôl i ddrysau caeëdig yn cael ei gyhoeddi'n uchel o bennau'r tai." Luc 2:2,3 ( Beibl.net)

Na fedrwn ni guddio dim byd o Dduw hollwybodol.

Thursday, October 24, 2024

dim ond un dewis

Mae rhai Cristnogion yn dweud na fyddan nhw'n pleidleisio yn yr etholiad arlywyddol hwn oherwydd nad ydyn nhw'n hoffi'r naill ymgeisydd neu'r llall. Hollol hurt. Does dim ymgeisydd neu blaid berffaith. Rhaid dewis un sydd gan yr egwyddorion mwyaf tebyg ein un ni. Os na nawn ni bleidleisio, bydd mwy na digon o bobl yn hapus i'w wneud, a dylanwadu cyfeiriad y llywodraeth. A bydd America'n gwaethygu fwyfwy yn gyflym.

Tuesday, October 22, 2024

pwy ydy cynghreiriad gorau Israel?


Enwyd Franklin Graham y cynghreiriad Cristnogol gorau gan Sefydliad Cynghreiriaid Israel. Wedi cael ei longyfarchi, dwedodd yn bendant mai Duw ydy cynghreiriad gorau Israel, a dim ond Ei lysgennad sydd yn gwneud popeth yn Ei enw mae o. Gobeithio bod ei eiriau wedi gadael argraff gref yng nghalonnau’r gohebydd a'r bobl Israel.

Monday, October 21, 2024

mcdonald's mwyaf poblogaidd


Cafodd yr Arlywydd Trump waith sydyn yn McDonald's ddoe, yn ffrio sglodion a'u offro i gwsmeriaid drwy ffenest fach. Er bod ei elynion wedi bod yn ei farnu'n hallt, fedran nhw ddim gwadu bod y cwsmeriaid lwcus a'r bobl a gasglwyd wrth eu boddau, a dangos eu cefnogaeth yn glir ac uchel.

Saturday, October 19, 2024

amser i garu


"Yn anffodus, mae rhai Cristnogion yn credu dylen nhw ddim cymryd ochr yn y rhyfel rhwng Israel a'i gelynion oherwydd bod y diniwed yn cael eu lladd ymhlith yr Israeliaid a'r Palestiniaid. Barn naïf a aned o ddylanwad bydol ydy hyn fodd bynnag."

"Mae'r amser ar y Cristnogion i garu ac anrhydeddu pobl ddewisol Duw heddiw, oherwydd os ydych chi wir yn caru Iesu, byddwch chi'n caru'r Iddewon."

Erthygl ardderchog arall gan Charles Gardner

Thursday, October 17, 2024

gŵyl y pebyll


Dechreuodd Gŵyl y Pebyll neithiwr a fyddai'n parhau am wythnos. Gorchymynnodd Duw i bobl Israel i fyw mewn pebyll, a llawenhau o'i flaen. (Lefiticus 23) Fel roedd Passover yn cyfeirio at brynedigaeth gan Iesu, mae Gŵyl y Pebyll yn pwyntio at y ddaear newydd lle bydd Duw yn trigo gyda ni. 

 “Wele, y mae preswylfa Duw gyda'r ddynoliaeth; bydd ef yn preswylio gyda hwy, byddant hwy yn bobloedd iddo ef, a bydd Duw ei hun gyda hwy, yn Dduw iddynt." Datguddiad 21:3

Wednesday, October 16, 2024

gwerthfawrogi amherffeithrwydd

Juusanya, sef Gŵyl y 13eg Noson, ar hen galendr Japan ydy hi. Dywedir mai honno sydd y trydydd harddaf leuad mewn blwyddyn. Yn aml iawn, mae'r bobl Japan yn gwerthfawrogi amherffeithrwydd mewn natur. Coginiodd fy merch hynaf, sydd yn dilyn y calendr Japan yn ffyddlon, swper i ddathlu'r ŵyl. 

Tuesday, October 15, 2024

pam lai?

 Pam lai? Mae yn llygad ei le. Fideo ardderchog gan Stephen Harper, Cyn Brif Weinidog Canada


Monday, October 14, 2024

55 miliwn

Cywilydd ar y 55 miliwn o Gristnogion Efengylaidd yn America nad oes ganddyn nhw fwriad i bleidleisio yn yr etholiad arlywyddol ar y trothwy. Efallai nad ydyn nhw'n hoffi'r naill na'r llall. Os na fyddan nhw'n pleidleisio, fodd bynnag, bydd y drygionus yn penderfynu polisïau’r wlad.

Saturday, October 12, 2024

y faner olaf

Cafodd y gŵr gafael yn y faner olaf yn siop Trump yn y dref ddoe. Dwedodd y staff fod y baneri'n cael eu prynu cyn gynted ag y byddan nhw'n cyrraedd y siop. Er bod yr Arlywydd Trump yn ennill mwy a mwy o gefnogaeth gan bobl amrywiol, ac mae Mrs. Harris yn prysur ddatgelu ei ffolineb a'i chelwydd, ddylen ni ddim llacio, oherwydd bod y bobl ddrwg wrthi'n cynllwynio i ddwyn yr etholiad.

Friday, October 11, 2024

Yom Kippur - Diwrnod Cymod


Gorchmynnodd Duw i ni beidio â gweithio ar Ddiwrnod Yom Kippor yn yr Ysgrythur oherwydd nad oes dim byd i ni fedru gwneud er mwyn cael ein cymodi gydag Ef. Gweithredoedd Duw ydy hyn i gyd.


Thursday, October 10, 2024

pierre poilievre


Dyma wleidydd arall sydd yn cefnogi Israel heb ofni beirniadaeth ffyrnig. Er nad ydw i'n cytuno â'i holl bolisïau, dw i'n ei gymeradwyo'n fawr am ei ddewrder. Mae angen mwy o bobl fel o arnon ni.

Wednesday, October 9, 2024

llygaid yr Arglwydd

"Oherwydd y mae llygaid yr Arglwydd yn tramwyo dros yr holl ddaear, i ddangos ei gryfder i'r sawl sy'n gwbl ymroddedig iddo."

2 Cronicl 16:9

Tuesday, October 8, 2024

iddew sydd yn rheoli'r tywydd


"Mae'r Iddew hwnnw'n rheoli storm ffyrnig!"
"Roedd ganddo ei law mewn llawer o bethau eraill hefyd - trin y cyflenwad bwyd, dyfeisio dull cyfrinachol o gynhyrchu gwin, darparu gofal iechyd cyflym ac effeithiol i bobl sâl." 

