Pan oeddwn i'n aros gyda Judy yn y Bala, clywes i hi'n dweud pa mor dda oedd siocled Cadbury, llawer mwy blasus na siocled Hershey. A dweud y gwir bod hi'n meddwl bod yr olaf yn ofnadwy a fy annog i drio Cadbury. Roedd ei hysbysiad yn syndod i mi achos mod i'n credu'n siwr bod siocled Hershey'n eithaf da!
Doeddwn i ddim yn sylweddoli tan yn ddiweddar bod siocled Cadbury'n cael ei werthu yn Wal-Mart er un wnaed gan Hershey. Dyma brynu bar bach a'i fwyta (o dipyn i beth).... Mae Judy'n iawn. Mae o'n fwy blasus na Hershey ond yn ddrytach hefyd. Baswn i'n prynu Cadbury nes ymlaen pe bai o'n rhatach.
2 comments:
Mae cwmni bwydydd Kraft yn trio cymryd Cadbury drosodd ar hyn o bryd, ond mae bwrdd Cadbury wedi gwrthod y cynnig dechreuol o rai £9biliwn a'i alw'n chwerthinllyd, gawn ni weld be digwythith! ond diolch byth am eu siocled!!
Dw i'n hoff iawn o siocled gan Cadbury's hefyd. Pan o'n i'n ifanc, o'n cynilo fy arian poced er mwyn prynu bar enfawr - i fi yn 7 oed - am 6 cheiniog. Hoffwn i fod yn gallu prynu bar enfawr am 6 cheiniog heddiw. Ond mae'n werth gwario dy bres arno.
Post a Comment