Tuesday, November 11, 2025
diwrnod y cyn-filwyr o safbwynt cyn-filwr
Monday, November 10, 2025
yn barod unrhyw bryd
Dw i'n cytuno â Paul yn llwyr. Y gwahaniaeth, fodd bynnag ydy nad oes cyfyng arna' i fel fo. Mae'r plant i gyd wedi gadael cartref ac mae pob un ohonyn nhw'n rhodio'n ffyddlon gydag Iesu Grist. Dw i'n barod i ymadael y byd yma a bod gyda fy Arglwydd unrhyw bryd.
Saturday, November 8, 2025
cyfrif ein dyddiau
"Deng mlynedd a thrigain yw blynyddoedd ein heinioes,
neu efallai bedwar ugain trwy gryfder,
ond y mae eu hyd yn faich ac yn flinder;
ânt heibio yn fuan, ac ehedwn ymaith.
Pwy sy'n gwybod grym dy ddicter,
a'th ddigofaint, fel y rhai sy'n dy ofni?
Felly dysg ni i gyfrif ein dyddiau,
inni gael calon ddoeth." Salmau 90:10 - 12
Wednesday, November 5, 2025
rhydd mewn gwirionedd
Ond dwedodd Iesu, "mae pob un sy'n cyflawni pechod yn gaethwas i bechod." Ioan 8:34
Yna, efallai y byddwch chi'n gofyn, "sut alla i fod yn rhydd felly?"
Dyma'r ateb gan Iesu: “Os arhoswch chwi yn fy ngair i.... cewch wybod y gwirionedd, a bydd y gwirionedd yn eich rhyddhau." Ioan 8:31
"Os yw'r Mab (Iesu) yn eich rhyddhau chwi, byddwch yn rhydd mewn gwirionedd." Ioan 8:36
Tuesday, November 4, 2025
cuddio eu hunain fel palesteiniaid
"Mae'r Cristnogion yn Nigeria yn cuddio eu hunain fel Palesteiniaid fel y bydd pobl yn bwrw sylw ar yr hil-ladd yn eu herbyn."
Yn llygad ei le unwaith eto, y Wenynen. Nid dim ond yn Nigeria, ond mae miliynau o Gristnogion dros y byd yn cael eu llofruddio a'u herlid yn erchyll bob dydd. Ac eto dydy'r prif gyfryngau a dylanwadwyr cyfryngau cymdeithasol byth yn rhoi sylw arnyn nhw. Efallai mai syniad da i ddefnyddio i'r dioddefwyr i gyd wedi'r cwbl.
Monday, November 3, 2025
rhrannu ei dir
Mae Jwda a Jerwsalem yn perthyn i Israel. Calon eu tir ydyn nhw lle mae cynifer o bethau a ysgrifennwyd yn y Beibl wedi digwydd. Dydy Duw ddim yn hapus gyda'r bobl sydd yn dwyn a rhannu'r tir a roddodd i bobl Israel, fel dwedodd yn yr Ysgrythur:
pan adferaf lwyddiant Jwda a Jerwsalem,
fe gasglaf yr holl genhedloedd
a'u dwyn i ddyffryn Jehosaffat,
a mynd i farn â hwy yno
ynglŷn â'm pobl a'm hetifeddiaeth, Israel,
am iddynt eu gwasgaru ymysg y cenhedloedd
Saturday, November 1, 2025
y peth pwysicaf
Er bod fy mam (103) yn Japan yn anhygoel o iach yn ei chorf, mae ei dementia yn gwaethygu’n gyflym yn ddiweddar. Mae'n ymddangos ei bod hi wedi anghofio llawer o bethau a phwy ydy pwy. Dw i'n gobeithio a gweddïo bob dydd y bydd hi'n cofio'r un peth pwysicaf, sef beth wnaeth Iesu Grist drosti.