Da iawn, y Wenynen, unwaith eto!

Monday, October 7, 2024

7 hydref

Heddiw dylen ni gymryd amser i gofio a gweddïo dros Israel.
“Gweddïwch dros heddwch Jerwsalem: “Boed i'r rhai sy'n eich caru chi lwyddo.” Salmau 122:6

y llun gan Cornerstone Chapel - Leesburg, VA

Saturday, October 5, 2024

murlun yn california



Mae fy merch hynaf newydd orffen murlun arall yn California ar gyfer gŵyl gelf/gerddoriaeth yn Concord. Mae ei murlun yn portreadu nerth ac egni dawns Onikenbai sydd yn tarddu o Kitakami, Japan. Mae'n deyrnged i bartneriaeth rhwng Concord a'i ddinas efell Kitakami am 50 mlynedd. Daeth 30 o'r trigolion gan gynnwys Maer Kitami i gymryd rhan yn yr ŵyl, ac edmygu'r murlun.

Thursday, October 3, 2024

llygad ei le

"Mae rhyfeloedd yn ofnadwy. Bydd dioddefwyr diniwed ar y ddwy ochr bob amser. Mae rhyfeloedd yn anochel weithiau, fodd bynnag, oherwydd gallen nhw fod yn gyfiawn."

"Mae'r rhyfel yn y Dwyrain Canol yn dwysáu'n gyflym. Ond mae'n amlwg pwy sydd ar fai a pha ochr dylen ni gefnogi. Ydyn ni'n sefyll gydag Israel, oherwydd bod ei elynion yn ddrygioni, a bod niwtraliaeth yn wyneb drygioni yn ddrygioni hefyd."  Geert Wilders

Mae yn llygad ei le. 

Wednesday, October 2, 2024

talwch sylw


Bydd Gŵyl Utgorn yn dechrau heno. Er mai'r calendr Iddewig ydy hyn, mae'n gymwys i bawb yn y byd. Mae amser o hyd i bobl ddod at Dduw mewn edifeirwch, i gael maddeuant trwy Iesu, ac i gael eu mabwysiadu i deulu cariadus Duw. Cyn chwythir yr utgorn olaf. Talwch sylw!

Tuesday, October 1, 2024

cefnogaeth ar ddaear

Nid dim ond nerth yr IAF a thechnoleg ddisglair Israel a roddodd y fuddugoliaeth ddiweddraf i Israel. Duw Israel sydd yn caru ei bobl a wnaeth. Atebodd gweddïau pawb wrth y Wal ynghyd â rhai cynifer o bobl sydd yn caru Israel drwy'r byd. Diolch i sianel thelandofisrael am y fideo a'r llun.

Monday, September 30, 2024

rhagrith rhyfeddol

Doedd neb yn awgrymu cadoediad tra bod yr Hezbollah'n tanio miloedd o daflegrau at Israel, a gorfodwyd y trigolion yng ngogledd Israel i adael eu cartrefi, a'i fyw fel ffoaduriaid ers 7 Hydref llynedd. Cyn gynted â bod Israel yn dechrau ymladd yn ôl er mwyn amddiffyn eu pobl, bodd bynnag, chollodd y byd dim amser i'w condemnio, a mynnu am gadoediad. 

Saturday, September 28, 2024

fe'i bendithir


Beirniadodd yr Arlywydd Javier Milei o'r Ariannin y Cenhedloedd Unedig am bleidleisio dro ar ôl tro yn erbyn Israel. Galwodd Israel yr unig ddemocratiaeth yn y Dwyrain Canol, sydd yn amddiffyn democratiaeth ryddfrydol.

Am hyn, diolchodd Danny Danon, Llysgennad Israel i'r Cenhedloedd Unedig: "yn y neuadd hon, lle ydyn ni'n cael ein difenwi drwy’r dydd, dangosoch chi ddewrder a chefnogi Israel! Diolch!" 

"Bendithiaf y rhai sy'n dy fendithio..."

Thursday, September 26, 2024

ni lwydda unrhyw arf a luniwyd yn dy erbyn

Beth sydd yn digwydd yn y byd yn gynyddol:
"Edrych fel y mae dy elynion yn terfysgu, a'r rhai sy'n dy gasáu yn codi eu pennau.
Gwnânt gynlluniau cyfrwys yn erbyn dy bobl, a gosod cynllwyn yn erbyn y rhai a amddiffynni,
a dweud, “Dewch, inni eu difetha fel cenedl, fel na chofir enw Israel mwyach.” y Salmau 83:2-4

Ond cofiwch beth a ddwedodd y Duw wrth Abraham:
"Bendithiaf y rhai sy'n dy fendithio, a melltithiaf y rhai sy'n dy felltithio, ac ynot ti bendithir holl dylwythau'r ddaear.” Genesis 12:3

Tuesday, September 24, 2024

y gair am y groes

"Oblegid y gair am y groes, ffolineb yw i'r rhai sydd ar lwybr colledigaeth, ond i ni sydd ar lwybr iachawdwriaeth, gallu Duw ydyw." 1 Corinthiaid 1:18

Beth bynnag mae'r byd yn ei ddweud, ac er gwaethaf y farn boblogaidd ddiweddar, mae doethineb Duw yn ddoethach na doethineb dynol. Ac na fydd o byth yn newid.

Monday, September 23, 2024

cyngor doeth

"Chwiliwch am swydd wahanol."
"Rhowch orau i fod yn derfysgwyr,
os dach chi eisiau byw, a rhoi dyfodol gwell i'ch teulu chi."

Cytuno'n llwyr â Naftali Bennett.

Saturday, September 21, 2024

lleuad wen

Hardd oedd Lleuad Gynhaeaf, ond dw i'n hoffi Lleuad Wen mwy. Mae hi'n edrych tipyn yn drist fel pe bai hi wedi blino, wedi gweithio'n galed yn y nosweithiau blaenorol. Neu ydy hi'n teimlo rhyddhad yn cael llonydd?

Thursday, September 19, 2024

rhag eu cywilydd

Pleidleisiodd rhan fwyaf o aelodau'r Cenhedled Unedig dros gael gwared ar yr Iddewon o Jwdea/Samaria a Gorllewin Jerwsalem. Mae cywilydd arna i weld mai Japan yn un ohonyn nhw. I'r Iddewon mae'r tir i gyd (a mwy yn wreiddiol) yn perthyn. Dywedodd y Duw felly yn y Beibl tro ar ôl tro. Disgwylir melltith i'r gwledydd a bleidleisiodd yn erbyn Israel. 

