Monday, October 5, 2009

siom

Dw i newydd glywed gan diwtor fy nosbarth "Tai Chi" bod y dosbarth dydd wedi cael ei ganslo. Does yna ddim digon o bobl sy'n dod yn y dydd yn ddiweddar. Dim ond dosbarth nos sy'n dal. Fedra i ddim ei fynychu achos mod i'n brysur gyda'r hwyr. Bydda i'n ymarfer "Tai Chi" ar fy mhen fy hun adref bob dydd ond dydy hynny ddim cystal รข mynd i ddosbarth wrth reswm. Wel, sgen i ddim dewis. Mae'r tymor alergedd ar fin darfod. Bydda i wrthi'n cerdded.

4 comments:

Dyfed said...

Dwi'n hoffi'r llun o'r logiau! Rydym newydd symud allan o dy oedd efo llosgwr logiau, a dwi'n ei golli yn fawr!
Dyfed.

Emma Reese said...

Maen nhw'n cynhesu'r ty yn braf ond rhaid gweithio'n galed i baratoi at y gaeaf. Fy ngwr sy'n torri coed yn logiau.

Linda said...

Hen dro am y tai chi :(

Emma Reese said...

Dw i'n meddwl mynd i ddosbarth arall er mod i ddim yn siwr gwna i ei licio fo. Gawn ni weld.