Yn ddiweddar dw i'n anghofio enwau a ballu mwy o lawer nag o'r blaen (wrth reswm!) Soniodd fy merch hyna am y safle hwn y bore ma a dyma gofrestru ar fy union. Mae'r ymarferion yn syml a dim ond munudau a gymrith i'w gwneud. Yn anad dim, (dyma i ti eto Neil!) maen nhw'n rhad ac am ddim. Mae yna safleoedd eraill tebyg a dw i heb ymchwilio ynddyn nhw ond mae hyn yn ymddangos yn dda. Mae gynnyn nhw amcan rhagorol hefyd. Sbïwch ar 'amdanon ni.'
Dw i'n mynd i wneud hyn yn ogystal â 'Tai Chi' bob bore.
No comments:
Post a Comment