"Bendithiaf y rhai sy'n dy fendithio, a melltithiaf y rhai sy'n dy felltithio." - Genesis 12:3


Wednesday, September 18, 2024

gŵyl leuad

Dathlwyd Gŵyl Leuad yn Japan. Dywedir bod y lleuad lawn ym mis Medi i fod yn harddaf. Paratôdd fy merch hynaf, sydd yn dilyn calendr Japan yn ffyddlon, swper creadigol - curi a reis sydd yn edrych fel y lleuad yn awyr y nos.

Tuesday, September 17, 2024

powlen hardd

Prynais bowlen hardd a wnaed gan grefftwr o Dalaith Efrog Newydd. Dw i'n bwyta swper o bowlen yn ddiweddar, ac felly mae hon yn berffaith. Dw i'n falch o gefnogi busnes bach Americanaidd ar yn un pryd.

Monday, September 16, 2024

pigiad gwenynen

"Aeth gohebydd maleisus at yr Is-lywydd Kamala Harris yn ystod ymgyrch, a thanio sawl cwestiwn cyn cael ei daclo i'r llawr a'i ddarostwng gan asiantau'r Gwasanaeth Cudd."

Diolch i'r Wenynen unwaith eto am ein gwneud ni chwerthin.

Saturday, September 14, 2024

gwin o israel

Prynais win arall o Israel (Winllan Lwyfandir Golan.) Ces fy synnu i weld bod y winllan yn dal i gynnyrch gwinoedd er gwaethaf ymosodiadau erchyll gan rocedi Hezbollah. Bydded i angylion Duw Israel amgylchi pobl Israel a'u hamddiffyn nhw.

Thursday, September 12, 2024

y brenin nebukadnezar

Rhaid bod Llyfr Daniel un o ffefrynnau nifer o Gristnogion, am ddewrder, ffyddlondeb, ostyngeiddrwydd Daniel. Mae un peth newydd a fy nharo i'r bore 'ma wrth ddarllen Pennod 1 drwy 3 -  rhoddodd Duw frenin ofnadwy o seciwlar a gorhyderus gymaint o anrhydedd ac arglwyddiaeth helaeth dros bobl ac anifeiliaid. 

Fel dwedodd Pastor Gary, mae Duw yn defnyddio pobl dda a phobl ddrwg er mwyn cyflawni Ei ewyllys. 

"Oherwydd nid fy meddyliau i yw eich meddyliau chwi,
ac nid eich ffyrdd chwi yw fy ffyrdd i,” medd yr Arglwydd." Eseia 55:8

Wednesday, September 11, 2024

Monday, September 9, 2024

cadw yn ddistaw

Mae cadw yn ddistaw yn wyneb drygioni ei hun yn ddrygioni: na fydd Duw yn ein hystyried yn ddieuog. Mae peidio â siarad yn golygu siarad. Mae peidio â gweithredu yn golygu gweithredu. - Dietrich Bonhoeffer

Mae'r Beibl yn glir hefyd:
Achub y rhai a ddygir i farwolaeth;
rho gymorth i'r rhai a lusgir i'w lladd.
Os dywedi, “Ni wyddem ni am hyn”,
onid yw'r un sy'n pwyso'r galon yn deall?
Y mae'r un sy'n dy wylio yn gwybod,
ac yn talu i bob un yn ôl ei waith. - Diarhebion 24:11, 12

Wednesday, September 4, 2024

doethineb Duw

Mae Llyfr Diarhebion yn llawn o ddoethineb Duw. Adnod heddiw: 
"Does gan ffŵl ddim awydd o gwbl i ddeall,
dim ond lleisio'i farn ei hun." 18:2 (Beibl.net)

Mae yna gynifer o bobl yn ddiweddar yn union fel uchod, sef pobl sydd yn lleisio barn rhywun arall, heb feddwl drostyn nhw eu hunain.

Monday, September 2, 2024

llythyr at fy mam


Bydda i'n ysgrifennu llythyr at fy mam sydd yn byw mewn cartref henoed yn Tokyo bob mis. Mae hi'n iach a mwynhau ei bywyd syml er bod hi wedi dechrau dangos symptomau dementia. Dw i ddim yn sicr cymaint mae hi'n deall fy llythyrau, ond dw i'n dal ati bob mis yn adrodd newyddion diweddaraf y teulu. Bydda i'n ychwanegu adnodau'r Beibl bob tro er mwyn ei hatgoffa hi addewidion hyfryd y Duw. Dewisais y Galarnad 3:23, 24 y tro hwn:

"Nid oes terfyn ar gariad yr Arglwydd,
ac yn sicr ni phalla ei dosturiaethau.
Y maent yn newydd bob bore,
a mawr yw dy ffyddlondeb."

Saturday, August 31, 2024

calon Duw

"A wyf yn ymhyfrydu ym marw'r drygionus?” medd yr Arglwydd Dduw. “Onid gwell gennyf iddo droi o'i ffyrdd a byw?"

"Bwriwch ymaith yr holl droseddau a wnaethoch, a mynnwch galon newydd ac ysbryd newydd." 

"Edifarhewch a byddwch fyw.”

Eseciel 18

Friday, August 30, 2024

mae'r doethineb yn galw

Dywedir na ddylech chi byth casáu neb, ond mae'r Doethineb yn dweud y fel arall: 

"Ofn yr Arglwydd yw casáu drygioni."
 Diarhebion 8:13

"Y mae tymor i bob peth, ac amser i bob gorchwyl dan y nef."
y Pregethwr 3:1

"...amser i garu, ac amser i gasáu, amser i ryfel, ac amser i heddwch."
y Pregethwr 3:8

Tuesday, August 27, 2024

mae gan genie gartref

Mae Genie newydd gael ei fabwysiadu! Dim ond oriau wedi iddo fynd i'r ganolfan, daeth teulu gyda merch 11 oed i weld sut gŵn ar gael. Syrthiodd y teulu mewn cariad gyda Genie, a mynd â fo adref ar yr unwaith. Mae fy merch yn dipyn bach yn drist wrth reswm, ond roedd hi'n fodlon iddi fedru helpu'r ci druan.

