Saturday, July 11, 2009

you don't speak welsh


Prynes i'r llyfr bach hwn gan Sandi Thomas flynyddoedd yn ôl. Dw i wedi ei ddarllen mwy nag unwaith, a chael fy ysbrydoli i ddal ati bob tro. Ces i fy atgoffa i amdano ddoe ac dyma ddechrau ei ddarllen eto. Dw i newydd orffen.

Mor falch dw i mod i wedi ei ddarllen dydddiau cyn mynd i Gymru. Mae Sandi wedi geirio'n union beth sy wedi bod yn cronni yn fy nghalon ers i mi ddechrau dysgu'r iaith mor hardd ac mor 'compelling' ma (sori nad oes gen i syniad beth mae dweud hwn yn Gymraeg.) 

Roedd hi'n ysu am fyw yng Nghymru. Gobeithio bod ei breuddwyddion wedi cael ei wireddu bellach.


2 comments:

Corndolly said...

Dw i ddim wedi darllen y llyfr o'r blaen, ond dw i'n edrych ymlaen at dy weld di yma yng Nghymru yn fuan.

Emma Reese said...

Mae'r llyfr allan o argraff wedi'r cwbl. Un o'r llyfrau gorau i ddysgwyr ydy o yn fy nhyb i. Wela i ti yn fuan.