Saturday, October 4, 2008

be sy i ginio?



Yn ddiweddar prynon ni badell drydan fawr i wneud nifer o 'pancakes' ar yr un pryd. Mae hi'n hanod o gyfleus ond a dweud y giwr dylen ni fod wedi ei phrynu flynyddoedd yn ôl cyn i hanner o'r plant adael adref.

'Pancakes' gaethnon ni i ginio heddiw beth bynnag. Ac dyma un ola wnes i i'r ddau fenga. Roedd rhaid iddyn nhw ei rannu achos doedd 'na ddim digon o gytew ar ôl.

8 comments:

Dogfael said...

Jyst yn meddwl yr hoffet ti wybod fod 'na sawl gair Cymraeg am 'pancakes'. Y mwyaf safonol yw crempog/crempogau, ond fe gei di hefyd ffroesen/ffroes, cramwythen/cramwyth neu hyd yn oed pancosen/pancos (dyna beth dwi'n ei ddweud) a poncag/poncage.

Dogfael said...

Gyda llaw mae'r pancos yn edrych yn flasus iawn. Maen nhw'n debyg iawn i'r pancos roedd fy mam i yn arfer eu coginio yn defnyddio'r planc.

Gwybedyn said...

mmm dw innau wrth 'y modd â chrempog, hefyd - yn enwedig rhai wedi'u coginio fel hyn... 'crempog ar y maen' fel petai (maen ffasiwn newydd).

Emma Reese said...

Diolch am y wybodaeth, Dogfael. Dw i heb glywed y geiriau ma heblaw crempog/au. Mae pancos yn swnio'n dwt.

Blewyn said...

Fedri di wneud chapatis a parathas efo hwnna ! Oes gen ti rywbeth fflat trwm i wneud tortillas ffres hefyd ? mmmmmm....

Emma Reese said...

Maen nhw'n swnio'n flasus. Oes gen ti rysait syml? Rhywbeth fflat trwm.... padell ffrio haearn?

asuka said...

wrth edrych ar y llun 'na, sa' i'n siwr ydw i 'di gweld unrhyw beth mwy del erioed.
<(^^)>

Emma Reese said...

Diolch, ond dw i ddim yn siwr ydy hyn yn syniad da wedi'r cwbl achos bod hi braidd yn drist bwyta peth del!