Saturday, August 24, 2024

pethau na ddywedodd Iesu erioed:

"Bydd Duw yn helpu'r rhai sydd yn helpu eu hunan."
"Na allwch chi garu pobl eraill oni bai eich bod chi'n caru'ch hun gyntaf."

Mae llawer mwy o bethau a gredir sydd yn y Beibl, ond ydyn nhw?

Friday, August 23, 2024

Duw sy'n fy achub i

Ti ydy'r Duw sy'n fy achub i. Dw i'n dibynnu arnat ti trwy'r dydd. 
- Salmau 25:5 (Beibl.net, YouVersion)

Dw i wedi bod yn ofnadwy o sâl am amser hir iawn. Des ar draws y bennod uchod y bore 'ma.

Monday, August 19, 2024

ci druan

Mae fy merch hynaf yn gofalu am gi arall am sbel. Roedd o'n cael ei gam-drin, ac achubwyd gan yr heddlu'n ddiweddar. Oherwydd hynny, mae o'n ofnadwy o ofnus o bob dim, ac mae o'n methu gwneud pethau normal. Mae fy merch wrthi'n ei ddysgu drwy ei garu a hyfforddi'n dyner, er mwyn iddo gael ei fabwysiadu un diwrnod.

Saturday, August 17, 2024

gwin o uchder golan

Dw i newydd ddarganfod bod siop ddiodydd leol yn gwerthu gwin o Israel! Bydd prynu un botel ar y tro yn fwy cyfleus i mi yn hytrach na archebu dwsin ar y we. Medra i gefnogi busnes lleol hefyd. Dyma brynu gwin o Uchder Golan. Mae'n anhygoel bod y winllan yn dal i gynhyrchu gwinoedd tra bod Hezbollah wrthi'n lansio rocedi atyn nhw drwy'r amser. Na fydda i'n prynu gwin arall ond  hwnnw o hyn ymlaen.

Friday, August 16, 2024

ateb


Y nhw a gafodd eu hymosod, eu harteithio, eu llofruddio, a'u cipio gan derfysgwyr bron i flwyddyn yn ôl. Y nhw, fodd bynnag, sydd yn cael eu beio, eu condemnio, a galw'n anfad. Dw i'n sôn am yr Iddewon wrth gwrs. Pam? Pam mae casineb, nid cydymdeimlad tuag atyn nhw'n cynyddu'n aruthrol? Esboniodd Greg Laurie yr hyn i gyd yn ardderchog.

Wednesday, August 14, 2024

molwch yr Arglwydd!

Molwch yr Arglwydd sydd yn llywodraethu'r byd! Achosodd Ef ddaeargryn yn Libanus, a dinistrio twneli Hezbolllah ddyddiau'n ôl. O ganlyniad, methon nhw ymosod ar Israel mewn dial, yn ateb gweddïau cynifer o bobl, dw i'n sicr. Pam nad oes neb yn siarad amdano?

Tuesday, August 13, 2024

fideo newydd sbon

Mae fy merch hynaf newydd gynhyrchu fideo am ei murlun diweddaf yn yr Almaen. Cymerodd ddeg diwrnod i greu'r murlun enfawr  hwnnw mewn lle hynod o braf gyda phobl glên dros ben. 

Monday, August 12, 2024

am y fath amser â hwn

Falch o wybod bod yna ffyddloniaid yn y DU sydd yn sefyll yn gadarn gydag Israel a'r Iddewon, ac yn erbyn barn sydd yn groes i wirionedd Gair Duw.

Saturday, August 10, 2024

gwin cartref

Cawson i win cartref gan ffrind ein mab ifancaf sydd newydd ddod adref. Iddewig ydy'r ffrind ac mae o a'i deulu'n credu yn Yeshua (Iesu.) Mae'r gwin yn felys a hollol kosher, wrth gwrs. Cawson ni o yn ddiolchgar gyda swper neithiwr wrth i Saboth ddechrau.

Friday, August 9, 2024

beth ddigwyddodd i'r ysgub

Mae cath feiddgar arall yn dod i mewn yn ein hiard ni'n ddiweddar. Heddiw, gwelais i hi'n eistedd ar waelod y bwydwr aderyn! Dyma fyrstio drwy'r drws cefn, a rhedeg ar er hôl gydag ysgub yn fy llaw mewn cynddaredd. Neidiodd hi dros y ffens yn gyflym. Er mwyn ei dychryn, trewais ben y ffens gyda'r ysgub yn rymus sawl tro. Gobeithio na fydd hi'n dychwelyd byth eto. Ces i sioc yn gweld beth ddigwyddodd i'r ysgub!

Wednesday, August 7, 2024

gydag Iesu

Buodd ffrind farw ddoe. Roedd yn 98 oed. Roeddwn i a'r gŵr ei nabod hi a'i gŵr ers i'r cwbl ddod at ein heglwys ni yn Kobe, Japan fel cenhadon flynyddoedd yn ôl. Enwon ni ein mab cyntaf a'n trydedd ferch ar eu hôl. Dilynodd y ffrind ei gŵ, a fuodd farw chwarter canrif yn ôl, at Iesu Grist. 

Tuesday, August 6, 2024

peidiwch â meiddio

Mae'n ymddangos nad ydy pobl Israel yn poeni am ymosodiad disgwyliedig Iran. Wir, dwedodd Duw Israel am beidio ag ofni tro ar ôl tro yn y Beibl. Wir, mae Duw yn bendithio'r IDF a rhoi buddugoliaeth iddyn nhw hyd yma, ond ynddo fo dylai pobl Israel ymddiried, nid yn nerth yr IDF, neu efallai byddai Duw yn gadael i'r IDF fethu fel y byddai'r bobl yn gorfod galw arno fo yn daer.

Monday, August 5, 2024

ni lwydda unrhyw arf

O Dduw, paid â bod yn ddistaw;
paid â thewi nac ymdawelu, O Dduw.
Edrych fel y mae dy elynion yn terfysgu,
a'r rhai sy'n dy gasáu yn codi eu pennau.
Gwnânt gynlluniau cyfrwys yn erbyn dy bobl,
a gosod cynllwyn yn erbyn y rhai a amddiffynni,
a dweud, “Dewch, inni eu difetha fel cenedl,
fel na chofir enw Israel mwyach.”
Cytunasant yn unfryd â'i gilydd,
a gwneud cynghrair i'th erbyn—  
Psalms 83

"Ond ni lwydda unrhyw arf a luniwyd yn dy erbyn..." Eseia 54:17

Tuesday, July 30, 2024

walmart

Mae fy ail a trydedd ferch gyda'i gŵr a'r babi newydd yn ymweld â fi a'r gŵr. Am y tro cyntaf i ni weld ein hwyres ifancaf. Mae hi'n hynod o annwyl. Am y tro cyntaf hefyd i ŵr fy merch i ddod i America; y lle cyntaf roedd o eisiau mynd ydy Walmart! Dyma nhw. Cafodd o a fy merch hefyd sydd oddi cartref dros bum mlynedd eu synnu gweld bagiau enfawr o rawnfwydydd.

