Saturday, June 20, 2026

cwpan y byd

Daeth breuddwyd fy mab hynaf yn wir ddoe, hynny ydy gweld gêm tîm UDA yng Nghwpan y Byd. Mae o a'i deulu yn Seattle am wyliau rŵan, ac aeth (ar ben ei hun) i'r stadiwm i weld y gêm rhwng UDA ac Awstralia. Roedd yn brofiad byth cofiadwy, meddai! 

Cyn y gêm, cannodd y tîm a chefnogwyr UDA'r anthem gyda'u holl galonnau, a'u llais yn atseinio'r stadiwm enfawr.

Friday, June 19, 2026

synnu'n bleserus

Daeth llawer o bobl dros y byd i America'r wythnos hon i gefnogi eu timau pêl-droed sydd yn cystadlu yng Nghwpan y Byd. Cafodd nifer mawr ohonyn nhw eu synnu'n bleserus i ddarganfod pa mor gyfeillgar a chymwynasgar ydy'r Americanwyr, yn hollol groes i'r hyn a glywon nhw gan y prif gyfryngau. Cawson nhw eu taro gan Buc-ee's hefyd (wrth reswm!)

Wednesday, June 17, 2026

rysáit bara

Rhaid bod y rysáit hwn yn berffaith iach oherwydd mai gan Dduw a roddwyd. 

"Cymer iti wenith a haidd, ffa a phys, miled a cheirch, a'u rhoi mewn un llestr, a gwna fara ohonynt."

Mae cwmni yn gwerthu'r bara hwn hyd yn oed, ac mae nifer o fideos ar YouTube. Gobeithio, fodd bynnag, bod neb yn dilyn y dull a roddwyd yn y Beibl! (Eseciel 4:9-15)

Monday, June 15, 2026

hwyl am y tro

Cafodd y nef aelod newydd eto. Ces i sgwrs sydyn gyda fo ond pythefnos yn ôl. Yna, clywais fod fy hen ffrind annwyl wedi mynd at Iesu'n barod. Dwedodd ei wraig nad oedd yn dioddef wrth iddo fynd. Dim ond dweud a wnaeth, "dw i'n mynd adref" cyn tynnu ei anadl olaf. Hwyl am y tro, fy ffrind. 

Sunday, June 14, 2026

80 oed

Mae o'n 80 oed heddiw, ac yn ysgwyddo, gyda brwdfrydedd ac egni, cymaint o bwysau a all lorio rhai ifanc. Dw i'n credu'n sicr mai Duw sydd yn rhoi nerth iddo fo, drwy weddïau gan bobl ddi-rif drwy'r byd. 

Penblwydd hapus i'r Arlywydd Trump annwyl!

Saturday, June 13, 2026

cân y brenin Dafydd

"Trwot ti y gallaf oresgyn llu;
trwy fy Nuw gallaf neidio dros fur.
Y Duw hwn, y mae'n berffaith ei ffordd,
ac y mae gair yr ARGLWYDD wedi ei brofi'n bur;
y mae ef yn darian i bawb sy'n llochesu ynddo.
Byw yw'r ARGLWYDD, bendigedig yw fy nghraig,
dyrchafedig fyddo'r Duw sy'n fy ngwaredu," canodd Dafydd. 

Amen!

Friday, June 12, 2026

criw nos

Roedd yn stormus neithiwr. Pan ddeffrais yn ystod y nos, roeddwn i'n sylweddoli nad oedd trydan. Es i'r tŷ bach gyda fflach lamp. Methais fynd yn ôl i gysgu. Wedi hanner awr, fodd bynnag, clywais y ficrodon yn gwneud sŵn gwan tu ôl y mur. Roeddwn i'n gwybod bod y trydan wedi dychwelyd, diolch i'r criw a ddatrysodd y broblem yng nghanol nos.

Wednesday, June 10, 2026

un newydd yn y nef

Fu farw nain wraig fy mab hynaf o gancro yn Taiwan neithiwr. Hedfanodd ei mab o Texas pan glywodd ei bod hi ar fin marw wythnosau'n ôl. Doedd ganddi ddiddordeb yn Nuw yn ystod ei bywyd, ond wrth iddi nesáu at farwolaeth, meddalodd ei chalon. Gyda chymorth ei mab a gweinidog yr ysbyty, rhoddodd ffydd yn Iesu Grist. Gadawodd y byd hwn yn y tangnefedd perffaith. Mae hi gydag Iesu bellach. Haleliwia!

Monday, June 8, 2026

Itai y Gethiad

Roedd y Brenin Dafydd yn ceisio ffoi o'i fab, Absalom, a gadael Jerwsalem. Yn ymysg y rhai a'i dilynodd oedd Itai y Gethiad, a'i 600 o ddynion gyda'u teuluoedd. Er bod y Brenin yn annog i Itai i fynd at y brenin newydd (Absalom,) gwrthod a wnaeth Itai gan fynnu, "ple bynnag yr â f'arglwydd frenin, i farw neu i fyw, yno'n sicr y bydd dy was hefyd.” 

Dyn ffyddlon a chryf - un o fy hoff gymeriadau ydy o. 

Saturday, June 6, 2026

dŵr bywiol

Oes syched arnoch chi? Hynny ydy, syched yr ysbryd. Dyma fo, y dŵr bywiol:

“Pwy bynnag sy'n sychedig, deued ataf fi ac yfed. Allan o'r sawl sy'n credu ynof fi, fel y dywedodd yr Ysgrythur, y bydd ffrydiau o ddŵr bywiol yn llifo,” meddai Iesu


Wednesday, June 3, 2026

bro fy mebyd

Mae fy ail ferch yn Japan newydd bostio'r lluniau a dynnodd yn ystod ymweliad ei thad y mis diwethaf. Hwn ydy un ohonyn nhw, glan Afon Tama ym mro fy mebyd. Mae'n rhyfeddol bod fy merch yn byw mewn ardal digon agos at y lle a ges i fy magu.

Tuesday, June 2, 2026

doethineb babi

Gofynnodd fy wyres, ddwy a hanner oed, i'w mam wrth weld llun o'i rhieni cyn iddi gael ei geni, "lle ydw i?" 

Atebodd ei mam, "doeddet ti ddim yna. Dw i ddim yn gwybod lle oeddet ti cyn i ti ddod tu mewn i fy stumog. Lle oeddet ti? Oeddet ti gyda Duw? Oeddet ti'n arnofio rhywle?" 

"Ar y dŵr," meddai.

Monday, June 1, 2026

llythyr at fy mam

Dw i newydd anfon llythyr at fy mam sydd yn byw mewn cartref henoed yn Tokyo. Dw i'n ysgrifennu llythyr ati ar y cyntaf o bob mis ers blynyddoedd. Yn ddiweddar mae ei chof wedi gwaethygu'n arw fel nad ydy hi'n cofio ei theulu'n dda hyd yn oed. Dw i ddim yn sicr ydy hi'n fy nghofio i chwaith. Dw i'n dal i ysgrifennu ati hi, fodd bynnag wrth obeithio adfywio ei hymennydd. Bydda i'n cynnwys adnod neu ddwy bob tro. Dewisais hon (eto) y tro 'ma, sydd yn addas i mi hefyd:

"Am hynny, nid ydym yn digalonni. Er ein bod yn allanol yn dadfeilio, yn fewnol fe'n hadnewyddir ddydd ar ôl dydd." 2 Corinthiaid 4:16