Dw i eisiau gwneud rhywbeth i ymarfer corff yn ogystal â cherdded. Mae dawnsio llinell yn iawn ond bydd yn neis cael gwneud pethau gwahanol hefyd. Yna, des i ar draws 'New York City Ballet Workout' ar You Tube heddiw. Mae o'n dda iawn. Mae yna ryw ddeg o rannau byrion digon hawdd ond digon heriol. Yr unig broblem ydy bod ein cysylltiad rhyngrwyd ni'n rhy araf fel y fy mod i'n gorfod aros yn hir iddyn nhw lawrlwytho cyn gwneud y rhan ganlynol. Dw i'n mwynhau serch hynny.
No comments:
Post a Comment