Monday, July 29, 2024

nef a daear

Gorffennodd fy merch y murlun diweddaraf yn llwyddiannus. Mae'r trigolion wrth eu boddau, a thynnu lluniau o flaen o. "Nef a Daear" ydy'r teitl yn seiliedig ar ddawns a berfformiwyd gan Pina Bausch, y ddynes enwog a oedd yn dod o'r pentref hwnnw. Mae fy merch a'i gŵr yn mwynhau gwyliau yn yr Almaen cyn iddyn nhw ddod adref ddiwedd yr wythnos.

Tuesday, July 23, 2024

ble mae'r arlywydd go iawn?


"Ga' i siarad â Trump? Ble mae o? Hoffwn gael cyfarfod ag arlywydd go iawn," meddai prif weinidog Israel, wedi cyrraedd America. Hollol gredadwy! Go da, y Wenynen unwaith eto!

Gwahodd a wnaeth Donald Trump Bibi Netanyahu i Mar-a-Lago wedi'r cwbl.

Monday, July 22, 2024

mae'r addewid yn dal

"Bendithiaf y rhai sy'n dy fendithio, a melltithiaf y rhai sy'n dy felltithio, ac ynot ti bendithir holl dylwythau'r ddaear.” Genesis 12:3

Mae rhai yn gwrthwynebu bendith Duw ar ddisgynyddion Abraham oherwydd hanes anffyddlondeb Israel. Ond nid dyna'r pwynt. Mae dewis Duw'n dibynnu ar Ei ras ac er mwyn Ei enw Ei hun. Mae'r addewidion yn dal. Bydd y rhai sy'n bendithio Israel yn cael eu bendithio, a bydd y rhai sy'n gwneud niwed iddyn nhw'n wynebu dicter Duw. I rai pobl, gall fod yn anodd sefyll a siarad dros Israel yn yr hinsawdd gyfredol, ond mae eisiau ffrindiau ar Israel rŵan yn fwy nag erioed. Well i ni fod ar ochr Dduw yn hytrach na ar ochr Ei gelynion.

Saturday, July 20, 2024

llwyddodd buwch ddringo i'r do ar oleddf


Yn erbyn esgus gwirion Pen Gwasanaeth Cudd yr Unol Daleithiau, wedi iddyn nhw fethu amddiffyn y cyn arlywydd Trump, mae memes doniol yn mynd o gwmpas yn helaeth. Hwn ydy fy ffefryn. Mae angen chwerthin arnon ni yn y byd tywyll hwn, nag oes?

Friday, July 19, 2024

canlyniad annisgwyl


Mae Donald Trump yn edrych yn wahanol, wedi'r ymosodiad ar ei fywyd yn ddiweddar; mae o'n ymddangos yn feddylgar a llai cellweirus. Fel dwedodd Franklin Graham yn y confensiwn Gweriniaethol, "pan fyddwch chi'n mynd drwy’r profiadau felly, byddan nhw'n eich newid chi. Gellir gwneud i chi ail-feddwl am eich bywydau a'ch blaenoriaethau chi."

Un peth yn amlwg. Dygodd canlyniad hollol groes i gynllun y drygionus - unodd y trosedd erchyll bobl America. Bellach, mae mwy a mwy ohonyn nhw'n cefnogi Donald Trump.

Wednesday, July 17, 2024

dewis delfrydol

Mae'n rhaid i Donald Trump ddewis dyn delfrydol ar gyfer yr ymgeisydd is-lywydd, oherwydd bod ei elynion yn gwylltio'n lân ac yn ofnus tu hwnt.
y llun: J.D. Vance wrth Wal Jerwsalem

"Rho inni gymorth rhag y gelyn, oherwydd ofer yw ymwared dynol.
Gyda Duw fe wnawn wrhydri; ef fydd yn sathru ein gelynion."
Y Salmau 60:11, 12

Tuesday, July 16, 2024

bwrw dy faich

"Bwrw dy faich ar yr Arglwydd, ac fe'th gynnal di."
y Salmau 55:22

Monday, July 15, 2024

gras Duw

Dim ond gras Duw a gweddïau taer ei bobl achubodd bywyd y cyn Arlywydd Trump. "Bydded i ein cenedl ni fod yn rhagorol unwaith eto yng ngolwg Duw." Amen.

Saturday, July 13, 2024

hwb aruthrol i boblogrwydd mr. biden


Cafodd dementia Mr. Biden ei weld yn glir gan y byd yn ddiweddar er gwaethaf ymdrechion y Democratiaid a'r prif gyfryngau i'w guddio rhag y cyhoedd. Trodd y Wenynen ei "gaffe" enwog yn erthygl ofnadwy o ddoniol. Un o'i gorau mae hi!

Friday, July 12, 2024

coginio er gwaethaf rocedi

Hyd yn oed wedi'r holl drigolion eu gwacáu oherwydd ymosodiadau rocedi Hezbollah, mae'r gynulleidfa Fesianaidd yn Kiryat Shmona, yng ngogledd Israel yn dal i wasanaethu milwyr y IDF gan goginio prydau o fwyd poeth bob dydd. Goleuni mewn tywyllwch maen nhw. 

Wednesday, July 10, 2024

ugain addewid y blaid weriniaethol



Mae'r blaid wedi mabwysiadu polisïau hynod o syml a chlir y cyn Arlywydd Trump. Maen nhw'n ardderchog a hollol resymol. Dw i'n eu cefnogi nhw cant y cant.

Tuesday, July 9, 2024

murlun yn yr almaen

Yn yr Almaen bydd fy merch hynaf yn peintio'r murlun nesaf. Bydd hi a’i gŵr yn hedfan i Wuppertal ger Cologne i greu murlun mawr ar wal adeilad 4 llawr, murlun mwyaf iddi. Mae'r trefnydd trefnus wrthi'n trin y wal ar ei chyfer hi ar hyn o bryd. (clên iawn!)

Monday, July 8, 2024

y porth

“Pe bai eich pechodau fel ysgarlad, fe fyddant cyn wynned â'r eira;
pe baent cyn goched â phorffor, fe ânt fel gwlân." Eseia 1:18

"Carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy'n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol."  Ioan 3:16

Mae'r porth agor i bawb, ond cul.

Dywedodd Iesu wrtho, “Myfi yw'r ffordd a'r gwirionedd a'r bywyd. Nid yw neb yn dod at y Tad ond trwof fi." Ioan 14:6

Friday, July 5, 2024

y gwir ryddid

Gwlad y Rhydd, Cartref y Dewr...

Wir, mae America yn wlad rydd, brin yn yr hanes dynol. Mae ond un gwir ryddid, fodd bynnag, sef rhyddid drwy Iesu Grist.

"Felly os yw'r Mab yn eich rhyddhau chwi, byddwch yn rhydd mewn gwirionedd". - Ioan 8:36

Thursday, July 4, 2024

248 oed

Penblwydd Hapus i America!

“Mae America yn odidog oherwydd bod America yn dda, os bydd America yn peidio â bod yn dda, bydd America yn peidio â bod yn odidog.” - Alexis de Tocqueville

Wednesday, July 3, 2024

mae'n amlwg


"Y mae'r nefoedd yn adrodd gogoniant Duw, a'r ffurfafen yn mynegi gwaith ei ddwylo." - y Salmau 19:1

Mae bodolaeth Duw yn amlwg drwy ei greadigaeth. Does gan neb esgus peidio â'i gredu.

Tuesday, July 2, 2024

canmoliaeth


Mae mwy a mwy o bobl yn gwylio fideos Hebraeg ac Arabeg One for Israel. Mae'r sefydliad yn derbyn llwyth o ymatebion bob dydd oddi wrth yr Iddewon yn Israel, a'r Mwslemiaid o bedwar ban byd gan gynnwys Gaza. Mae nifer ohonyn nhw'n cael eu denu gan fideos cerddoriaeth. Nerthol ydy canmoliaeth! Mae eu hundod hefyd yn arf ysbrydol pwerus iawn.

Monday, July 1, 2024

paid â llawenhau pan syrth dy elyn

Wedi'r ddadl rhwng y Cyn-arlywydd Trump a Mr. Biden, mae rhai pobl yn gwawdio'r olaf, ond byddwch chi'n ofalus, a gwybod beth mae Gair Duw yn ei ddweud:

"Paid â llawenhau pan syrth dy elyn, nac ymfalchïo pan feglir ef, rhag i'r Arglwydd weld, a bod yn anfodlon, a throi ei ddig oddi wrtho." Diarhebion 24:17,18

Hefyd:
"Na fydd ddig wrth y rhai drygionus, na chenfigennu wrth y rhai sy'n gwneud drwg. Oherwydd nid oes dyfodol i neb drwg, a diffoddir goleuni'r drygionus."
Diarhebion 24:19, 20

Saturday, June 29, 2024

dydy Iesu ddim ar y bleidlais


Dyma bregeth gan Gary Hamrick ar Rufeiniaid 13, ynglŷn â llywodraethau a Christnogion - y bregeth orau ar y pwnc a glywais erioed.

"Pleidleisiwch dros y rhai sydd yn rhannu ein hegwyddorion ni mor agos â phosibl, oherwydd nad ydy Iesu ar y bleidlais."

Thursday, June 27, 2024

paid ag ofni

"Paid ag ofni" - dywed y geiriau hyn cynifer o amser yn y Beibl. Roedd gan hyd yn oed Elias a oedd mor ddewr yn erbyn y Brenin Ahab a'r proffwydi Baal ac Asera, ofn pan fygythiwyd gan y Frenhines Jesebel; ffoi a wnaeth am ei fywyd. Mae gan bawb ofn. Dyna pam roddodd Duw i ni gynifer o addewidion. Does dim rhaid inni ofni oherwydd bod Iesu wedi gorchfygu'r byd, ac mae O gyda ni.

Tuesday, June 25, 2024

9 arwydd

Mae nifer o Gristnogion ifanc yn chwilio am eu darpar priod, mae'n siŵr. Dydy hi ddim yn hawdd bob amser dod o hyd i'r un sydd yn addas i chi. Dyma gyngor doniol gan y Wenynen. Mae'r rhan fwyaf ohono fo'n ddefnyddiol mewn gwirionedd. Dw i'n hoffi rhif 4!

Monday, June 24, 2024

bendithiaf y rhai sy'n dy fendithio


Geert Wilders: "Mae Israel yn ein ffrind annwyl a chynghreiriad. Yr unig ddemocratiaeth yn y Dwyrain Canol sydd yn ymladd dros fodolaeth y famwlad Iddewig maen nhw. Ac i derfysgwyr Hamas a charfanau radical Palestinaidd, dywedaf; pan ddych chi'n dechrau rhyfel, peidiwch â chwyno os byddwch chi'n ei golli."

Diolch i Geert Wilders am ei ddewrder. Bydded i Dduw Israel ei fendithio yn ôl Ei addewid.

Saturday, June 22, 2024

y naill neu y llall

Beth mae'n ei olygu, "caru Iesu"?

Meddai, "Os yw rhywun yn fy ngharu i, bydd yn cadw fy ngair i... Nid yw'r sawl nad yw'n fy ngharu i yn cadw fy ngeiriau i...." - Ioan 15:23, 24

Felly, allwch chi ddim dweud eich bod chi'n caru Iesu os dach chi'n  anwybyddu ei air. Naill ai Iesu eich Arglwydd chi neu dydy o ddim; does dim tir canol.

Friday, June 21, 2024

dyn doethaf yn y byd

"A phan welodd brenhines Sheba holl ddoethineb Solomon, a'r tŷ a adeiladodd, ac arlwy ei fwrdd, eisteddiad ei swyddogion, gwasanaeth ei weision a'i drulliaid yn eu lifrai, a'r poethoffrymau y byddai'n eu hoffrymu i'r Arglwydd, diffygiodd ei hysbryd." - 1 Brenhinoeddd 10:4,5

"Wedi clywed y cyfan, dyma swm y mater: ofna Dduw a chadw ei orchmynion, oherwydd dyma ddyletswydd pob un." - y Pregethwr 12:13

Roedd y Brenin Solomon yn ddyn doethaf yn y byd, a bendithiwyd gan Dduw yn fawr iawn. Trueni na chymerodd o'i gynghorion doeth ei hun.

Thursday, June 20, 2024

ailgylchu arwyddion

Mae'r ci drws nesaf yn mynnu dod i'n hiard ni drwy ddringo'r ffens. Mae'r perchennog yn gwrthod ateb y drws pan aeth y gŵr i siarad â fo. Ces i syniad da - Mae gynnon ni hen arwyddion iard ymgeiswyr gwleidyddol yn y garej. Dyma ni yn eu hailgylchu nhw er mwyn atal y ci rhag dringo'r ffens.

Tuesday, June 18, 2024

mae gan obaith enw

Gobaith - yr elfen bwysicaf mewn bywyd

Pwy gall fyw hebddo fo? Ond beth ydy gobaith? Mae rhai yn dweud mai agwedd meddyliol cadarnhaol ydy o, ond mae'r Beibl yn dweud mai dibyniaeth gadarn ar Dduw ydy gobaith. Ac mae gan obaith enw, sef Iesu.


Monday, June 17, 2024

safonau dwbl

Lladdwyd miliynau yn y Congo - dim penawdau
Bu farw hanner miliwn yn Syria - dim dicter
Collwyd 77,000 o fywydau yn Yemen - distawrwydd
Lladdwyd 236,000 yn Afghanistan - wedi'u hanwybyddu
Llofruddiwyd 500,000 yn Swdan - dim ymateb
Lladdwyd 300,000 o Yezidi yn Irac - wedi'u hanwybyddu
Lladdwyd 62,000 o Gristnogion yn Nigeria - dim sylw

Mae Israel yn amddiffyn ei hun ar ôl i Hamas oresgyn a llofruddio sifiliaid - ysgelerder byd-eang

Gwarthu ydy'r safonau dwbl hyn. 

(Y post gwreiddiol yn Saethneg gan Hananya Naftali)

Saturday, June 15, 2024

gweddi dros Israel

"O Arglwydd, gwared fi rhag pobl ddrygionus;
cadw fi rhag rhai sy'n gorthrymu,
rhai sy'n cynllunio drygioni yn eu calon,
a phob amser yn codi cythrwfl." - Salmau 140:1,2


Friday, June 14, 2024

Penblwydd hapus i'r cyn arlywydd trump


Does dim angen cymryd y cyfrifoldeb enfawr arno fo; mae o'n medru ymddeol ac ymlacio’r gweddill o'i fywyd yn gyfforddus. Dewisodd, fodd bynnag, i frwydro dros America. Dw i'n credu iddo gael ei ddewis gan Dduw i gyflawni Ei ewyllys ar gyfer y fath amser â hwn.
Dewisodd ddyn oedrannus, yn hytrach na dyn ifanc, er mwyn dangos mai O sydd yn rhoi nerth, dw i'n credu.

"Oherwydd trwot ti y gallaf oresgyn llu;
trwy fy Nuw gallaf neidio dros fur." - y Salm 18:29

Tuesday, June 11, 2024

blaen y mynydd iâ


Mae 30,000 Iddewon sydd yn credu yn eu Meseia yn Israel heddiw. Yn ôl One for Israel, mae'n debyg mai blaen y mynydd iâ maen nhw yn ystyried y nifer o ymatebion a thystiolaethau a dderbynnir bob dydd. Mae gan y credinwyr newydd ofn dangos eu ffydd yn Iesu. Mae OFI yn gofyn am weddi drostyn nhw fel bydd Gair Duw yn byw'n llawn ynddyn nhw drwy'r gwasanaethau a deunyddiau ar-lein.

Monday, June 10, 2024

heddwch ar bob cyfrif

 "Heddwch os yn bosibl, gwirionedd ar bob cyfrif."
 - dywediad doeth gan Martin Luther

Mae'r byd yn gofyn am heddwch ar bob cyfrif gan anwybyddu gwirionedd y dyddiau hyn.

"Y mae tymor i bob peth, ac amser i bob gorchwyl dan y nef:
amser i eni, ac amser i farw,
amser i ryfel, ac amser i heddwch." - y Pregethwr 3:1, 8b

Saturday, June 8, 2024

beth bynnag y mae rhywun yn ei hau

Y mae'n sicr na chaiff un drwg osgoi cosb,
ond caiff plant y cyfiawn fynd yn rhydd. - Diarhebion 11:21

Peidiwch â chymryd eich camarwain; ni chaiff Duw mo'i watwar, oherwydd beth bynnag y mae rhywun yn ei hau, hynny hefyd y bydd yn ei fedi. - Galatiaid 6:7

Friday, June 7, 2024

beth mae'r Arglwydd yn ei gasáu

Dau beth sy'n gas gan yr Arglwydd –
gollwng yr euog yn rhydd a chosbi'r dieuog.
Diarhebion 17:15 (Beibl.net)

Gwae'r rhai sy'n galw drwg yn dda, a da yn ddrwg,
sy'n gwneud tywyllwch yn oleuni, a goleuni yn dywyllwch,
sy'n gwneud chwerw yn felys a melys yn chwerw.
Eseia 5:20

Wednesday, June 5, 2024

diwrnod jerwsalem


Mae'n coffáu ailuno Jerwsalem o dan sofraniaeth Iddewig yn 1967. Yn anffodus, roddodd Moshe Dayan, Gweinidog Amddiffyn ar y pryd, y sofraniaeth i Iorddonen yn gyfnewid am heddwch na ddaeth. Un diwrnod, fodd bynnag, bydd Jerwsalem dan sofraniaeth yr Arglwydd Iesu, a bydd tangnefedd go iawn yno.

Tuesday, June 4, 2024

ofn yr Arglwydd yw

Ofn yr Arglwydd yw casáu drygioni.
Diarhebion 8:13

Dywedir yn aml ddylech chi ddim casáu dim, ond dydy Gair Duw ddim yn cytuno â'r farn boblogaidd hon.

Y mae tymor i bob peth, ac amser i bob gorchwyl dan y nef.
Y Pregethwr 3:1

Monday, June 3, 2024

dagrau mefus

Mae fy merch hynaf newydd orffen murlun arall. Roedd dwsinau o artistiaid wrthi'n creu murluniau lliwgar yn Ŵyl Furlun yn Ponca City, Oklahoma penwythnos diwethaf. Cafodd gymorth gwerthfawr gan ei gŵr a'i ffrind o Japan. Dagrau Mefus ydy teitl y murlun. Roedd yn hynod o boblogaidd ymysg ymwelydd benywaidd.

Saturday, June 1, 2024

$53 miliwn o ddoleri


Cododd y Cyn Arlywydd Trump 53 miliwn o ddoleri mewn 24 awr, wedi iddo gael ei ddyfarnu'n euog. Pobl newydd oedd 1/3 o'r rhoddwyr. Dyma farn cynifer o Americanwyr. Digon ydy digon. Mae'r system gyfiawnder yn ddychrynllyd o lygredig. Do, rhoddais bres i'r achos hefyd - 34 doler er mwyn symboleiddio 34 cyfrif o'r ffeloniaethau bondigrybwyll.

Cangarŵ druan! Mae'n mynd o ddrwg i waeth iddyn nhw.

Friday, May 31, 2024

cangarŵ druan


Maen nhw'n cael hi'n anodd ymdopi'n ddiweddar. Cafodd eu henw ei gipio a'i faeddu gan bobl ddifeddwl. Os gwelwch chi'n dda, stopio ei ddefnyddio i ddisgrifio system gyfiawnder llwgr Unol Daleithiau! Da iawn eto, y Wenynen!

Wednesday, May 29, 2024

arbed ynni neu beth


Roedden ni'n gorfod prynu peiriant sychu dillad wythnosau'n ôl. Roedd ein hen un ni'n gweithio'n dda nes iddo gyrraedd diwedd ei fywyd. Cafodd yr un newydd ei wneud yn ôl rheolau arbed ynni'r llywodraeth. Mae hyn yn golygu nad ydy dillad yn sychu'n dda. Rhaid iddyn nhw aros yn y peiriant yn hirach, yn defnyddio mwy o ynni.

Tuesday, May 28, 2024

llewys pwff

Mae fy merch hynaf newydd orffen paentiad wedi'i gomisiynu. Dyma ferch Ffilipinaidd sydd yn gwisgo ffrog gyda llewys pwff traddodiadol. Sampaguita ydy'r blodyn gwyn (blodyn cenedlaethol Ynysoedd y Philipinau.)

Monday, May 27, 2024

dydd cofio


Nad ydy rhyddid yn rhad ac am ddim.

Saturday, May 25, 2024

cynhesu byd-eang eithaf

"Mae dydd yr Arglwydd yn dod. Ond bydd yn dod yn gwbl ddirybudd, fel lleidr. Bydd popeth yn yr awyr yn diflannu gyda sŵn rhuthr mawr. Bydd yr elfennau yn cael eu dinistrio gan dân, a phopeth ddigwyddodd ar y ddaear yn dod i'r golwg i gael ei farnu. Am fod popeth yn mynd i gael ei ddinistrio fel hyn, mae'n amlwg sut bobl ddylen ni fod! Dylen ni fyw bywydau glân sy'n rhoi Duw yn y canol, ac edrych ymlaen yn frwd i ddiwrnod Duw ddod."
- 2 Peder 3:10-12 (Beibl.net)

Tyrd, Arglwydd Iesu!

Friday, May 24, 2024

42fed

Roedd yn ein 42fed penblwydd priodas ni ddoe. Dathlon ni gan gael swper yn Napoli's, ac archebu Tiramisu. (Dan ni byth yn archebu pwdin fel arfer.) Dw i'n diolch i Dduw bob dydd am y gŵr sydd yn caru Iesu o'i galon, a gweithredu Gair Duw yn ddidwyll.

Wednesday, May 22, 2024

y rheswm


Esgorodd y Duw grŵp ethnig, sef Iddewon, drwy Abraham, er mwyn datgeli Meseia a'i gynllun iachawdwriaeth. Dyna pam dylai'r Cristnogion i gyd fendithio ac anrhydeddu Israel ac Iddewon. Trwy wneud hyn, byddan nhw'n bendithio ac anrhydeddu Duw.

- Gary Hamrick, Cornerstone Chapel, Virginia

Tuesday, May 21, 2024

datganiad Duw

Dywed Arglwydd y Lluoedd:

"Bendithiaf y rhai sy'n dy fendithio, a melltithiaf y rhai sy'n dy felltithio ...." Genesis 12:3

".... am fod pob un sy'n cyffwrdd â chwi yn cyffwrdd â channwyll ei lygad." Sechareia 2:8


Monday, May 20, 2024

gweiddi llawen

Pan mae'r cyfiawn yn llwyddo mae'r ddinas wrth ei bodd;
mae gweiddi llawen ynddi pan mae'r rhai drwg yn cael eu dinistrio.
Diarhebion 11:10 (beibl.net)

Saturday, May 18, 2024

does dim lle yn y llety



Cyrcydodd gwesty yn Nashville mewn ofn dan fygythiad gan grŵp gwrth-semitiaeth. Does dim lle yn y llety.

Friday, May 17, 2024

cyngor doeth

"Mae pobl synhwyrol yn rheoli eu tymer; maent yn ennill parch trwy anwybyddu sarhad."
Diarhebion 19:11

Mewn geiriau eraill: peidiwch â chwysu pethau bychain.

Wednesday, May 15, 2024

dihareb yn ddarluniad

Dyma ddarluniad gan fy merch hynaf, wedi iddi glywed y ddihareb a bostiais Ddydd Llun! Ces i fy synnu ei bod hi wedi ei throi hi yn gelf, ac ar unwaith hefyd. Rhaid bod y ddihareb danio ei dychymyg.

Tuesday, May 14, 2024

76 a 3,000 oed



Penblwydd hapus i Israel yn 76 a 3,000 oed. 
Mae ffyddlondeb Duw Israel yn para am byth. Bydd o'n cyflawni ei addewidion heb fethu nac oedi.
"Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw: O fy mhobl, yr wyf am agor eich beddau a'ch codi ohonynt, ac fe af â chwi'n ôl i dir Israel. Yna, byddwch chwi fy mhobl yn gwybod mai myfi yw'r Arglwydd...." Eseciel 37:12, 13

Monday, May 13, 2024

heb eu dweud

Mae dywediad hynod o ddoeth yn Japaneg. Dw i ddim yn gwybod a oes un tebyg yn Gymraeg. 
Hwn ydy cyfieithiad syml: Heb eu dweud - blodyn.
Mae'n golygu bod yna rai pethau gwell gadael heb eu dweud.
Doeth iawn.